Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein

Gwnewch gais ar-lein am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), y prif fudd-dal ar gyfer pobl sydd o oedran gweithio. Os byddwch yn gymwys, caiff ei dalu tra rydych yn chwilio am waith. Darllenwch yr holl wybodaeth ar y dudalen hon am fod yn gymwys cyn gwneud cais.

Dechrau cais am Lwfans Ceisio Gwaith

I wneud cais ar-lein mae’n rhaid i chi fod:

  • yn 18 oed neu drosodd ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • ym Mhrydain Fawr
  • ar gael am, yn alluog i ac wrthi yn chwilio am waith
  • yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd

Os yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y bydd gennych hawl i gael Lwfans Ceisio Gwaith.

Os ydych yn fyfyriwr mewn addysg uwch

Fel arfer ni all myfyrwyr llawn amser mewn addysg uwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn ystod gwyliau’r haf. Dilynwch y cyswllt isod i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Ni allwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith trwy Cross & Stitch os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon. Am fanylion ar sut i wneud cais, ewch i wefan nidirect

Dychwelyd i gais ar-lein am Lwfans Ceisio Gwaith sydd wedi cael ei arbed

Os ydych wedi dechrau cais ar-lein, ond heb ei anfon eto, byddwch angen eich ID ar-lein a chyfrinair i ddychwelyd iddo.

Cael cyngor ar fudd-daliadau

Os na allwch gael Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais am fudd-daliadau eraill. Gallwch ddefnyddio’r cynghorydd budd-daliadau, gwasanaeth ar-lein i’ch helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech eu cael.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU