Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod am dwyll budd-daliadau

Roedd cost twyll budd-daliadau i'r wlad yn 2010-11 oddeutu £1.2 biliwn. Os ydych yn meddwl bod rhywun yn twyllo gyda'u budd-daliadau, dewch i hyd i sut y gallwch eu hysbysu a'u hatal rhag cymryd arian oddi ar y bobl sydd ei angen fwyaf.

Beth yw twyll budd-daliadau?

Twyll budd-daliadau yw pan fydd rhywun yn dweud celwyddau er mwyn cael budd-dal neu’n methu â hysbysu newid yn eu hamgylchiadau yn fwriadol. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd:

  • yn peidio â dweud eu bod yn awr yn byw gyda phartner neu fod eu partner wedi dechrau gweithio
  • yn peidio â dweud eu bod yn derbyn budd-daliadau eraill
  • yn peidio â dweud bod ganddynt gynilion neu'n peidio â datgan y swm cywir
  • yn hawlio am blant sydd wedi gadael y cartref
  • yn peidio â dweud eu bod wedi dechrau gweithio, neu wedi dechrau ennill arian
  • yn peidio â dweud eu bod wedi etifeddu arian
  • yn peidio â dweud eu bod yn mynd dramor, yn byw dramor, neu wedi newid cyfeiriad

Sut y gallwch hysbysu twyll budd-daliadau

Mae tair ffordd o hysbysu twyll budd-daliadau:

Ar-lein

Llenwch ffurflen ar-lein ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dros y ffôn

Ffoniwch y Llinell Dwyll Budd-daliadau Cenedlaethol Welsh ar 0800 678 3722. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am ac 6.00pm. Mae llinellau fel arfer yn llai prysur cyn 9.00am.

Os oes gennych broblemau ar eich lleferydd neu broblem gyda'ch clyw, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ffôn testun ar 0800 328 0512.

Os ydych am siarad Saesneg, gallwch ffonio’r Llinell Dwyll Budd-daliadau Cenedlaethol (NFBH) ar 0800 854 440. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am a 6.00pm. Mae’n ddi-ddal ac yn gyfrinachol. Mae llinellau yn llai prysur cyn 9.00am.

Drwy'r post

Petai'n well gennych hysbysu’r twyll trwy lythyr, anfonwch y wybodaeth i:

Canolfan Gyswllt Gymraeg,

Cyllid a Thollau EM,

Tŷ Moelwyn,

Tros y Bont,

Porthmadog,

LL49 9AB

Gallwch wneud adroddiad anhysbys

P’un ag ydych yn defnyddio’r ffurflen hysbysu ar-lein, yn ffonio’r llinell gymorth, neu’n ysgrifennu llythyr, gallwch ddewis peidio â rhoi eich manylion os bydd yn well gennych.

Byddai o gymorth os galwch roi’r manylion er mwyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau gysylltu â chi gydag unrhyw gwestiynau os bydd yn angenrheidiol.

Pa wybodaeth i'w darparu

Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid cael rheswm da dros ymchwilio i dwyll budd-daliadau - felly, dylech roi cymaint o'r wybodaeth ganlynol ag y bo modd:

  • enw a chyfeiriad y person rydych chi'n eu hysbysu a'u partner, os oes ganddynt un
  • disgrifiad o'r person
  • y math o dwyll budd-daliadau sy'n debygol o fod dan sylw a pham rydych yn eu hamau
  • gwybodaeth am eu cyflogwr, os ydych yn meddwl eu bod yn gweithio
  • gwybodaeth am eu cerbyd, os oes ganddynt un

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi hysbysu rhywun?

Bydd staff yr adran dwyll budd-daliadau yn edrych ar y wybodaeth a rowch . Os ydych wedi rhoi digon o wybodaeth, byddant yn edrych ar gais yr unigolyn am fudd-dal.

Bydd angen peth amser ar gyfer yr archwiliad, a chaiff y Gwasanaeth Ymchwil Twyll ddim sôn wrthych am y canlyniad.

Weithiau, ni chymerir unrhyw gamau. Mae'n bosib bod y person wedi datgan y newid mewn amgylchiadau ac nad oes unrhyw effaith ar y budd-dal.

Dim ond os byddant yn canfod bod y person wedi bod yn cyflawni twyll budd-daliadau y bydd y Gwasanaeth Ymchwil Twyll yn cymryd camau. Gall y camau hynny gynnwys dileu budd-daliadau rhywun a mynd â nhw i'r llys.

Cewch ragor o wybodaeth am ymgyrch ‘Targedu lladron budd-daliadau’ drwy ddefnyddio’r ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU