Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae hawlio credydau treth

Gallwch hawlio credydau treth drwy'r post neu wyneb yn wyneb - ac mae digon o help ar gael i chi os bydd ei angen arnoch.

Sut mae hawlio

Mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio i gael credydau treth. Gallwch archebu pecyn hawlio credydau treth drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Ni allwch hawlio ar-lein.

Mae dau fath o gredyd treth – Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith. Ond un ffurflen hawlio yn unig sydd angen i chi ei chwblhau, hyd yn oed os ydych chi am hawlio’r ddau.

Yr wybodaeth y bydd arnoch chi ei hangen i gael ffurflen hawlio

Os oes gennych rif Yswiriant Gwladol, dylech ei gael wrth law cyn i chi ffonio’r llinell gymorth.

Bydd y llinell gymorth yn gofyn i chi hefyd am wybodaeth eraill, gan gynnwys eich incwm yn y flwyddyn dreth ddiwethaf. Mae blwyddyn dreth yn para o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Felly mae’n syniad da i gael y canlynol wrth law cyn i chi ffonio:

  • eich incwm am y flwyddyn dreth ddiwethaf os oeddech yn gyflogedig – gallwch gael hyn wrth eich ffurflen P60 neu eich slip cyflog terfynol am y flwyddyn dreth
  • manylion eich incwm am y flwyddyn dreth ddiwethaf os oeddech yn hunangyflogedig
  • manylion unrhyw fudd-daliadau rydych chi’n eu cael, er enghraifft y Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar gyfraniadau neu'r Lwfans Gofalwr
  • manylion unrhyw incwm arall rydych chi’n ei gael, er enghraifft llog cynilion, pensiynau neu rent
  • manylion unrhyw daliadau gofal plant rydych chi’n eu gwneud os ydych chi’n defnyddio darparwr cofrestredig neu gymeradwy

Faint o amser fydd eich pecyn hawlio yn ei gymryd i’ch cyrraedd?

Mae’r llinell gymorth yn anelu at anfon eich pecyn hawlio i chi o fewn un wythnos. Dylech gysylltu eto os nad ydych wedi ei dderbyn ar ôl dwy wythnos.

Ble i ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol

Gallwch ddod o hyd iddo ar:

  • eich tystysgrif P60 neu P45 gan eich cyflogwr presennol neu ddiwethaf
  • eich Hysbysiad Cod TWL (Talu Wrth Ennill) neu lythyr gan y Swyddfa Credyd Treth
  • eich slip cyflog o'r gwaith
  • unrhyw lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu'r Ganolfan Byd Gwaith ac, yng Ngogledd Iwerddon, y Swyddfa Nawdd Cymdeithasol

Ble i anfon eich ffurflen hawlio

Gallwch lenwi'r ffurflen eich hun a'i hanfon yn ôl drwy'r post i:

HM Revenue & Customs Tax Credits
Comben House
Farriers Way
Netherton
L75 1BY

Os byddwch yn hawlio budd-daliadau eraill, er enghraifft Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch roi eich ffurflen wedi’i chwblhau:

  • i’ch Canolfan Byd Gwaith
  • yng Ngogledd Iwerddon, eich Swyddfa Nawdd Cymdeithasol

A ddylech wneud hawl unigol neu ar y cyd?

Os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl, mae'n rhaid i chi wneud cais am gredydau treth ar y cyd - ni allwch benderfynu hawlio fel person sengl. Bydd yn rhaid i chi rhoi gwybodaeth am y ddau ohonoch ar y ffurflen hawlio a byddwch yn rhannu'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir.

Pryd mae hawlio

Gwnewch gais am gredydau treth cyn gynted ag y credwch eich bod yn gymwys. Os byddwch yn oedi cyn hawlio, gallech golli arian oherwydd fel arfer dim ond hyd at un mis y gellir ôl-ddyddio credydau treth. Er enghraifft, os byddwch yn cael babi ar 12 Mehefin a derbynnir eich ffurflen hawlio ar 12 Hydref, dim ond o 12 Medi y cewch eich talu.

Weithiau gall fod yn ddefnyddiol hawlio hyd yn oed os ydych yn credu bod eich incwm yn rhy uchel i gael unrhyw arian ar hyn o bryd. Mae'n bosibl y byddwch am wneud hyn os ydych yn disgwyl i'ch incwm ostwng yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn, oherwydd eich bod yn colli'ch swydd, er enghraifft.

Ni allwch hawlio o flaen llaw am faban newydd - mae angen i chi aros nes iddynt gael eu geni. Ond os oes gennych blant yn barod, nid oes angen i chi aros i hawlio iddynt hwy.

Os ydych yn dechrau gweithio ac eisiau hawlio Credyd Treth Gwaith, gallwch wneud cais i fyny at saith diwrnod cyn i’ch swydd ddechrau.

Cymorth gyda’r ffurflen hawlio

Byddwch yn cael cyfres o nodiadau gyda'ch ffurflen hawlio a fydd yn eich helpu i'w llenwi. Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth a fydd yn hapus i ddarparu cyngor.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau eraill, fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith, bydd y canlynol yn eich helpu gyda’ch ffurflen hawlio:

  • eich Canolfan Byd Gwaith
  • eich Swyddfa Nawdd Cymdeithasol, yng Ngogledd Iwerddon

Gwaith papur y dylid eu cadw

Unwaith eich bod wedi neud yr hawliad, mae’n syniad da i gadw rhai dogfennau a gwaith papur yn ddiogel. Bydd hyn o gymorth os oes angen i’r Swyddfa Treth Credyd wirio eich manylion yn y dyfodol. Gall hefyd fod o gymorth os bydd yn rhaid i chi apelio rhyw bryd, er enghraifft.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU