Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i hawlio budd-dal

Mae gan y llywodraeth ystod o fudd-daliadau i roi cyfle a chymorth i bobl. Caiff y rhain eu trin gan wahanol adrannau ac asiantaethau. Os oes gennych yr hawl i unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, bydd angen i chi eu hawlio o'r lle iawn. Cael gwybod sut i hawlio’r gwahanol fathau o fudd-dal.

Y gwahanol fathau o fudd-dal

Mae budd-daliadau ar gael i bobl o oed gweithio, i bensiynwyr, i deuluoedd a phlant ac i bobl anabl a'u gofalwyr. Mae gwahanol adrannau neu rannau o adrannau'n ymdrin â phob un o'r meysydd hyn. Drwy hawlio yn y lle iawn, bydd hynny'n sicrhau y cewch chi'ch budd-dal cyn gynted ag y bo modd.

Rhennir budd-daliadau'n bedwar grŵp:

  • budd-daliadau i bobl o oed gweithio
  • budd-daliadau i bobl sydd wedi ymddeol neu sy'n bwriadu ymddeol
  • budd-daliadau i deuluoedd a phlant
  • budd-daliadau i bobl anabl a'u gofalwyr

Budd-daliadau i bobl o oed gweithio

Os ydych chi'n chwilio am waith (neu mewn swydd â chyflog isel) mae cymorth a chefnogaeth ariannol ar gael gan y Ganolfan Byd Gwaith a Chyllid a Thollau EM.

Budd-daliadau i bobl sydd wedi ymddeol neu sy'n bwriadu ymddeol

Mae gan bawb yr hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, ac mae gan lawer o bobl o oed pensiwn yr hawl i fudd-daliadau eraill. Caiff y rhain eu gweinyddu gan y Gwasanaeth Pensiwn erbyn hyn.

Budd-daliadau i deuluoedd a phlant

Mae gan bawb sydd â phlentyn yr hawl i gael Budd-dal Plant. Mae cymorth ychwanegol ar gael i deuluoedd sydd â gofynion penodol, megis plant ag anghenion arbennig, teuluoedd un rhiant, rhywun sy'n disgwyl babi ac yn y blaen. Cynigir y cymorth hwn gan wahanol rannau o'r Adran Gwaith a Phensiynau, a Chyllid a Thollau EM. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn eich helpu i ddod o hyd i'r adran a all ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Budd-daliadau i bobl anabl a'u gofalwyr

Mae gwahanol fathau o gymorth ar gael gan lywodraeth leol a'r llywodraeth ganol i bobl sy'n sâl, neu sy'n anabl, ac i'r bobl sy'n gofalu amdanynt. Mae'r gefnogaeth yn tueddu i amrywio yn ôl natur y salwch neu'r anabledd: er enghraifft, ai salwch tymor hir ydyw, a oeddech chi'n gweithio pan aethoch chi'n sâl neu'n anabl, ac a yw'r salwch yn golygu bod rhaid aros yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal.

I bwy y dylech ofyn am eich budd-dal

Gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich budd-daliadau.

I ddod o hyd i'ch swyddfa bensiynau leol, defnyddiwch y ddolen isod

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer budd-daliadau â weinyddir gan Gyllid a Thollau EM, megis credydau treth a Budd-dal Plant, gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol.

Hawlio budd-dal o'r newydd neu ail-hawlio

Bellach, gallwch ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith ar rif newydd er mwyn hawlio budd-dal.

Ffôn: 0800 0 55 66 88

Ffôn testun: 0800 0 23 48 88 os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw neu'n cael trafferthion gyda'ch lleferydd.

Mae galwadau am ddim o linell gyffredin. Efallai y codir tâl wrth wneud galwad o ffôn symudol, ond bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trefnu i'ch ffonio'n ôl os gofynnwch iddynt wneud hynny.

Mae'r llinellau ffôn ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd yr alwad yn cymryd oddeutu 40 munud. Dylech wneud yr alwad:

  • o'ch cartref, os yw hynny'n bosib; neu
  • o rywle lle rydych chi'n gyfforddus a lle na all pobl eraill glywed eich manylion personol

Byddwch yn siarad â gweithiwr a fydd yn eich arwain drwy'r camau wrth wneud hawliad o'r newydd, neu wrth adnewyddu manylion hawliad a gafodd ei gau yn ddiweddar. Yn ystod yr alwad bydd gofyn i chi gyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich rhent neu'ch morgais
  • manylion ynghylch eich cyflogaeth, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol
  • manylion unrhyw incwm arall a chynilion

Gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth hon wrth law gennych pan fyddwch chi'n ffonio, os gwelwch yn dda.

Bydd y gweithiwr yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf i'ch hawliad. Er enghraifft, efallai y byddan nhw'n trefnu apwyntiad i chi weld ymgynghorydd yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol er mwyn eich helpu i chwilio am waith. Gallant hefyd ddweud wrthych pwy y dylech gysylltu â nhw os oes gennych chi gwestiwn ynghylch eich budd-dal.

Dim ond gan y person sy'n gwneud y cais y gall y Ganolfan Byd Gwaith dderbyn galwadau, oni bai eich bod wedi gwneud trefniadau o flaen llaw i rywun weithredu ar eich rhan.

Ei wneud ar y we

Gallwch hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd ar-lein.

Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein.

Os ydych chi'n hawlio Lwfans Mamolaeth, Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, Budd-daliadau Profedigaeth, neu Lwfans Gofalwr, nid oes angen i chi gyfarfod ag ymgynghorydd personol oni bai eich bod yn dymuno, neu eich bod am hawlio budd-daliadau eraill drwy'r Ganolfan Byd Gwaith.

Ar gyfer y budd-daliadau canlynol, nid oes angen i chi gyfarfod ag ymgynghorydd personol oni bai eich bod yn dymuno neu eich bod yn hawlio budd-daliadau eraill drwy’r Ganolfan Byd Gwaith:

  • budd-daliadau profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Mamolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU