Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Incwm arall - ei gyfrifo ar gyfer eich hawliad credydau treth

Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo eich taliadau credydau treth, byddant yn edrych ar eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf. Mae blwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Yn ogystal â'r hyn rydych chi'n ei ennill drwy weithio, bydd yn rhaid i chi roi manylion incwm arall. Os ydych chi'n hawlio fel cwpl, eich incwm arall ar y cyd sy'n cyfrif.

Beth ddylech chi ei gynnwys fel incwm arall

Dylech chi gynnwys y mathau canlynol o incwm arall – ond dim ond os oedd y cyfanswm dros £300:

  • incwm o'ch cynilion cyn tynnu'r dreth i ffwrdd
  • buddsoddiadau, megis difidend cwmni
  • pensiynau
  • incwm o eiddo
  • incwm o ymddiriedolaethau, setliadau ac ystadau
  • incwm tramor
  • incwm tybiannol, er enghraifft, pan mae incwm ar gael ond nid ydych wedi'i gymryd

Er enghraifft, os oedd cyfanswm eich incwm arall o unrhyw un o'r rhain gyda'i gilydd yn £421, dylech ond roi £121 (£421 tynnu £300).

Ond mae eithriadau i’r rheol hon. Ar gyfer y mathau canlynol o incwm arall dylech gynnwys y swm llawn – peidiwch â thynnu £300:

  • y Grant Oedolyn Dibynnol sy'n cael ei dalu i chi os ydych chi'n fyfyriwr
  • unrhyw grantiau i ddibynnydd sy’n cael eu talu i chi os ydych yn fyfyriwr yn yr Alban
  • incwm amrywiol sy'n drethadwy

I gael help i gyfrifo eich incwm arall, defnyddiwch y ddalen waith yn y nodiadau a ddaeth gyda'ch ffurflen hawlio credydau treth neu'r pecyn adnewyddu, neu ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Incwm o gynilion a buddsoddiadau

Mae arnoch angen cynnwys llog o'ch cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu. Mae'r wybodaeth hon ar gyfriflenni llog neu eich llyfr cyfrif.

Rhowch hefyd incwm o ddifidend cwmnïau yn y DU, gan gynnwys difidend o gwmni rydych chi a/neu eich partner yn gyfarwyddwyr arno. Os ydych chi'n cael difidend o gwmni yn y DU, dylech ychwanegu'r credyd treth - a ddangosir ar y daleb difidend a roddir gan y cwmni - at y difidend.

Dylech hefyd gynnwys unrhyw enillion digwyddiad trethadwy o bolisi yswiriant bywyd, er enghraifft drwy werthu bond buddsoddi. Bydd swm yr enillion yn cael ei ddangos ar y dystysgrif a gyhoeddir gan eich yswiriwr.

Pensiynau

Bydd angen i chi roi swm unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys:

  • pensiwn sylfaenol neu henoed
  • cyfandaliadau pensiwn nawdd cymdeithasol
  • Pensiynau ar sail Enillion y Wladwriaeth (SERPS)
  • Pensiwn Graddedig (Budd-dâl Ymddeol Graddedig)
  • Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
  • Pensiwn Gwraig Weddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Dylech hefyd gynnwys:

  • unrhyw gynnydd ar gyfer plentyn dibynnol
  • unrhyw ychwanegiad analluogrwydd neu ychwanegiad ar gyfer oedolyn dibynnol
  • unrhyw gynnydd a delir i uwchraddio pensiwn sylfaenol wedi'i warantu

Os ydych yn cael pensiwn personol neu alwedigaethol, bydd angen i chi roi'r swm llawn cyn tynnu unrhyw dreth i ffwrdd. Mae'r wybodaeth hon ar gael ar eich P60 neu dystysgrifau eraill pensiwn a dalwyd. Cofiwch gynnwys unrhyw daliadau blwydd-dal o gynllun pensiwn.

Os yw eich pensiwn yn cynnwys swm ychwanegol ar gyfer anaf neu salwch sy'n ymwneud â'ch gwaith, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Incwm eiddo

Rhowch incwm o eiddo yn y DU rydych chi'n berchen arno neu'n ei rentu. Peidiwch â chynnwys:

  • incwm a ddaw dan y cynllun Rhentu Ystafell
  • incwm eiddo rydych chi wedi'i gynnwys fel rhan o'ch incwm hunangyflogedig

Os oedd eich eiddo rhent wedi gwneud colled, gallwch ddefnyddio ddalen waith i'ch helpu i gyfrifo beth i'w roi.

Incwm o ymddiriedolaethau, setliadau ac ystadau

Efallai eich bod wedi cael incwm o ymddiriedolaeth, setliad neu ystad rhywun sydd wedi marw. Os felly, bydd yr ymddiriedolwyr neu'r gweinyddwyr wedi rhoi tystysgrif i chi'n dweud pa incwm a dalwyd i chi. Bydd hwn yn naill ai ffurflen R185 (Ymddiriedolaeth) neu ffurflen R185 (Ystad). Cofiwch roi'r swm gros - y swm cyn tynnu unrhyw dreth i ffwrdd.

Incwm tramor

Gallai hyn fod yn incwm er enghraifft o fuddsoddiadau ac eiddo tramor neu daliadau nawdd cymdeithasol gan lywodraethau tramor. Dylech roi'r swm llawn, p'un ai a ddaeth i mewn i'r DU ai peidio. Dylech gynnwys y swm gros - y swm cyn tynnu unrhyw dreth i ffwrdd - hyd yn oed os nad oedd yn drethadwy yn y DU. Rhowch y swm mewn punnoedd Prydeinig, nid yr arian tramor.

Os ydych chi'n cael pensiwn tramor, p'un a ddaeth i mewn i'r DU ai peidio, dylech gynnwys 90 y cant o'r swm llawn. Dylech gynnwys y swm mewn punnoedd Prydeinig, nid yr arian tramor.

Gallwch dynnu unrhyw gostau bancio neu gomisiwn a dalwyd wrth newid yr arian tramor i bunnoedd Prydeinig.

I newid incwm tramor i bunnoedd Prydeinig, defnyddiwch y gyfradd gyfnewid ganolig am y flwyddyn y mae’r incwm yn berthnasol iddo. Felly, os yw’r incwm yn berthnasol i 6 Ebrill 2011 i 5 Ebrill 2012, defnyddiwch y gyfradd gyfnewid ganolig am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2012.

Os oes angen unrhyw help arnoch chi, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Incwm tybiannol

Mae incwm tybiannol yn golygu incwm sy'n cael ei drin fel petai gennych chi ond nad yw gennych chi mewn gwirionedd efallai. Cofiwch gynnwys:

  • incwm ymddiriedolaeth sy'n cael ei drin dan reolau Treth Incwm fel incwm rhywun arall - er enghraifft, incwm buddsoddiad plentyn dan oed pan mae cronfeydd ymddiriedolaeth wedi cael eu darparu gennych chi ac mae'r swm dros £100
  • incwm nad oeddech chi wedi'i gymryd er mwyn i chi gael credydau treth neu fwy o gredydau treth
  • incwm roedd gennych chi hawl iddo ond na wnaethoch chi wneud cais amdano - er enghraifft, budd-dal nawdd cymdeithasol neu lwfansau a delir i gynghorwyr llywodraeth leol neu urddasolion dinesig
  • incwm cyflogaeth y gallech wedi ei gael - oherwydd eich bod wedi gweithio am ddim, neu am lai na’r gyfradd gyfredol, pan allech fod wedi cael eich talu fwy

Nid yw hyn yn berthnasol i:

  • Bensiwn y Wladwriaeth sydd wedi'i ohirio, er pan gaiff ei dalu, bydd cyfandaliad pensiwn nawdd cymdeithasol neu bensiwn y wladwriaeth uwch yn cyfrif fel incwm pensiwn at ddibenion credyd treth
  • ymddiriedolaeth sy'n deillio o daliad sy'n codi o ganlyniad i anaf personol
  • cynllun pensiwn personol neu gontract blwydd-daliadau
  • iawndal am anaf personol a weinyddir gan y Llys
  • incwm rydych chi wedi'i golli oherwydd eich bod wedi gweithio am lai na'r gyfradd arferol, neu am ddim byd, os oedd gan y sawl roeddech chi'n gweithio iddynt, neu'n darparu gwasanaeth iddynt, fodd i dalu - nid yw hyn yn berthnasol i waith gwirfoddol er enghraifft, helpu mewn siop elusen neu Gyngor ar Bopeth neu raglenni hyfforddiant neu gyflogaeth
  • incwm na wnaethoch gael oherwydd yr oedd y gwaith yr oeddech yn ei wneud yn wirfoddol - er enghraifft, helpu allan mewn siop elusen neu Ganolfan Gyngor ar Bopeth neu raglenni cyflogaeth neu hyfforddiant

Cofiwch hefyd gynnwys cyfalaf sy'n cael ei drin fel incwm

Er enghraifft, os oes gennych chi gyfranddaliadau mewn cwmni yn y DU ac maent yn rhoi cyfranddaliadau newydd i chi –(difidend stoc) yn hytrach na difidend arian.

I gael help i gyfrifo eich incwm tybiannol, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Grant Oedolyn Dibynnol

Cofiwch gynnwys yr holl arian a gawsoch ar gyfer y Grant Oedolyn Dibynnol - ni waeth os oedd y swm dan £300 ai peidio. Caiff y Grant Oedolyn Dibynnol ei dalu i fyfyrwyr gyda phartner neu oedolyn dibynnol.

Incwm amrywiol

Rhowch yr holl incwm amrywiol sy'n drethadwy - er enghraifft, breindaliadau hawlfraint a delir i chi pan nad ydych yn awdur proffesiynol. Os nad ydych chi'n siŵr a ddylid cynnwys yr incwm, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Cofiwch gynnwys pob incwm amrywiol – ni waeth a yw'r swm dan £300 ai peidio.

Beth i beidio â'i gynnwys

Peidiwch â chynnwys:

  • taliadau cynhaliaeth a geir gan gynbartner
  • taliadau credyd treth
  • benthyciadau i fyfyrwyr
  • grantiau i fyfyrwyr, ac eithrio'r Grant Oedolyn Dibynnol neu unrhyw grantiau i ddibynyddion yn yr Alban
  • incwm mae eich plant wedi'i gael, oni bai ei fod yn drethadwy dan eich enw chi neu enw eich partner
  • y Bonws Nadolig na'r Taliad Tanwydd Gaeaf
  • incwm o gynilion di-dreth megis Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs), Cynlluniau Ecwiti Personol (PEPs), Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol sy'n gysylltiedig â chwyddiant a llog sefydlog, Bondiau Bonws Plant
  • pensiynau rhyfel
  • pensiynau neu daliadau cyfnodol a delir i ddioddefwyr erledigaeth y Nazïaid

Os nad ydych chi'n siŵr a ddylid cynnwys yr incwm ai peidio, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Cyfrifo cyfanswm eich incwm arall

I gael y ffigur terfynol:

  • adiwch eich incwm arall, gan gynnwys incwm eich partner os ydych yn rhan o gwpl
  • tynnwch £300 i ffwrdd o'r ffigur hwn

Cofiwch y dylech chi gynnwys yr holl arian a gewch o'r Grant Oedolyn Dibynnol, unrhyw grantiau i ddibynyddion yn yr Alban ac incwm amrywiol. Mae hwn yn waeth a yw'r swm dan £300 ai peidio.

Ysgrifennwch y ffigur terfynol ar eich ffurflen hawlio neu'r Ffurflen Datganiad Blynyddol, gan ei dalgrynnu i lawr i'r bunt agosaf. Os bydd y ffigur yn ffigur minws, rhowch 0.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU