Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall swyddogion budd-daliadau eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith pan fyddwch yn ddi-waith drwy sicrhau eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Maent hefyd yn archwilio hawliadau am fudd-daliadau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn mynd i'r bobl sydd ei angen.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn archwilio ceisiadau am fudd-daliadau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn mynd i'r bobl sydd ei angen.
Caiff y wybodaeth a roddwch i gefnogi eich cais am fudd-dal ei archwilio gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau ei fod yn gywir. Mae hyn yn helpu’r Adran Gwaith a Phensiynau i gyfrifo a oes gennych hawl i unrhyw fudd-dal a faint y gallwch ei hawlio.
Ar ddechrau eich cais, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwiro’r wybodaeth a roddwyd gennych i sicrhau ei bod yn gywir.
Gellir cymharu'r hyn a ddywedwyd neu a ysgrifennwyd gennych ar y ffurflen gais gyda chofnodion amdanoch gan asiantaeth arall y llywodraeth. Er enghraifft, gellir gofyn i Gyllid a Thollau EM a ydych yn talu treth ac yn gweithio, neu i gadarnhau eich enillion.
Efallai y bydd gwybodaeth amdanoch chi hefyd yn cael ei rannu gydag awdurdodau lleol y mae'n rhaid iddynt archwilio ceisiadau cyn rhoi Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor.
Gall gwiriadau gael eu gwneud gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar unrhyw adeg, nid dim ond pan fyddwch yn gwneud cais. Weithiau, byddwn yn gwirio pawb sy'n cael budd-dal penodol neu grŵp penodol sy’n hawlio.
Gallwch helpu gyfyngu ar dwyll budd-daliadau drwy sichau bod y wybodaeth a roddwch yn gyfredol ac yn gywir, a thrwy weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau wrth i wiriadau gael eu gwneud.
Gellir gofyn i chi gefnogi eich cais gyda thystiolaeth o'ch incwm a'ch cyfalaf, er enghraifft.
Hefyd, bydd angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol, neu wneud cais am un os nad oes gennych un. Os na allwch gofio eich rhif Yswiriant Gwladol, gofynnir i chi am fanylion eraill fel eich dyddiad geni a'ch cyfeiriad. Mae hyn er mwyn gallu dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Os na fydd ymholiadau a wneir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau amdanoch yn cyd-fynd â'r hyn sydd yn eich cais gall Ymchwilwyr Twyll awdurdodedig yr Adran Gwaith a Phensiynau ymweld â chi neu ofyn i chi fynd i gyfweliad i drafod y mater.
Ni ellir talu eich cais oni bai y bydd yr archwiliadau hyn yn gyflawn, felly mae'n bwysig mynd i’r cyfweliad ac ateb unrhyw lythyrau am yr ymchwiliad yn brydlon. Mae cymorth a chyngor ar yr hyn y bydd yn digwydd os cewch broblemau gyda'ch cais am fudd-dal ar gael drwy ddilyn y ddolen isod.
Os bydd swyddogion budd-daliadau yn credu bod twyll difrifol ar waith, bydd Ymchwilwyr Twyll yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymchwilio i'ch cais yn fanylach. Gallant gasglu gwybodaeth amdanoch chi ac aelodau o'ch teulu a'i chymharu â'r wybodaeth a roddwyd ar ffurflenni cais neu mewn cyfweliadau.
Gall Ymchwilwyr Twyll gysylltu â sefydliadau preifat a chyhoeddus eraill sy'n cadw gwybodaeth amdanoch gan gynnwys:
Dim ond os bydd ganddynt sail resymol dros gredu eich bod yn cyflawni twyll neu'n helpu rhywun arall i wneud hynny y bydd modd i swyddogion wneud ymholiadau.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu ac yn cadw gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud ag unrhyw gais am fudd-daliadau. Mae'r gyfraith yn caniatáu croeswirio'r wybodaeth hon a'i rhannu gyda sefydliadau penodol eraill.
Mae’r Ddeddf Diogelu Data 1998 yn rhoi'r hawl, yn ôl y gyfraith, i chi gael gwybod pa wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch gan sefydliadau. Gorfodir hyn gan y Comisiynydd Gwybodaeth - rhif ffôn 01625 545 745. Mae’r llinellau ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio ar wyliau banc).
I gael gwybod mwy am sut mae'r Ddeddf Diogelu Data'n effeithio arnoch, gallwch lawrlwytho taflen oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os ydych yn poeni am archwiliadau ar eich cais am fudd-dal, neu os gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth, gallwch gael cymorth gan sefydliadau fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.