Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae faint o gredydau treth a gewch yn dibynnu ar eich incwm. Mae rhai o fudd-daliadau'r wladwriaeth megis Lwfans Profedigaeth yn cyfrif fel incwm pan fyddwch chi'n hawlio credydau treth - felly os ydych yn cael un o'r budd-daliadau hyn, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen hawlio.
Bydd angen i chi rhoi swm unrhyw fudd-daliadau rydych chi wedi eu cael gan y wladwriaeth yn y flwyddyn dreth ddiwethaf sy’n drethadwy ar eich ffurflen hawlio. Mae blwyddyn dreth yn para o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Mae angen i rai mathau o fudd-dal sy’n drethadwy gael eu rhoi yn y blwch ‘budd-daliadau nawdd cymdeithasol sy’n drethadwy’. Mae angen i eraill gael eu rhoi yn y blwch ‘incwm arall’.
Os cafodd unrhyw dreth eu didynnu o’ch budd-dal, dylech gynnwys y swm a oedd yn ddyledus i chi cyn treth.
Mae’r adrannau isod yn dweud wrthych beth i’w cynnwys a ble.
Os ydych wedi hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau sydd wedi’u rhestri isod, dylech gynnwys y cyfanswm yn y blwch ‘incwm arall’ – ond cofiwch gynnwys incwm arall hefyd:
Os oedd cyfanswm yr incwm arall (yn cynnwys unrhyw un o’r budd-daliadau hyn) yn £300 neu’n llai, peidiwch â’i gynnwys ar eich ffurflen hawlio. Ond mae eithriadau i’r rheol hon – dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i gyfrifo eich incwm arall.
Peidiwch â chynnwys ar eich hawliad unrhyw fudd-daliadau a gewch nad ydynt yn drethadwy megis:
I gael help i gyfrifo pa fudd-daliadau i'w cynnwys, defnyddiwch y ddalen waith yn y nodiadau a ddaeth gyda'ch ffurflen hawlio credydau treth neu'r pecyn adnewyddu. Neu gallech ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.
Os ydych chi'n cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor, bydd unrhyw gredydau treth a gewch yn cael eu hystyried fel incwm. Mae hyn yn golygu y bydd y swm a gewch yn cael ei leihau i ystyried yr incwm ychwanegol hwn - ond yn gyffredinol byddwch yn dal ar eich ennill.
Mae'n bwysig iawn dweud wrth eich awdurdod lleol faint rydych chi'n ei gael mewn credydau treth. Fel arall, efallai byddwch chi'n cael gormod o Fudd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor ac wedyn yn gorfod ei dalu'n ôl.
Efallai eich bod yn cael budd-dal nawdd cymdeithasol o wlad arall, er enghraifft:
Yn ôl y math o fudd-dal rydych chi'n ei gael, bydd arnoch angen gwneud un o'r canlynol ar eich ffurflen hawlio.
Os yw’r budd-dal nad yw'n dod o'r DU rydych chi'n ei gael yn cael ei gyfrif fel 'incwm' bydd arnoch angen ei roi ar eich ffurflen hawlio dan 'incwm arall'. Mae enghreifftiau o fudd-daliadau sy'n cyfrif fel incwm yn cynnwys budd-daliadau sy'n cael eu talu oherwydd bod rhywun agos atoch chi wedi marw neu rydych chi'n ddi-waith.
Os yw’r budd-dal rydych chi’n ei gael yn ‘fudd-dal teulu’ er enghraifft Lwfans Plant neu Ategiad Incwm Teulu, does dim arnoch angen ei roi ar eich ffurflen hawlio. Dylech anfon nodyn ar wahân gyda’ch hawliad yn lle hynny.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs