Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall myfyrwyr rhan-amser ar incwm isel a grwpiau penodol o fyfyrwyr amser llawn fod yn gymwys i gael budd-daliadau. Mae’r rhain yn cynnwys Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. Yma cewch wybod beth y gallech ei gael.
Mae budd-daliadau i fyfyrwyr yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol megis eich incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych. Efallai na fyddwch yn gallu cael budd-daliadau os yw’r incwm a gewch chi drwy gyllid myfyrwyr yn rhy uchel.
Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau ar sail incwm ac yn dymuno dechrau ar gwrs addysg uwch, dylech ofyn i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu adran Budd-dal Tai eich awdurdod lleol sut y bydd hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau.
Os ydych yn y brifysgol neu goleg yn barod, bydd cynghorwr myfyriwr yn gallu eich helpu i weithio allan os ydych yn gymwys am unrhyw fudd-daliadau.
Nad yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn yn gallu hawlio budd-daliadau ar sail incwm, efallai y gallwch hawlio dan yr amgylchiadau canlynol:
Os oes gennych bartner nad yw'n fyfyriwr, ond yn gymwys i gael unrhyw un o'r budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, caiff eich partner wneud cais ar ran y ddau ohonoch.
Gall myfyrwyr rhan-amser wneud cais am fudd-daliadau ar sail incwm os ydynt ar incwm isel ac yn bodloni'r amodau perthnasol.
Dyma rai o'r budd-daliadau ar sail incwm y gallech eu hawlio:
I gael gwybod mwy, dilynwch y dolenni isod.
Wrth i chi gyfrifo a ydych chi'n gymwys i gael budd-daliadau ar sail incwm a chithau'n fyfyriwr, bydd rhai mathau o gyllid myfyrwyr yn cyfri fel incwm.
Os ydych chi’n astudio amser llawn, mae'n bosibl i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith dros wyliau'r haf os yw yn o’r canlynol yn berthnasol:
Mae hefyd angen i chi fod ar gael ac wrthi'n chwilio am waith
Efallai y gallwch hefyd hawlio os ydych chi'n aros i fynd yn ôl ar gwrs, a chithau wedi cael seibiant y cytunwyd arno am gyfnod hyd at un flwyddyn oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofalu sydd erbyn hyn wedi dod i ben.
Os ydych chi’n astudio rhan-amser, mae'n bosibl i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os ydych chi:
Fel arfer, mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn. Bydd yn rhaid i chi fod yn fodlon mynd am gyfweliad am swydd, hyd yn oed os bydd hyn yn golygu cymryd amser o'ch cwrs. Dylech fod yn barod hefyd i aildrefnu'ch oriau astudio i gyd-fynd â'ch swydd.
Ffynonellau o gymorth i bobl sydd â salwch neu anabledd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio yw’r Budd-dâl Analluogrwydd a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os ydych yn hawlio un o’r budd-daliadau hyn eisoes, mae'n bosib i chi barhau i'w dderbyn fel myfyriwr.
Gweler ‘Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr anabl’ i gael mwy o wybodaeth. Gallwch hefyd gael cyngor gan Swyddog Anabledd neu Swyddog Gwasanaethau Myfyrwyr eich coleg neu'ch prifysgol.
Os ydych yn gweithio ac yn naill ai’n fyfyriwr amser llawn neu ran-amser, mae’n bosib y gallech hawlio Credyd Treth Gwaith.
Os ydych yn derbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith, ni fyddwch yn gallu hawlio’r Grant Gofal plant hefyd.
Mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Credyd Treth Plant os ydych chi'n fyfyriwr ac yn gyfrifol am blentyn. Gellir cael cyfraddau uwch os:
Mae'n bosibl y caiff myfyrwyr amser llawn eu heithrio rhag talu'r Dreth Cyngor, neu gallant fod yn gymwys i gael gostyngiad yn eu bil Treth Cyngor. Holwch eich awdurdod lleol sut i hawlio, yna gofynnwch i'ch coleg neu'ch prifysgol gyflwyno tystiolaeth o'ch statws myfyriwr amser llawn.
Gallwch gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael drwy gyllid myfyrwyr - gan gynnwys grantiau, benthyciadau myfyrwyr a bwrsarïau - drwy ddilyn y ddolen isod sy'n berthnasol i chi.