Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Apelio yn erbyn penderfyniad credyd treth

Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad yn ymwneud â'ch credydau treth, mae'n bosib y bydd gennych hawl i apelio. Fel rheol, bydd yn rhaid i chi apelio o fewn 30 diwrnod ar ôl i chi gael gwybod beth yw penderfyniad y Swyddfa Credyd Treth.

Cyn i chi apelio

Mae yna un neu ddau o gamau y gallwch eu cymryd cyn apelio.

Ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth

Mae bob amser yn werth ceisio dod i gytundeb â'r Swyddfa Credyd Treth cyn apelio'n ffurfiol. Drwy wneud hyn, os byddant yn cytuno bod eich dyfarniad yn anghywir, gallant wneud yn siŵr ei fod yn cael ei newid i chi.

Os hoffech siarad â rhywun ynghylch eich dyfarniad credyd treth, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Cael cyngor annibynnol

Gallwch gael cyngor annibynnol am ddim gan nifer o sefydliadau – er enghraifft:

  • Canolfan Cyngor Ar Bopeth
  • eich undeb llafur
  • Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
  • TaxAid

Gallwch gael cyngor gan dwrnai neu gyfrifydd hefyd, ond bydd yn rhaid i chi dalu am hyn.

Sut ydych chi'n gwybod a allwch chi apelio

Cewch hysbysiad gan y Swyddfa Credyd Treth a fydd yn datgan eu penderfyniad ac yn dweud a allwch apelio yn erbyn y penderfyniad ai peidio.

Gallwch apelio:

  • os byddwch yn credu bod penderfyniad yn anghywir
  • os nad yw eich dyfarniad yn ystyried newid mewn amgylchiadau
  • os yw eich dyfarniad yn cael ei leihau neu’n dod i ben
  • os nad ydych chi’n cytuno â hysbysiad o gosb
  • os codwyd llog arnoch

Pryd na allwch chi apelio

Allwch chi ddim apelio yn erbyn penderfyniad i ofyn i chi dalu gordaliad yn ôl. Ond gallwch apelio os ydych chi'n meddwl bod faint o gredydau treth a ddyfarnwyd i chi yn y lle cyntaf yn anghywir.

Opsiynau eraill os na allwch chi apelio:

  • mae gennych hawl i wrthwynebu'r gordaliad os ydych chi'n meddwl bod y Swyddfa Credyd Treth wedi gwneud camgymeriad
  • gallwch ofyn i'r Swyddfa Credyd Treth edrych eto ar yr ad-daliadau y maent wedi gofyn i chi eu gwneud os ydych chi'n ei chael yn anodd gwneud y taliadau

Efallai y byddwch am gysylltu â chynghorydd annibynnol, megis eich cyfrifydd neu Gyngor Ar Bopeth, er mwyn trafod eich opsiynau.

Pwy gaiff apelio

Fel arfer, y sawl a wnaeth yr hawliad neu sy'n cael y credydau treth fydd yn apelio. Ond gallwch ofyn i gynghorydd annibynnol apelio ar eich rhan. Os ydych yn benodai ac yn hawlio credydau treth ar ran rhywun arall, gallwch apelio ar eu rhan.

Terfyn amser ar gyfer apeliadau

Fel rheol, bydd yn rhaid i chi apelio o fewn 30 diwrnod ar ôl i chi gael gwybod beth yw penderfyniad y Swyddfa Credyd Treth. Os ceir achos arbennig byddant yn rhoi mwy o amser i chi, ond bydd yn rhaid i chi ddweud pam eich bod yn hwyr yn apelio.

Ni allant dderbyn apêl a gyflwynir 13 mis neu ragor ar ôl iddynt anfon eu penderfyniad atoch.

Sut i apelio

Rhaid i chi nodi'ch apêl ar bapur, a gallwch wneud hyn drwy un o'r ffyrdd canlynol:

  • anfon llythyr atynt
  • llenwi ac anfon ffurflen WTC/AP, Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith – beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod ein penderfyniad yn anghywir

Rhaid i chi ddweud yn eich apêl pam rydych chi’n credu iddynt wneud y penderfyniad anghywir. Rhaid i chi ddweud hefyd pa benderfyniad rydych chi'n apelio yn ei erbyn.

Bydd angen i chi anfon eich llythyr neu'ch ffurflen apelio wedi'i llenwi i'r cyfeiriad canlynol:

Tax Credit Office
Preston
PR1 0SB

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cam 1

Os nad yw'r Swyddfa Credyd Treth wedi gwneud hynny'n barod, byddant yn gwneud yn siŵr bod y penderfyniad yn gywir ac yn ei egluro.

Cam 2

Os ydych yn fodlon â'r eglurhad bydd angen i chi dynnu eich apêl yn ôl. Os ydych chi dal yn anghytuno neu os nad ydych chi'n meddwl eu bod wedi delio gyda'r holl bwyntiau yn eich apêl, gall eich achos fynd i dribiwnlys annibynnol.

Caiff y tribiwnlys ei gynnal gan un o'r canlynol, gan ddibynnu ar ble rydych chi'n byw:

  • Cymru, Lloegr a'r Alban – y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd
  • Gogledd Iwerddon – y Gwasanaeth Apeliadau

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn nodi eu hymateb i'ch apêl yn ysgrifenedig, gan egluro'r gyfraith a'r ffeithiau a ddefnyddiwyd i wneud eu penderfyniad. Byddant hefyd yn anfon copi o'u hymateb atoch chi neu at y sawl sy'n eich cynrychioli.

Os ydych am gael gwybod beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich apêl i'r tribiwnlys, dilynwch y dolenni isod i weld mwy o wybodaeth ar wefannau perthnasol.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os ceir unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich taliadau, rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth yn ddi-oed. Peidiwch ag aros am wrandawiad yr apêl.

Tynnu'r apêl yn ôl

Gallwch dynnu’ch apêl yn ôl ar unrhyw adeg drwy:

  • ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth
  • ysgrifennu i'r cyfeiriad ar yr hysbysiad sy'n rhoi'r penderfyniad
  • cysylltu â'r Gwasanaeth Apeliadau neu'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd sy'n delio â'ch apêl, os yw'ch apêl wedi cael ei hanfon atynt

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU