Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Os nad yw eich teulu yn y DU – cymorth i hawlio credydau treth

Os ydych chi yn y DU ond bod eich teulu dramor, mae’n bwysig eich bod yn llenwi eich ffurflen hawlio credydau treth yn gywir. Os na wnewch chi, mae’n bosib y bydd hyn yn peri oedi ar eich taliadau, neu y bydd y swm y cewch eich talu yn anghywir.

Pryd y dylech wneud hawliad ar y cyd neu hawliad sengl

Gwnewch hawliad am gredyd treth sengl os ydych yn y DU ac mae un o’r canlynol yn wir:

  • mae’ch partner yn byw y tu allan i’r DU, ac nid oes gennych chi blant
  • mae’ch partner a’ch plant yn byw y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop neu’r Swistir – oni bai fod eich partner yn un o Weision y Goron wedi'i leoli dramor, a dylid gwneud hawliad ar y cyd yn yr achos hwnnw
  • rydych yn sengl ac mae gennych chi blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol, ond maent yn byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir gyda’ch cynbartner
  • nid oes gennych chi blant ac mae’ch partner wedi bod dramor am fwy nag wyth wythnos (neu am fwy na 12 wythnos, os ydyw dramor am ei fod ef/hi, neu aelod o’r teulu – megis plentyn, brawd chwaer neu riant – yn cael triniaeth feddygol neu wedi marw)

Gwnewch hawliad ar y cyd am gredydau treth os ydych yn y DU ac os yw un o’r canlynol yn wir:

  • mae’ch partner a’ch plant yn byw neu'n gweithio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir
  • mae’ch partner yn y DU hefyd ond maen nhw’n mynd dramor am wyth wythnos neu lai (neu am hyd at 12 wythnos os ydyw ef/hi, neu aelod o’r teulu – megis plentyn, brawd, chwaer neu riant – yn cael triniaeth feddygol neu wedi marw)
  • mae’ch partner yn un o Weision y Goron sy’n gweithio unrhyw le dramor, er enghraifft yn y lluoedd arfog
  • mae gennych chi a’ch partner blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol, ond maent yn byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir gyda chynbartner

Gwledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd

Ynghyd â’r DU, dyma’r gwledydd sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd: yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia a Sweden.

Pryd i gynnwys plant ar y ffurflen hawlio

Os oes gennych chi blentyn, gallwch ei gynnwys ar eich ffurflen hawlio os ydych chi’n byw yn y DU ac os yw un o’r canlynol yn wir:

  • mae eich plentyn yn byw gyda chi fel arfer
  • mae eich plentyn yn byw gyda’ch partner neu gydag unigolyn arall, er enghraifft taid neu nain, yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac mae’n ddibynnol arnoch yn ariannol
  • rydych wedi gwahanu’n barhaol â’ch partner ac mae’ch plentyn yn byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir ac mae’n ddibynnol arnoch yn ariannol
  • mae eich partner yn un o Weision y Goron sydd wedi’i leoli unrhyw le dramor ac mae eich plentyn yn byw gydag ef/hi

Dylech hefyd gynnwys plentyn ar eich ffurflen hawlio os ydych chi’n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir a’ch bod chi’n teithio’n rheolaidd i'r DU ar gyfer gwaith. Mae rheolaidd yn golygu bob dydd, er enghraifft bob dydd.

Pa incwm y mae angen i chi ei gynnwys

Bydd angen i chi gynnwys manylion y canlynol yn eich ffurflen hawlio:

  • eich incwm chi - os ydych chi’n gwneud hawliad sengl
  • eich incwm chi ac incwm eich partner os ydych chi’n gwneud hawliad ar y cyd
  • unrhyw incwm o dramor, ble bynnag yr ydych yn ei dderbyn – mae hyn yn cynnwys cynilion, enillion a budd-daliadau o’r tu allan i’r DU

Mae angen i chi roi'r symiau mewn punnoedd Prydeinig, nid yn yr arian tramor. Defnyddiwch y gyfradd ar gyfartaledd ar gyfer y flwyddyn y mae’ch incwm yn berthnasol iddi. Er enghraifft, os yw eich incwm yn berthnasol i’r flwyddyn dreth rhwng 6 Ebrill 2011 a 5 Ebrill 2012, defnyddiwch y gyfradd ar gyfartaledd a ddangosir ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2012.

Os ydych chi’n cael rhai budd-daliadau teuluol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, peidiwch â’u cynnwys fel incwm. Ond bydd angen i chi roi gwybod amdanynt i’r Swyddfa Credyd Treth pan fyddwch yn anfon eich ffurflen hawlio.

Gallwch wneud hyn drwy anfon nodyn ar wahân gyda’ch ffurflen.

Os nad oes gennych chi neu eich partner rif Yswiriant Gwladol

Efallai nad oes gennych chi rif Yswiriant Gwladol eto, ond dylech anfon eich ffurflen hawlio beth bynnag, ynghyd â nodyn ar wahân yn nodi:

  • y rheswm pam nad oes gennych chi rif Yswiriant Gwladol
  • eich enw a'ch cyfeiriad

Mae’n bosib nad oes gan eich partner rif Yswiriant Gwladol chwaith – er enghraifft, am nad yw wedi gweithio yn y DU. Ond, dylech anfon y ffurflen hawlio beth bynnag, ac esbonio pam nad oes gan eich partner rif.

Efallai nad ydych chi neu eich partner wedi gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol eto. Os felly, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn cysylltu â chi er mwyn rhoi gwybod i chi beth fydd arnoch angen ei wneud er mwyn gwneud cais am rif.

Ble rydych chi’n byw ac yn gweithio

Rhowch y cyfeiriad ble rydych chi a’ch partner – os oes gennych bartner – yn byw pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen hawlio. Peidiwch â rhoi cyfeiriad yn y DU ar gyfer eich partner os nad yw eich partner yn byw yn y DU. Rhowch y cyfeiriad ble mae’n byw fel arfer, gan gynnwys y wlad.

Arwyddo’r ffurflen

Os ydych chi’n gwneud cais ar y cyd, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch chi arwyddo’r ffurflen. Ond os yw’ch partner yn byw y tu allan i’r DU ac ni all arwyddo’r ffurflen, dylech ei harwyddo’ch hunain. A dylech anfon nodyn yn dweud pam na all eich partner ei harwyddo.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU