Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut y telir budd-daliadau a phensiynau

Taliad Uniongyrchol yw'r ffordd arferol o dalu budd-daliadau a phensiynau. Mae'n ddull diogel, cyfleus ac effeithlon o dalu. Dewch i gael gwybod sut y mae Taliad Uniongyrchol yn rhoi hyblygrwydd i ddewis ble a phryd i gasglu eich arian, a mynediad i ystod eang o wasanaethau ariannol eraill.

Manteision defnyddio cyfrif

Gallwch ddewis cael eich arian ei dalu i mewn i un o amrywiaeth o gyfrifon. Gall y rhain fod yn gyfrif banc sylfaenol, cyfrif cyfredol, neu gymdeithas adeiladu neu gyfrif undeb credyd.

Bydd cael cyfrif yn rhoi hyblygrwydd i godi arian o amrywiaeth o leoedd yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o fanciau, peiriannau arian parod a'r cyfleusterau ‘cashback’ a gynigir gan sawl siop ar y stryd fawr.

Yn ogystal, mae sawl cyfrif banc stryd fawr ar gael yn y Swyddfa'r Post ®. Gallwch gasglu arian o gangen Swyddfa'r Post gan ddefnyddio cyfrif banc cyfredol neu sylfaenol. Gallwch wneud hyn os oes gan eich banc drefniant gyda Swyddfa'r Post ® Cyfyngedig.

Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post

Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post (POca). Mae hyn yn gyfrif syml a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer talu budd-daliadau a phensiynau o adrannau'r llywodraeth. O 23 Mawrth 2010, os ydych yn ddeiliad cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post, gallwch gael mynediad i'ch cyfrif trwy beiriannau arian y Swyddfa'r Post ®. Mae hyn yn ychwanegol i ddefnyddio'r gwasanaeth cownter.

Sut y gallwch chi ddewis y cyfrif cywir

Os hoffech gael gwybod mwy am ddewis y cyfrif cywir i gael eich budd-dal neu bensiwn, cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio â'ch cais

Os nad oes gennych gyfrif, yna gall y ddolen isod eich helpu i ddewis y cyfrif cywir i’ch anghenion.

Beth os bydd rhywun arall yn casglu'ch budd-dal?

Os oes angen cymorth arnoch i gasglu eich budd-dal neu daliad pensiwn, gallwch drefnu bod rhywun arall yn gwneud hynny drosoch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU