Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig talebau gofal plant i chi i'ch helpu gyda'ch costau gofal plant. Gallech eu cael yn gyfnewid am ostyngiad yn eich cyflog - a elwir yn 'aberthu cyflog'. Gall talebau gofal plant effeithio ar faint o gredydau treth y gallwch eu cael. Gall y cyfrifydd ar-lein hwn eich helpu i benderfynu a fyddech - yn gyffredinol - ar eich ennill drwy gymryd y talebau ai peidio.
Os ydych yn gweithio ac yn talu am ofal plant, efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu helpu gyda rhywfaint o'ch costau gofal plant. Mae talebau gofal plant yn un ffordd y gall wneud hyn.
Mae taflen IR115 yn egluro mwy am dalebau gofal plant, a ffyrdd eraill y gall cyflogwyr helpu gyda gofal plant.
Os yw eich cyflogwr wedi cynnig talebau gofal plant i chi, ewch i gam un.
Os nad yw eich cyflogwr wedi cynnig talebau gofal plant, ni fydd y cyfrifydd yn berthnasol i chi. Ond gallwch ddefnyddio'r cyfrifydd o hyd i weld a allech gael budd o dalebau. Er mwyn gwneud hyn, dylech ateb y cwestiynau fel petaech wedi cael cynnig talebau, a nodi symiau amcangyfrifedig. Os bydd y canlyniadau'n dangos y byddech yn well eich byd gyda thalebau, siaradwch â'ch cyflogwr i weld a fyddai'n ystyried eu cynnig.
Darllenwch i weld a yw'r ddau beth canlynol yn berthnasol:
Os yw'r ddau'n berthnasol, ewch i gam dau.
Talebau gofal plant a chredydau treth - cyfrifo a fyddech yn well eich byd
Os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi, nid oes angen i chi ddefnyddio'r cyfrifydd - byddwch yn well eich byd yn derbyn talebau gofal plant:
Os nad yw'r naill na'r llall yn berthnasol i chi, ewch i gam tri.
Peidiwch â defnyddio'r cyfrifydd hwn os gallwch roi ateb cadarnhaol i unrhyw un o'r canlynol:
Os oes unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i chi a'ch bod yn gymwys i gael credydau treth yn eich barn chi, dylech wneud cais. Os ydych eisoes yn cael credydau treth, a'ch bod yn derbyn y talebau, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth. Bydd angen i chi roi gwybod i'r swyddfa faint y mae eich incwm a'ch costau gofal plant wedi gostwng.
Os nad yw un o'r rhain yn berthnasol i chi, gallwch ddefnyddio'r cyfrifydd.
Os oes unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i chi a'ch bod yn gymwys i gael credydau treth yn eich barn chi, dylech wneud cais. Os ydych eisoes yn cael credydau treth, a'ch bod yn derbyn y talebau, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth.
Bydd angen i chi roi gwybod i'r swyddfa faint y mae eich incwm a'ch costau gofal plant wedi gostwng.
Os nad yw un o'r rhain yn berthnasol i chi, gallwch ddefnyddio'r cyfrifydd.
Eich incwm
Casglwch ynghyd fanylion eich holl incwm (ac incwm eich partner os oes un gennych) ar gyfer y canlynol:
Eich costau gofal plant
Gweithiwch allan eich costau gofal plant wythnosol cyfartalog cyn dechrau'r cyfrifydd. Bydd hyn yn eich helpu i arbed amser pan ofynnir i chi am y wybodaeth hon. O ran y cyfrifydd, rhaid i chi gynnwys costau y telir amdanynt drwy unrhyw dalebau gofal plant a gynigiwyd i chi (gan gynnwys talebau yn gyfnewid am aberthu cyflog).
Os yw’ch talebau yn gyfnewid am ostyngiad mewn cyflog neu dâl (aberthu cyflog)
Bydd angen i chi ddweud faint y caiff eich cyfog ei ostwng gan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r cyfanswm blynyddol y caiff eich cyflog ei ostwng gan.
Eich talebau neu daliadau a wneir yn uniongyrchol gan eich cyflogwr
Casglwch ynghyd fanylion y canlynol:
Os yw eich cyflogwr yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddarparwr gofal plant, dylech drin y taliadau hynny fel pe baent yn dalebau pan fyddwch yn defnyddio'r cyfrifydd.
Os ydych chi neu’ch partner yn sâl neu’n anabl
Darllenwch i weld a yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi cyn dechrau'r cyfrifydd. Os felly, gallwch ateb 'ydw' pan fydd y cyfrifydd yn gofyn i chi a ydych yn anabl:
Os ydych chi’n rhan o gwpl – gweld a yw un ohonoch yn ‘analluog’
Os ydych yn rhan o gwpl bydd y cyfrifydd hefyd yn gofyn a yw un ohonoch yn ‘analluog’. Golyga hyn eich bod chi’n sâl neu’n anabl ac yn cael budd-daliadau penodol, neu gredydau Yswiriant Gwladol mewn rhai amgylchiadau. I weld a yw un ohonoch yn cael eich categoreiddio’n ‘analluog’ cyn i chi gychwyn drwy ddilyn y ddolen isod.
Hefyd atebwch ‘ydw’ pan fydd y cyfrifydd yn gofyn a ydych yn analluog os yw unrhyw un o’r ganlynol yn berthnasol:
Canllaw yn unig yw'r canlyniadau i weld a fyddech yn well eich byd yn cael talebau gofal plant. Caiff eich hawl i gael credydau treth ei weithio allan pan fyddwch yn gwneud cais, neu'n rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Efallai yr hoffech argraffu'r canlyniadau.
Os yw eich canlyniadau yn dangos bod eich incwm islaw'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Bydd unrhyw dalebau a gewch yn gyfnewid am ostyngiad yn eich cyflog (a elwir yn 'aberthu cyflog') yn gostwng eich cyfradd cyflog fesul awr. Gallai hyn olygu eich bod yn ennill llai na'r isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer eich grŵp oedran. Bydd y dudalen canlyniadau yn dweud wrthych os gallai hyn fod yn broblem.
Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch am siarad â'r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs