Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall cyflawni twyll budd-daliadau olygu dirwyo neu wynebu dedfryd o garchar. Ym mhob achos, bydd yn rhaid i chi dalu'r arian yn ôl nad oedd gennych hawl iddo. Canfyddwch fwy am ymchwiliadau budd-dal twyll a ble i gael cyngor os ydych yn cael eu harchwilio am dwyll budd-daliadau.
Os byddwch yn fwriadol yn methu â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol neu yn anonest am wybodaeth sy’n cefnogi eich cais am fudd-dal, cewch eich trin fel rhywun sy'n cyflawni twyll budd-dal.
Os cewch eich drwgdybio o gyflawni twyll budd-dal, cewch eich cysylltu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu eich awdurdod lleol. Efallai y byddwch yn ymweld â Swyddogion Ymchwilio Twyll neu bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad i drafod eich cais. Efallai caiff eich budd-dal ei atal dros dro tra bydd ymchwiliad. Os digwydd hyn, dylech dderbyn llythyr yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf.
Rhoi gwybod os bydd amgylchiadau'n newid
Bydd angen i chi ddweud wrth eich swyddfa fudd-daliadau am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau cyn gynted â phosibl. Byddant yn dweud wrthych os bydd yn effeithio ar eich budd-dal.
Gall rhai newidiadau olygu bod gennych yr hawl i fudd-daliadau newydd neu ychwanegol, ond gall eraill olygu nad ydych yn gymwys i gael budd-daliadau rhagor, neu y dylech gael swm llai. Mae'n bosib y byddwch yn derbyn gormod o fudd-dal os na fydd y swyddfa budd-daliadau'n gwybod am eich amgylchiadau newydd.
Mae twyll budd-dal yn drosedd y gellir ei chyflawni mewn nifer o ffyrdd. Am enghreifftiau o dwyll budd-dal, defnyddiwch y cyswllt isod:
Unwaith y bydd swyddogion wedi casglu ffeithiau am eich achos, gwneir penderfyniad ynghylch a ddylid cymryd camau pellach ai peidio. Os bydd tystiolaeth eich bod yn cyflawni twyll budd-dal, gall unrhyw un o'r canlynol ddigwydd:
Daeth newidiadau pwysig i'r rheolau ynghylch colli budd-dal yn dilyn trosedd o dwyll budd-dal i rym o 1 Ebrill 2010.
Os byddwch yn cyflawni trosedd cyntaf yn arwain at gollfarn, cosb weinyddol neu rybudd, bydd yn ddarostyngedig i gosb ‘Un cyfle'. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn colli eich hawl i barhau i gael taliadau budd-dal am gyfnod o bedair wythnos.
Byddwch yn cael gwybod os bydd y 'cosb un cyfle' yn cael ei gymhwyso at eich budd-daliadau.
Os cewch eich dyfarnu'n euog o ddau drosedd twyll budd-dal ar wahân, efallai y gwelwch fod eich hawl i rai budd-daliadau yn is neu wedi'i dynnu am gyfnod gwahardd.
Gelwir hyn yn gosb 'Dau Gyfle', ac fe gewch wybod os yw'n berthnasol i'ch budd-daliadau.
Budd-daliadau cosbadwy
Gelwir budd-daliadau y gellir eu tynnu neu eu lleihau yn y modd hwn yn fudd-daliadau cosbadwy, ac maent yn cynnwys:
Nid yw budd-daliadau anghymwyso'n gosbadwy ar eu pennau eu hunain, ond gall dau drosedd twyll sy'n ymwneud â nhw arwain at gosb Dau Gyfle yn erbyn budd-daliadau eraill. Dyma rai enghreifftiau:
Nid yw rhai budd-daliadau, megis Credydau Treth a Thâl Salwch Statudol, yn rhan o'r broses gosb Dau Gyfle o gwbl.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch eich budd-daliadau, hawliad budd-daliadau neu ymchwiliad, mae'n syniad da cysylltu â'ch swyddfa budd-daliadau. Efallai eich bod wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol, neu'n ansicr a ydy rhywbeth yn berthnasol i'ch achos penodol chi.
Os ydych chi'n poeni am gael eich amau o dwyll, efallai y dymunwch gael cyngor annibynnol gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
Os byddwch yn wynebu erlyniad ar gyfer twyll budd-dal, neu y bydd gofyn i chi dalu cosb yn lle wynebu erlyniad, mae'n syniad da ceisio cyngor cyfreithiol gan dwrnai, neu siarad â chynghorydd profiadol.
Mae cyfeirlyfr y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn darparu manylion yr holl gyfreithwyr, asiantaethau cynghori a darparwyr gwybodaeth yng Nghymru a Lloegr sy'n dal ei nod ansawdd neu sydd wedi ymrwymo iddo.
Mae gennych hawl i ddadlau neu apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad am fudd-daliadau, gan gynnwys penderfyniadau a wnaethpwyd ar sail canlyniadau ymchwiliad.