Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Help gyda chostau gofal plant - ydych chi'n gymwys i gael credydau treth ychwanegol?

Os ydych yn gweithio, gallech gael credydau treth ychwanegol i helpu gyda chostau gofal plant. Gallwch wneud cais cyn gynted ag y byddwch yn dechrau talu am ofal plant, a dim ond am y symiau rydych yn eu talu.

Pa ofal plant sy'n gymwys?

Rhaid i chi ddefnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Gall hyn gynnwys meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, gofalwyr maeth, clybiau y tu allan i oriau ysgol a 'nanis'.

Mae rheolau cofrestru a chymeradwyo gwahanol ar gyfer pob rhan o'r DU. Gwnewch yn siŵr bod eich darparwr gofal plant yn bodloni'r rheolau hyn cyn i chi wneud eich cais.

Pwy all fod yn gymwys?

Rydych yn rhiant unigol

Rhaid i chi weithio 16 awr neu fwy yr wythnos er mwyn bod yn gymwys i gael help gyda chostau gofal plant.

Rydych yn rhan o gwpl

Yn gyffredinol rhaid i chi a'ch partner weithio 16 awr neu fwy yr wythnos er mwyn bod yn gymwys i gael help. Dim ond un ohonoch sy'n gorfod gweithio 16 awr neu fwy os yw'r llall:

  • yn ‘analluogrwydd’ – mae hyn yn golygu ei fod yn sâl neu'n anabl ac yn hawlio budd-daliadau penodol, neu mewn rhai amgylchiadau credydau Yswiriant Gwladol
  • yn yr ysbyty
  • yn y carchar - yn bwrw dedfryd o garchar neu wedi'i remandio yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd
  • â hawl i gael Lwfans Gofalwr – hyd yn oed os nad ydynt yn cael unrhyw daliadau oherwydd maent yn cael budd-daliadau eraill yn lle

Rydych i ffwrdd o'r gwaith - allwch chi wneud cais o hyd?

Mae sefyllfaoedd lle gallwch wneud cais o hyd am help gyda chostau gofal plant. Caiff y rhain eu hegluro isod.

Rydych ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu

Os oeddech yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos yn union cyn eich absenoldeb - a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael lwfans mamolaeth
  • rydych ar absenoldeb mamolaeth cyffredinol neu absenoldeb mabwysiadu cyffredin
  • rydych wedi bod ar absenoldeb mamolaeth ychwanegol neu absenoldeb mabwysiadu ychwanegol am hyd at 13 wythnos
  • rydych yn cael eich pythefnos o absenoldeb tadolaeth

Rydych i ffwrdd o'r gwaith yn sâl

Os oeddech yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos yn union cyn i chi fod i ffwrdd o'r gwaith yn sâl - a bod y ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych i ffwrdd o'r gwaith yn sâl am 28 wythnos neu lai
  • rydych yn cael un o fudd-daliadau penodol y wladwriaeth - er enghraifft Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Tâl Salwch Statudol neu Gredydau Yswiriant Gwladol oherwydd bod gennych allu cyfyngedig i weithio (hynny yw, mae eich salwch neu eich anabledd yn effeithio ar faint o waith y gallwch ei wneud a'r math o waith)

Os oeddech i ffwrdd o'r gwaith oherwydd un o'r rhesymau canlynol cyn i chi fod i ffwrdd o'r gwaith yn sâl, gallwch hawlio help gyda chostau gofal plant o hyd:

  • roeddech ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu
  • roeddech wedi bod yn streicio am hyd at ddeg diwrnod
  • roeddech wedi'ch gwahardd o'r gwaith

Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos cyn hynny.

Os na fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith o fewn 28 wythnos, efallai na fyddwch yn gymwys mwyach. Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Credyd Treth os bydd hyn yn digwydd.

Faint o help y gallwch ei gael

Gallwch gael help gyda hyd at 70 y cant o'ch costau gofal plant - hyd at derfynau penodol.

Os byddwch yn talu am ofal plant ar gyfer:

  • un plentyn, yr uchafswm y gallwch ei hawlio ar gyfer cost gofal plant yw £175 yr wythnos
  • dau blentyn neu fwy, yr uchafswm y gallwch ei hawlio yw £300 yr wythnos

Mae hyn yn golygu mai'r help mwyaf y gallwch ei gael tuag at eich costau gofal plant yw:

  • £122.50 yr wythnos ar gyfer un plentyn
  • £210 yr wythnos ar gyfer dau blentyn neu fwy

Ond ni fyddwch o reidrwydd yn cael y £122.50 neu'r £210 yr wythnos yn llawn - bydd yr union swm y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich incwm. Y lleiaf yw eich incwm, y mwyaf o gredydau treth y gallwch eu cael.

Pa derfynau incwm sy'n berthnasol i chi?

Nid oes unrhyw derfyn incwm penodedig ar gyfer help gyda chostau gofal plant.

Bydd cwpl ag un plentyn, sy'n talu £175 yr wythnos am ofal plant, yn cael rhai credydau treth o hyd gydag incwm blynyddol mor fawr â £41,000. Ond canllaw cyffredinol iawn yn unig yw hwn.

Mae'n bwysig gwybod y canlynol:

  • mae terfynau incwm gwahanol yn berthnasol yn dibynnu ar eich amgylchiadau - er enghraifft, os oes gennych deulu mawr gall y terfyn incwm fod yn uwch
  • mae angen i chi wneud cais er mwyn cael ateb pendant o ran faint rydych yn gymwys i'w gael

Gallwch ddefnyddio'r tablau sy'n rhoi 'cipolwg' o hawliad i gael syniad bras o'r help y gallech ei gael. Mae'r tablau hyn yn nodi symiau blynyddol credydau treth yn seiliedig ar incwm gwahanol - ond nid ydynt yn cwmpasu pob sefyllfa.

Os ydych am gael syniad gwell o faint y gallech ei gael, mae cyfrifydd credydau treth ar-lein hefyd y gallwch ei ddefnyddio.

Costau gofal plant na allwch hawlio ar eu cyfer drwy gredydau treth

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • taliad gan eich cyflogwr tuag at gostau gofal plant, naill ai ar ffurf arian parod neu dalebau - mae hyn yn cynnwys talebau yn gyfnewid am ostyngiad mewn cyflog (a elwir yn 'aberthu cyflog')
  • dysgu cynnar neu addysg meithrin am ddim - er enghraifft 15 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed yn Lloegr
  • taliadau gan y llywodraeth tuag at eich costau gofal plant oherwydd eich bod yn fyfyriwr, neu eich bod yn dechrau gweithio

Gallwch wneud cais o hyd am unrhyw gostau gofal plant rydych yn talu amdanynt eich hun. Er enghraifft, os yw eich cyflogwr yn talu rhan o'ch costau gofal plant gyda thalebau, gallwch wneud cais am y gweddill.

Os yw eich cyflogwr yn cynnig talebau gofal plant i chi

Mae cyfrifydd ar-lein i'ch helpu i benderfynu a ydych ar eich ennill drwy gymryd y talebau ai peidio.

Sut i wneud cais

Pryd i wneud cais

Gallwch wneud eich cais:

  • os ydych eisoes wedi dechrau defnyddio gofal plant
  • hyd at saith diwrnod cyn dechrau defnyddio gofal plant - ddim yn gynharach

Os ydych yn talu am gyfnodau byr sefydlog o ofal plant

Gallai hyn fod yn ystod gwyliau'r haf, neu ar gyfer digwyddiad brys. I gael gwybod sut i wneud cais am gyfnodau byr o ofal plant, gweler 'Credydau treth ar gyfer cyfnodau byr o ofal plant’.

Sut i wneud cais - os yw credydau treth yn newydd i chi

Bydd angen i chi gael ffurflen gais gan y Llinell Gymorth Credyd Treth

Llenwch y ffurflen gais, gan gynnwys manylion eich costau gofal plant wythnosol cyfartalog, a'i dychwelyd i'r Swyddfa Credyd Treth.

Sut i wneud cais - os ydych eisoes yn cael credydau treth

Os bydd eich amgylchiadau'n newid a'ch bod am wneud cais am help gyda chostau gofal plant, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU