Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen hawlio credydau treth bydd angen i chi roi manylion eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf. Mae blwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Os ydych chi'n hunangyflogedig - ar eich pen eich hun neu mewn partneriaeth - eich incwm yw'r elw a wnaethoch chi.
Mae tri cham i’r broses:
Yn gyntaf, cyfrifwch faint o elw wnaethoch chi. Os ydych chi wedi llenwi eich ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth beth oedd yr elw roeddech chi wedi'i roi ar y ffurflen. Os oedd gennych chi fwy nag un busnes, adiwch elw'r holl fusnesau.
Os nad ydych chi wedi llenwi eich ffurflen dreth, bydd angen i chi amcangyfrif eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf. Yr elw yw'r gwahaniaeth rhwng yr holl arian a wnaethoch chi o wneud y gwaith neu werthu'r nwyddau a chost gwneud y busnes hwnnw.
Gallwch gael help i gyfrifo eich elw drwy ffonio'r Llinell Gymorth Hunanasesu.
Manylion cyswllt am y Llinell Gymorth Hunanasesu
Elw o du allan i’r DU
Mae’n rhaid i chi gynnwys unrhyw elw wnaethoch o weithio y tu allan i’r DU. Mae angen i chi lenwi’r swm mewn punnoedd Prydeinig, nid yr arian tramor. I gyfrifo hyn, defnyddiwch y gyfradd gyfnewid gyfartalog am y flwyddyn y mae’ch incwm chi yn berthnasol iddo. Felly, os yw’ch incwm yn berthnasol i’r flwyddyn dreth 6 Ebrill 2011 i 5 Ebrill 2012, defnyddiwch y gyfradd gyfnewid gyfartalog am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2012.
Os oedd eich busnes wedi cael incwm neu elw arall, er enghraifft incwm rhent o fflat uwch ben siop, ychwanegwch hwn at eich elw: peidiwch â'i ddangos fel 'incwm arall' ar eich ffurflen hawlio credydau treth neu ar y ffurflen Datganiad Blynyddol.
Os ydych yn defnyddio cyfartaleddu – er enghraifft os ydych chi’n ffarmwr neu arddwr marchnad
Mae angen i chi addasu eich elw i dynnu allan y cyfartaleddu. I wneud hyn, edrychwch i weld beth rydych wedi rhoi yn un o’r bylchau canlynol ar eich ffurflen dreth.
Os yw’r swm a wnaethoch roi:
Ar ôl i chi gyfrifo'r elw, tynnwch:
Tynnwch gyfanswm Cam 2 o gyfanswm Cam 1 i ddangos eich Incwm o hunangyflogaeth. Rhowch hyn ar eich ffurflen hawlio credydau treth neu'ch ffurflen Datganiad Flynyddol yn yr adran ar incwm. Os oeddech chi wedi gwneud colled yn y flwyddyn dreth ddiwethaf, rhowch 0 yn y blwch.
Gallwch dynnu colled busnes o unrhyw incwm arall a gawsoch yn ystod y flwyddyn - neu o incwm arall a gawsoch chi a'ch partner os ydych chi'n gwneud hawliad ar y cyd. Gellir cario unrhyw golled sydd ar ôl drosodd i elw blynyddoedd yn y dyfodol yr un busnes.
Mae’n bosib eich bod ond newydd ddechrau gweithio i chi'ch hun ac nad ydych wedi cael dim incwm o hunangyflogaeth yn y flwyddyn dreth ddiwethaf. Os felly, gadewch y blwch 'incwm o hunangyflogaeth' yn wag.
Efallai nid yw'r holl wybodaeth angenrheidiol gennych chi i gyfrifo eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf, defnyddiwch beth sydd gennych chi i wneud amcangyfrif.
Er enghraifft, os yw'r arian sy'n dod i mewn yn weddol debyg drwy gydol y flwyddyn, gallwch ddefnyddio'r swm hwnnw a'i luosi gyda:
Os bydd eich amcangyfrif yn rhy isel, efallai y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn talu gormod i chi a bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Os ydych chi wedi amcangyfrif eich incwm, rhowch ‘x’ yn y blwch amcangyfrif incwm ar eich ffurflen hawlio credydau treth neu'r ffurflen Datganiad Blynyddol. Bydd angen i chi ddarparu manylion o’ch incwm gwirioneddol erbyn 31 Ionawr neu’r dyddiad cau sy’n cael ei rhoi i chi pan yr ydych yn cael eich gofyn i adnewyddu eich credydau treth.
Bydd arnoch angen dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os ydych chi'n disgwyl cael mwy neu lai o arian yn dod i mewn eleni. Bydd hyn helpu i wneud yn siŵr nad ydych chi'n cael rhy ychydig na gormod o gredydau treth.