Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newidiadau sy'n effeithio ar eich budd-dal

Os ydych yn derbyn budd-daliadau ac y mae’ch amgylchiadau’n newid, dywedwch wrth eich swyddfa budd-daliadau leol cyn gynted â phosib. Os ydych chi’n rhoi gwybod am unrhyw newidiadau’n brydlon yn golygu y byddwch yn derbyn unrhyw gynnydd i’ch taliadau neu fudd-dal newydd yn gynt. Gyda rhai newidiadau, mae’n bosib y bydd eich taliadau’n lleihau. Cael gwybod sut y gall newid yn eich amgylchiadau effeithio ar eich hawl budd-dal.

Newidiadau y bydd angen i chi roi gwybod amdanynt

Rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddfa fudd-dal lleol am unrhyw newid yn eich amgylchiadau cyn gynted ag y bydd y newid hwnnw'n digwydd, hyd yn oed os na fyddwch yn credu bod y newid hwnnw'n berthnasol i'ch budd-daliadau.

Dyma rai enghreifftiau o'r newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt:

  • priodi, gwneud partneriaeth sifil neu symud i fyw at bartner
  • symud tŷ
  • cael swydd newydd, beth bynnag yw eich gwaith neu’r tâl a gewch
  • cael codiad cyflog
  • etifeddu neu’n dod i arian yn annisgwyl
  • rhoi cartref i letywr
  • os na fyddwch yn sâl neu'n wael mwyach
  • teithio neu symud dramor

Sut gall newidiadau effeithio ar eich budd-daliadau

Weithiau, gall newid yn eich amgylchiadau olygu y bydd cyfradd eich budd-dal yn newid, neu y bydd gennych hawl i gael budd-dal ychwanegol neu fudd-dal gwahanol. Er enghraifft, os ydych chi'n rhiant sengl yn derbyn Budd-dal Tai a'ch bod yn penderfynu chwilio am waith, efallai bod gennych hawl i gael y Lwfans Ceisio Gwaith hefyd.

Gall newidiadau eraill i'ch amgylchiadau, cael codiad cyflog er enghraifft, olygu na fyddwch yn gymwys i dderbyn budd-dal rhagor, neu fod yn rhaid gostwng y swm gewch chi.

Twyll budd-dal

Os byddwch yn fwriadol yn peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol, fe gewch eich trin fel rhywun sydd wedi cyflawni twyll budd-dal. Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, gallech wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.

Gweld ‘Beth sy’n digwydd os bydd rhywun yn eich amau o dwyll budd-dal’ am y rheolau ynghylch colli’r hawl i fudd-daliadau yn dilyn trosedd twyll budd-dal.

Adegau eraill y gall eich budd-daliadau newid

Weithiau gall eich budd-daliadau newid hyd yn oed pan fydd eich amgylchiadau'n aros yr un fath. Er enghraifft, bydd y llywodraeth yn cynyddu'r rhan fwyaf o daliadau budd-dal i sicrhau eu bod yn aros yn unol â'r chwyddiant bob blwyddyn. Cewch wybod am unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar faint o arian a gewch.

Rhoi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau neu gael gwybod sut gall eich budd-daliadau newid drwy gysylltu â'ch swyddfa fudd-daliadau leol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU