Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Diogelu eich hawl i gael credydau treth drwy hawlio'n gynnar

Weithiau, mae'n werth gwneud hawliad am gredydau treth hyd yn oed os ydych chi'n credu na fyddwch yn cael dim. Efallai y byddwch am wneud hyn os yw'ch incwm yn rhy uchel ar hyn o bryd, ond o bosib yn mynd yn is yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Pam gwneud hawliad os na fyddwch chi'n cael unrhyw gredydau treth?

Pan fyddwch yn gwneud hawliad am gredydau treth, fel arfer, dim ond am hyd at un mis y gellir ôl-ddyddio unrhyw daliadau y mae gennych hawl iddynt. Fodd bynnag, gallwch hawlio'n gynnar - sef cyn eich bod yn meddwl y bydd modd i chi gael credydau treth. Bydd hyn yn golygu y bydd unrhyw daliadau yn y dyfodol yn cael eu diogelu rhag cael eu hôl-ddyddio am un mis yn unig.

Os ydych chi'n meddwl y bydd eich incwm yn lleihau

Os ydych chi'n disgwyl i'ch incwm leihau, dylech wneud hawliad am gredydau treth ar ddechrau'r flwyddyn rhag ofn i hyn ddigwydd. Yna, bydd unrhyw daliadau credyd treth yn cael eu hôl-ddyddio i'r dyddiad y gwnaethoch eich hawliad. Efallai y byddwch am wneud hyn os ydych chi, er enghraifft, yn hunangyflogedig, neu os yw'ch gwaith yn dymhorol, neu os yw'n debygol y byddwch yn colli eich swydd.

Enghraifft

Mae Maria yn byw gyda’i phartner. Mae'r ddau ohonynt yn gweithio, ac mae hi'n gwybod bod incwm y ddau ohonynt gyda'i gilydd yn rhy uchel iddynt gael credydau treth ar hyn o bryd. Ond mae hi hefyd yn gwybod y bydd ei chwmni'n cau ac y bydd hi'n colli ei gwaith yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae hyn yn golygu y bydd eu hincwm yn debygol o leihau.

Maent yn gwneud hawliad am gredydau treth ar 6 Ebrill. Byddant wedyn yn cael hysbysiad dyfarniad sy'n dweud wrthynt na fydd credydau treth yn cael eu talu iddynt gan fod eu hincwm yn rhy uchel.

Ar 10 Hydref, pan mae'r cwmni y mae Maria'n gweithio iddo yn cau, mae hi'n cysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth ac yn rhoi gwybod iddynt bod ei hincwm wedi gostwng. Mae hi'n rhoi amcangyfrif o'i hincwm hi a'i phartner ar y cyd ar gyfer y flwyddyn.

Gan fod eu hincwm yn is, mae ganddynt hawl i gredydau treth o 6 Ebrill ymlaen.

Pryd i hawlio

Peidiwch ag oedi cyn gwneud eich hawliad am gredydau treth – mae'n syniad da hawlio cyn gynted ag y bo modd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael pob ceiniog sy'n ddyledus i chi.

Telir credydau treth am flwyddyn dreth lawn. Mae blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill un flwyddyn ac yn dod i ben ar 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. I ddiogelu eich hawl i gredydau treth, mae'n rhaid i'r Swyddfa Credyd Treth gael eich hawliad o fewn un mis i ddechrau'r flwyddyn dreth Felly fydd hyn erbyn 5 Mai fan bellaf.

Enghraifft yn dangos sut y gall eich taliadau cael eu heffeithio gan yr adeg yr ydych chi'n hawlio

Os byddwch yn gwneud hawliad am gredydau treth ar 1 Mai – ond ddim yn gymwys tan 1 Tachwedd – pan fydd eich incwm yn lleihau, byddant yn gallu ôl-ddyddio eich taliadau i 6 Ebrill.

Fodd bynnag, os byddwch yn aros ac yn gwneud yr un hawliad ar 6 Medi, dim ond am un mis, i 6 Awst, y bydd y taliadau'n cael eu hôl-ddyddio. Felly byddwch yn colli allan ar werth pedwar mis o daliadau.

Sut i hawlio

I hawlio, bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio. Gallwch ond â chael ffurflen hawlio drwy ffonio’r Llinell gymorth Credyd Treth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU