Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Twyll credydau treth

Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn cymryd twyll credydau treth o ddifrif, a'i nod yw rhedeg system credydau treth y gallwch fod yn ffyddiog y bydd yn eich cefnogi.

Beth mae'r Swyddfa Credyd Treth yn ei wneud i atal twyll

Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn gweithio'n galed i'ch gwarchod chi a'r system rhag y risg o dwyll drwy wneud y canlynol:

  • mynd ati'n gyson i archwilio'r manylion a roddir ar ffurflenni hawlio
  • holi darparwyr gofal plant a chyflogwyr i wneud yn siŵr bod y manylion yn gywir
  • gweithio'n agos gyda sefydliadau fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Heddlu, a'r Gwasanaeth Mewnfudo
  • gweithio'n agos gyda Chymdeithas Bancio Prydain er mwyn dod o hyd i gyfrifon banc sy'n cael eu defnyddio at ddibenion twyll credydau treth

Pan fyddant yn gweithio gyda chyrff eraill, byddant yn gwneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â deddfau diogelu data.

Mathau o ymchwiliadau i dwyll

Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn darganfod achos o dwyll gallant:

  • roi cosb ariannol
  • erlyn

Gallant ddefnyddio dau fath o ymchwiliad i ddelio gyda thwyll credydau treth:

  • ymchwiliadau sifil
  • ymchwiliadau troseddol

Ymchwiliadau sifil

Nod ymchwiliad sifil yw cael unrhyw daliadau credyd treth sydd wedi eu hawlio drwy dwyll yn ôl, ynghyd ag unrhyw log. Bydd y Swyddfa Credyd Treth hefyd yn rhoi cosb ariannol. Ni fydd ymchwiliad sifil yn arwain at erlyniad.

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn codi dirwy ar rywun, gallant ystyried ei lleihau os oedd yr unigolyn:

  • wedi sylweddoli eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad
  • wedi rhoi’r holl ffeithiau i’r Swyddfa Credyd Treth yn wirfoddol, heb fod rhywun wedi gofyn iddynt wneud – a chyn i rywun ddechrau gwirio eu manylion

Er enghraifft, efallai bod yr unigolyn wedi sylweddoli eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad ar ôl darllen taflen ynghylch credydau treth, neu wybodaeth ar y rhyngrwyd.

Ymchwiliadau Troseddol

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ceisio delio â thwyll credydau treth gydag ymchwiliadau sifil pan fydd hynny'n bosib. Dim ond mewn achosion difrifol iawn y byddant yn defnyddio ymchwiliadau troseddol, a hynny:

  • pan maent am anfon neges gadarn i atal pobl eraill rhag ceisio gwneud yr un fath
  • pan mae'r unigolyn wedi gweithredu mewn modd sy'n golygu mai ymchwiliad troseddol yw'r unig opsiwn

Mae achosion difrifol yn cynnwys:

  • twyll credydau treth wedi'i drefnu
  • pan mae datganiadau ffug wedi cael eu gwneud
  • pan mae dogfennau ffug wedi cael eu rhoi i'r Swyddfa Credyd Treth
  • pan mae pobl sy'n hawlio credyd treth wedi cuddio gwybodaeth rhag y Swyddfa Credyd Treth, neu wedi'i chamarwain yn bwrpasol
  • pan mae rhywun wedi cyflawni'r un math o drosedd o'r blaen
  • pan geir tystiolaeth bod staff y Swyddfa Credyd Treth wedi dioddef ymosodiad neu wedi cael eu bygwth
  • pan mae pobl wedi cymryd arnynt eu bod yn un o'u gweithwyr

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU