Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pryd y gellir ôl-ddyddio eich cais am gredydau treth

Fel arfer, gall y Swyddfa Credyd Treth dalu credydau treth am hyd at un mis cyn y dyddiad y bydd eich ffurflen gais yn dod i law. Gelwir hyn yn ôl-ddyddio eich cais. Weithiau gellir ôl-ddyddio eich cais am fwy nag un mis. Er enghraifft, os ydych yn hawlio credydau treth ychwanegol am eich bod yn anabl, neu eich bod yn geisiwr lloches.

Pryd y caiff eich cais ei ôl-ddyddio yn awtomatig

Fel arfer, dim ond am gyfnod o hyd at un mis o'r dyddiad y bydd yn cael eich ffurflen gais y gall y Swyddfa Credyd Treth ôl-ddyddio eich cais. Felly mae'n bwysig eich bod yn llenwi eich ffurflen gais a'i dychwelyd ati cyn gynted ag y byddwch yn credu eich bod yn gymwys. Gallech golli arian os byddwch yn aros.

O dan rai amgylchiadau, caiff eich cais ei ôl-ddyddio'n awtomatig pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn delio ag ef, gan ddefnyddio'r dyddiadau a roesoch ar eich ffurflen gais.

Os ydych yn gyfrifol am blant

Os ydych yn hawlio ar gyfer baban newydd, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ôl-ddyddio eich cais i'r dyddiad y cafodd ei eni yn awtomatig. Ond rhaid iddi gael eich cais o fewn un mis. Er enghraifft, os cewch fabi ar 12 Mehefin ond na fydd eich cais yn cyrraedd tan 12 Hydref, dim ond o 12 Medi y bydd eich taliadau'n dechrau.

Yn yr un modd, os byddwch yn dod yn gyfrifol am blentyn, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ôl-ddyddio eich cais yn awtomatig i'r dyddiad y gwnaethoch ddechrau gofalu am y plentyn. Ond dim ond ar yr amod ei bod yn cael eich ffurflen o fewn un mis.

Os nad ydych yn cael budd-daliadau mwyach

Efallai eich bod wedi rhoi'r gorau i hawlio budd-daliadau am eich bod wedi dechrau swydd newydd, neu am eich bod bellach yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos. Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn cael eich cais o fewn un mis, gall ôl-ddyddio eich taliadau credyd treth i'r dyddiad y daeth eich budd-daliadau i ben.

Os nad yw eich cais wedi cael ei ôl-ddyddio'n awtomatig yn eich barn chi

Os na chaiff eich cais ei ôl-ddyddio i ddyddiad cynharach, ond y dylai hynny fod wedi digwydd yn eich barn chi, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth, neu gallwch ysgrifennu ati.

Pryd y mae angen i chi ofyn i'ch cais gael ei ôl-ddyddio

Bydd angen i chi ofyn i'ch cais gael ei ôl-ddyddio os bydd un o'r canlynol yn gymwys:

  • dim ond Credyd Treth Gwaith rydych yn ei hawlio - ac nid ydych yn hawlio ar gyfer unrhyw blant
  • rydych wedi bod yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn

Er mwyn gofyn i'ch cais gael ei ôl-ddyddio, anfonwch ddalen ar wahân o bapur gyda'ch ffurflen gais gyda'r wybodaeth ganlynol arni:

  • eich enw, eich cyfeiriad a’ch Rhif Yswiriant Gwladol
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn os nad ydych yn gweithio

Pryd y gellir ôl-ddyddio eich cais am fwy nag un mis

Gellir ôl-ddyddio eich cais am gredydau treth am fwy nag un mis os oes unrhyw un o'r adrannau isod yn berthnasol i chi.

Mae gennych chi, neu eich partner, anabledd

Os ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith, gellid ôl-ddyddio unrhyw daliadau y mae gennych hawl i'w cael am fwy nag un mis. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gredydau treth ychwanegol am fod yn anabl.

Ond er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i'r ddau ddatganiad canlynol fod yn wir:

  • rydych wedi gwneud cais am un o'r budd-daliadau salwch neu anabledd a all eich helpu i fod yn gymwys i gael credydau treth ychwanegol
  • rydych yn dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted ag y gwyddoch eich bod yn bendant yn mynd i gael y budd-dal - ac o fewn un mis os ydych am i'r swyddfa ôl-ddyddio eich cais cyn belled ag y bo modd

Efallai eich bod eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith. Os felly, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted ag y gwyddoch fod gennych hawl i gael budd-dal salwch neu anabledd cymhwyso. Mae Lwfans Byw i'r Anabl yn enghraifft o fudd-dal salwch neu anabledd cymhwyso. Cysylltwch â'r swyddfa o fewn un mis i gael gwybod eich bod yn mynd i gael y budd-dal os ydych am i'ch credydau treth ychwanegol gael eu hôl-ddyddio i'r dyddiad cynharaf posibl.

Mae gan eich plentyn anabledd

Os nad ydych eisoes yn cael Credyd Treth Plant ar gyfer eich plentyn, dylech wneud cais amdano cyn gynted â phosibl. Y rheswm am hyn yw mai dim ond am hyd at un mis y gall y Swyddfa Credyd Treth ôl-ddyddio eich cais.

Efallai eich bod eisoes yn cael Credyd Treth Plant ar gyfer eich plentyn ond eich bod am hawlio credydau treth ychwanegol am fod gan eich plentyn anabledd. Os felly, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn gymwys i gael Lwfans Byw i'r Anabl (neu'r Elfen Ofal ar y Gyfradd Uchaf). Efallai y bydd yn gallu ôl-ddyddio eich credydau treth ychwanegol i'r dyddiad y daeth eich plentyn yn gymwys i gael y lwfans.

Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym o fewn un mis fan bellach i'r dyddiad y cewch wybod bod eich plentyn yn gymwys i gael y lwfans. Fel arall, efallai mai dim ond am hyd at un mis y bydd yn gallu ôl-ddyddio eich credydau treth ychwanegol.

Os ydych yn hawlio lloches yn y DU

Gall y Swyddfa Credyd Treth ôl-ddyddio eich credydau treth i'r dyddiad y gwnaethoch eich cais am loches. Ond bydd angen iddi gael eich cais am gredydau treth o fewn tri mis i'r dyddiad y cewch eich cydnabod fel ffoadur.

Sut i ganfod a yw'r Swyddfa Credyd Treth wedi ôl-ddyddio eich cais

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon hysbysiad dyfarnu atoch yn dilyn eich cais cyntaf am gredydau treth. Byddwch hefyd yn cael un bob tro y byddwch yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau. Bydd yr hysbysiad dyfarnu yn dangos pa elfennau credydau treth rydych yn eu cael ac o ba ddyddiad y cewch eich talu.

Mae'n bwysig eich bod yn darllen eich hysbysiad dyfarnu yn ofalus pan fyddwch yn ei gael. Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os bydd rhywbeth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU