Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth yw gofal plant cofrestredig neu gymeradwy ar gyfer credydau treth?

Rhaid i chi ddefnyddio gofal plant 'cofrestredig' neu 'gymeradwy' i gael help gyda'ch costau gofal plant drwy gredydau treth. Mae hyn yn cynnwys pob math o ofal plant, er enghraifft meithrinfeydd, cynlluniau chwarae, gwarchodwyr plant, gofalwyr maeth a gofal yn yr ysgol.

Gofal plant yn Lloegr

I gael credydau treth i’ch helpu gyda chostau gofal plant yn Lloegr, rhaid i'ch darparwr gofal plant fod wedi’i gofrestru neu ei gymeradwyo'n iawn. Fyddwch chi ddim yn cael hawlio credydau treth fel arall.

Os ydych chi'n defnyddio gwarchodwr plant, cynllun chwarae, clwb gofal plant neu feithrinfa

Os byddwch chi’n defnyddio un o’r darparwyr gofal hyn, bydd angen iddynt fod wedi'i gofrestru ag Ofsted.

Os gofalwr maeth sy’n gofalu am eich plentyn

Os ydych yn defnyddio gofalwr maeth ar gyfer eich gofal plant mae’n rhaid iddynt fod wedi’i gofrestru ag Ofsted.

Chewch chi ddim hawlio costau gofal plant ar gyfer gofalu am eich plentyn maeth eich hun.

Os gweithiwr gofal neu nyrs sy’n gofalu am eich plentyn

Gallwch gael credydau treth ar gyfer costau gofal plant os ydych chi'n defnyddio gweithiwr gofal neu nyrs o asiantaeth sydd wedi'i chofrestru i ddarparu gofal yn y cartref. Er enghraifft, gweithiwr gofal cartref.

Os ydych chi'n defnyddio gofal plant a ddarperir gan ysgol

Os ydych chi’n defnyddio gofal plant a ddarperir gan ysgol, rhaid iddo:

  • gael ei ddarparu dan gyfarwyddyd corff llywodraethu'r ysgol neu’r unigolyn sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol
  • gael ei ddarparu ar eiddo'r ysgol, neu eiddo arall y gellir ei archwilio fel rhan o archwiliad ysgol – naill ai gan Ofsted neu gan gorff archwilio cyfwerth (er enghraifft yr Arolygiaeth Ysgolion Annibynnol, Bridge Schools Inspectorate neu’r Gwasanaeth Arolygu Ysgolion)

Gall un enghraifft o ‘eiddo arall’ fod lle mae ysgol yn defnyddio neuadd bentref ar gyfer ei gweithgareddau gofal plant y tu allan i oriau ysgol.

Os yw eich plentyn rhwng pump a 15 mlwydd oed (neu 16 mlwydd oed os yw eich plentyn yn anabl), bydd yn rhaid hefyd i’r gofal plant cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol.

Gofal plant yng Nghymru

I gael credydau treth i’ch helpu gyda chostau gofal plant, rhaid i'ch darparwr gofal plant fod:

  • wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • yn ysgol sy'n darparu gofal plant y tu allan i oriau ysgol ac ar eiddo'r ysgol
  • yn awdurdod lleol sy'n darparu gofal plant y tu allan i oriau ysgol
  • yn weithiwr gofal neu'n nyrs o asiantaeth sydd wedi'i chofrestru i ddarparu gofal yn y cartref, er enghraifft, gweithiwr gofal cartref
  • yn rhywun a gymeradwyir gan Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref, sy'n darparu gofal plant yng nghartref eich plentyn - neu os oes nifer o blant yn cael gofal yng nghartref un o'r plant

Os yw gofalwr maeth yn gofalu am eich plentyn

Gallwch hawlio cymorth gyda’ch costau gofal plant yng Nghymru os ydych yn defnyddio gofalwr maeth ar gyfer eich gofal plant. Os yw’ch plentyn:

  • dan 8 oed, mae’n rhaid bod y gofalwr wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • dan 16 oed ac y mae’r gofal yn eich cartref eich hun, mae’n rhaid bod y gofalwr maeth wedi’i gymeradwyo gan Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref

Chewch chi ddim hawlio costau gofal plant ar gyfer gofalu am eich plentyn maeth eich hun.

Gofal plant yn yr Alban

I gael credydau treth i’ch helpu gyda chostau gofal plant, rhaid i'ch darparwr gofal plant fod:

  • wedi cofrestru â'r Comisiwn Rheoleiddio Gofal yn yr Alban
  • yn glwb gofal plant sydd wedi cofrestru â'r Comisiwn Rheoleiddio Gofal yn yr Alban i ddarparu gofal plant y tu allan i oriau ysgol
  • yn unigolyn o asiantaeth gofal plant gofrestredig, o wasanaeth gwarchod neu o asiantaeth nanis sy'n darparu gofal plant yng nghartref eich plentyn

Os gofalwr maeth neu ofalwr ‘carennydd’ (‘kinship’ carer) sy’n gofalu am eich plentyn

Gallwch hawlio cymorth gyda’ch costau gofal plant yn yr Alban os ydych chi’n defnyddio gofalwr ‘carennydd’ neu ofalwr maeth cymeradwy. Mae gofalwr carennydd yn debyg i ofalwr maeth, ond bydd yn adnabod y plentyn y mae’n gofalu amdano gan ei fod yn perthyn, neu’n ffrind i’r teulu.

Os ydych chi’n defnyddio gofalwr carennydd i ofalu am eich plentyn, rhaid i’r gofalwr fod wedi cofrestru â'r Comisiwn Rheoleiddio Gofal yn yr Alban fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd llawn.

Chewch chi ddim hawlio am gostau gofal plant ar gyfer gofalu am:

  • eich plentyn maeth eich hun
  • blentyn yr ydych yn gofalu amdano eich hun fel rhan o drefniad gofal carennydd

Gofal plant yng Ngogledd Iwerddon

I gael credydau treth i’ch helpu gyda chostau gofal plant, rhaid i'ch darparwr gofal plant fod:

  • wedi cofrestru ag Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • yn ysgol sy'n darparu gofal plant y tu allan i oriau ysgol ar eiddo'r ysgol
  • yn Fwrdd Addysg a Llyfrgelloedd sy'n darparu gofal plant y tu allan i oriau ysgol
  • yn unigolyn wedi’i gymeradwyo gan Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref, sy'n darparu gofal plant yng nghartref y plentyn

Os yw gofalwr maeth yn gofalu am eich plentyn

Gallwch hawlio cymorth gyda’ch costau gofal plant yng Ngogledd Iwerddon os ydych yn defnyddio gofalwr maeth ar gyfer eich gofal plant. Os yw’ch plentyn:

  • dan 12 oed, mae’n rhaid bod y gofalwr wedi cofrestru gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol
  • dan 16 oed ac y mae’r gofal yn eich cartref eich hun, mae’n rhaid bod y gofalwr maeth wedi’i gymeradwyo gan Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref

Chewch chi ddim hawlio costau gofal plant ar gyfer gofalu am eich plentyn maeth eich hun.

Os perthynas neu’ch partner sy'n gofalu am eich plentyn

Ni allwch hawlio credydau treth ar gyfer gofal plant a ddarperir gan eich partner.

Fel arfer, chewch chi ddim hawlio credydau treth ar gyfer gofal plant a ddarperir gan berthnasau, hyd yn oed os ydynt wedi'u cofrestru neu wedi'u cymeradwyo.

Gall perthynas fod yn un o'r canlynol i'ch plentyn:

  • rhiant
  • nain neu daid, neu fam-gu neu dad-cu
  • modryb neu ewythr
  • brawd neu chwaer
  • llys-riant

Nid yw perthynas o angenrheidrwydd yn berthynas ‘gwaed’. Os oes gennych bartner, mae hefyd yn cynnwys ei berthnasau.

Pryd allwch hawlio am ofal plant a ddarperir gan berthnasau

Gallwch hawlio credydau treth ar gyfer gofal plant a ddarperir gan berthynas dim ond os yw’r berthynas yn naill ai:

  • yn warchodwr plant cofrestredig sy'n gofalu am eich plentyn y tu allan i gartref eich plentyn
  • yn ddarparwr gofal plant, wedi'i gymeradwyo dan Gynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref yng Nghymru neu Ogledd Iwerddon, sy'n gofalu am eich plentyn y tu allan i gartref eich plentyn – ond rhaid iddo hefyd fod yn gofalu am o leiaf un plentyn arall nad yw'n perthyn iddo

Os ydych chi’n un o Weision y Goron sy'n gweithio dramor

Os ydych chi’n un o Weision y Goron – er enghraifft gwas sifil neu aelod o'r lluoedd arfog – gallech gael eich lleoli dramor. Os yw eich plentyn wedi mynd gyda chi, fel arfer gallwch hawlio credydau treth am eich costau gofal plant. Ond bydd yn rhaid i’ch darparwr gofal plant fod wedi’i gymeradwyo gan gynllun achredu'r Weinyddiaeth Amddiffyn dramor.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU