Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwirio eich hysbysiad dyfarniad credydau treth

Os ydych yn gymwys i gael credydau treth, byddwch yn cael hysbysiad dyfarnu yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei gael - yn seiliedig ar y wybodaeth rydych wedi'i rhoi. Bydd angen i chi ei ddarllen yn ofalus, a dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os bydd unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn.

Beth yw hysbysiad dyfarnu?

Mae tair rhan i'r hysbysiad dyfarnu:

  • mae rhan 1 amdanoch chi
  • mae rhan 2 yn dweud wrthych sut y gwnaeth y Swyddfa Credyd Treth gyfrifo eich credydau treth
  • mae rhan 3 yn nodi beth fydd y Swyddfa Credyd Treth yn ei dalu i chi

Mae'n nodi:

  • os byddwch yn cael Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant neu'r ddau
  • faint y byddwch yn ei gael
  • beth y gwnaethoch ei ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth a sut mae wedi defnyddio hyn i weithio allan yr hyn a gaiff ei dalu i chi
  • pa newidiadau y bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth amdanynt, a phryd y bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa
  • sut a phryd y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn talu eich credydau treth

Byddwch yn cael rhestr wirio gyda'ch hysbysiad dyfarnu a fydd yn nodi pa wybodaeth y bydd angen i chi ei chadarnhau a sut i roi gwybod am unrhyw newidiadau.

Dylech gadw'r hysbysiad dyfarnu mewn man diogel. Ni allwch gael copi o'ch hysbysiad dyfarnu ar-lein. Os byddwch wedi colli eich hysbysiad dyfarnu, dim ond drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth y gallwch gael copi.

Beth i'w wneud pan fyddwch yn cael hysbysiad dyfarnu

Cyfrifoldeb y Swyddfa Credyd Treth yw rhoi'r wybodaeth gywir ar eich hysbysiad dyfarnu yn seiliedig ar y wybodaeth rydych wedi'i rhoi iddynt.

Darllenwch eich hysbysiad - a rhowch wybod am unrhyw beth sy'n anghywir

Mae'n bwysig eich bod yn:

  • darllen eich hysbysiad dyfarnu pan fyddwch yn cael un
  • dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os bydd unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, neu os bydd unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall - defnyddiwch y rhestr wirio a ddaeth gyda'r hysbysiad i'ch helpu gyda hyn

Os bydd unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall, neu os bydd unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth. Dylech wneud hyn o fewn mis o gael eich hysbysiad dyfarnu.

Peidiwch ag oedi os bydd unrhyw beth yn anghywir. Efallai na fyddwch yn cael yr holl arian y bydd gennych yr hawl i'w gael, neu gallech fod yn cronni gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Os bydd camgymeriad ar eich hysbysiad dyfarnu, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith. Bydd yn cywiro'r camgymeriad ac yn anfon hysbysiad newydd atoch. Yn yr achos hwn efallai na fydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliad.

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Os oes gennych blentyn 16 oed yn aros yn yr ysgol neu'r coleg yn gwneud hyfforddiant

Efallai eich bod wedi cael hysbysiad dyfarnu am eich bod wedi adnewyddu eich credydau treth yn ddiweddar. Os yw eich plentyn yn 16 oed (neu bron yn 16 oed) bydd yn dangos eich Credyd Treth Plant yn dod i ben ar ei gyfer ar 31 Awst.

Os bydd eich plentyn yn aros yn yr ysgol neu'r coleg, neu'n dechrau cwrs hyfforddi, bydd eich Credyd Treth Plant ar ei gyfer yn parhau. Byddwch yn cael dyfarniad hysbysu arall ar ôl 1 Medi yn dangos hyn. Ond mae'n rhaid i chi fod wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth bod eich plentyn yn aros, ac mae'n rhaid i'r addysg neu'r hyfforddiant gyfrif ar gyfer credydau treth.

Unwaith y bydd eich plentyn yn 16 oed, dim ond mathau penodol o addysg neu hyfforddiant fydd yn cyfrif ar gyfer credydau treth. Er enghraifft, nid yw cwrs uwch ar lefel addysg uwch - fel gradd - yn cyfrif. Dylech gadarnhau a all addysg neu hyfforddiant eich plentyn eich helpu i fod yn gymwys i gael credydau treth drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofiwch ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith am unrhyw newidiadau i addysg neu hyfforddiant eich plentyn. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen gais

Os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen gais am gredydau treth pan fyddwch yn darllen eich hysbysiad dyfarnu, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar unwaith. Gallai'r wybodaeth newydd a roddir gennych olygu eich bod yn cael mwy o gredydau treth - neu lai.

Pryd y byddwch yn cael hysbysiad dyfarnu?

Eich hysbysiad dyfarnu cyntaf

Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth wedi delio â'ch cais, bydd yn anfon hysbysiad dyfarnu atoch os byddwch yn gymwys i gael credydau treth.

Hysbysiad dyfarnu diwygiedig

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau, neu os bydd unrhyw newidiadau eraill, byddwch yn cael hysbysiad dyfarnu credydau treth diwygiedig.

Nod y Swyddfa Credyd Treth yw anfon hysbysiad dyfarnu diwygiedig atoch o fewn 30 diwrnod i ddweud wrthynt am newid.

Os na fyddwch yn cael hysbysiad dyfarnu diwygiedig o fewn 30 diwrnod, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â phosibl.

Hysbysiad dyfarnu terfynol

Ar ôl diwedd y flwyddyn, bydd angen i chi adnewyddu eich cais am gredydau treth. Bydd hyn yn helpu'r Swyddfa Credyd Treth i sicrhau bod y taliadau y mae wedi'i wneud i chi yn gywir yn seiliedig ar eich amgylchiadau gwirioneddol.

Pan fyddwch wedi adnewyddu eich cais, byddwch yn cael hysbysiad dyfarnu, gyda phenderfyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 5 Ebrill. Er bod y penderfyniad yn derfynol, bydd angen i chi ddarllen yr hysbysiad dyfarnu yn ofalus a dweud wrthynt os bydd unrhyw beth ar goll, yn anghywir neu'n anghyflawn.

Hefyd, anfonir hysbysiad dyfarnu ar wahân atoch yn dweud wrthych beth fydd eich taliadau ar gyfer y flwyddyn dreth sydd i ddod.

Efallai na fydd angen i chi adnewyddu eich cais am gredydau treth, er enghraifft am eich bod ond yn cael elfen deuluol y Credyd Treth Plant. Os bydd hyn yn gymwys i chi, byddwch yn cael eich penderfyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 5 Ebrill gyda'ch pecyn adnewyddu. Ni fyddwch yn cael mwy o hysbysiadau dyfarnu - oni fydd eich amgylchiadau'n newid.

Cadarnhau eich taliadau credydau treth

Mae hefyd yn bwysig cadarnhau'r swm o arian a fydd yn mynd i mewn i'ch cyfrif banc. Bydd Rhan 3 o'ch hysbysiad dyfarnu - Dyddiadau a symiau taliadau - yn dangos eich taliad cyntaf.

Bydd hefyd yn dangos y swm i'w dalu bob wythnos neu bob pedair wythnos. Os na fydd taliad yn cyfateb i'r swm ar eich hysbysiad dyfarnu, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â phosibl.

Allweddumynediad llywodraeth y DU