Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-dal Treth Cyngor

Os ydych chi ar incwm isel, p'un a ydych yn gweithio ai peidio, a bod angen help ariannol i dalu eich bil Treth Cyngor, mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Treth Cyngor. Dewch i gael gwybod mwy, gan gynnwys pwy sy'n gymwys a gwybodaeth am yr Ad-daliad Ail Oedolyn.

Pwy sy'n gymwys?

I gael amcangyfrif o’r budd-daliadau y gallech ei gael (p'un a ydych yn gweithio ai peidio), gan gynnwys Budd-dal Treth Cyngor, defnyddiwch y cynghorydd budd-daliadau ar-lein.

Budd-dal Treth Cyngor

Efallai y cewch Fudd-dal Treth Cyngor os ydych chi'n talu Treth Cyngor a bod eich incwm a'ch cyfalaf (eich cynilion a'ch buddsoddiadau) o dan lefel benodol. Efallai y byddwch yn gymwys p'un a ydych yn rhentu neu'n berchen eich cartref, neu’n byw yn ddi-rent. Gallech fod yn gymwys os ydych yn ddi-waith, neu mewn gwaith ac ynennill cyflog.

Ad-daliad Ail Oedolyn

Efallai y cewch yr Ad-daliad Ail Oedolyn os yw'r canlynol yn wir am y sawl sy'n rhannu eich cartref:

  • nid yw'n bartner nac yn bartner sifil i chi
  • yn 18 oed neu'n hŷn
  • nid yw'n talu rhent i chi
  • nid yw'n talu Treth Cyngor ei hun
  • ar incwm isel

Mae'n bosibl y gallwch chi gael Ad-daliad Ail Oedolyn hyd yn oed os nad ydych chi'n cael Budd-dal Treth Cyngor.

Os yw un o'r ddau hyn yn berthnasol i chi:

  • nid oes gennych hawl i gael Budd-dal Treth Cyngor
  • mae'r hawl sydd gennych i fudd-dal ond yn cyfateb i 25 y cant neu lai o'ch Treth Cyngor

Dylai eich awdurdod lleol edrych i weld a oes gennych hawl i gael Ad-daliad Ail Oedolyn fel mater o drefn.

Pwy nad ydynt yn gymwys?

Os oes gennych gynilion gwerth dros £16,000 fel arfer ni fyddwch yn gallu cael Treth Cyngor, oni bai eich bod yn cael y ‘credyd gwarantedig’ o Gredyd Pensiwn.

Ni fydd eich incwm a'ch cynilion yn effeithio ar yr Ad-daliad Ail Oedolyn. Seilir yr Ad-daliad Ail Oedolyn ar amgylchiadau'r person arall.

Ni chaiff y rhan fwyaf o geiswyr lloches a phobl sy'n derbyn nawdd i fod yn y DU Budd-dal Treth Cyngor.

Sut i weld a ydych yn gymwys

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael budd-dal Treth Cyngor, bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble cewch fwy o wybodaeth.

Newidiadau pwysig i bobl sy'n cael Budd-dal Plant

Nid yw Budd-dal Plant bellach yn cyfrif fel incwm wrth gyfrifo faint o Fudd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor y gallwch ei gael.

Mae hyn yn golygu bod rhai pobl sydd ar hyn o bryd yn cael taliadau budd Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor yn cael mwy o fudd-dal i'w defnyddio i dalu eu rhent a threth cyngor.

Yn ogystal, efallai y bydd rhai teuluoedd sydd ar incwm isel bellach yn cael Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor o ganlyniad i'r newid hwn. Os credwch y gallech fod yn gymwys bellach, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

I weld faint o Fudd-dal Treth Cyngor gewch chi, bydd eich cyngor lleol yn edrych ar y canlynol:

  • yr arian sy'n dod i mewn gennych chi a'ch partner neu'ch partner sifil, gan gynnwys enillion, rhai budd-daliadau a chredydau treth a phethau fel pensiynau galwedigaethol
  • eich cynilion chi a chynilion eich partner neu'ch partner sifil
  • eich amgylchiadau: er enghraifft eich oedran, maint eich teulu a'u hoedrannau, a ydych chi neu unrhyw un yn eich teulu'n anabl, ac a oes rhywun sy'n byw gyda chi a allai helpu gyda'r rhent

Gostyngiad o 100 y cant ar eich bil yw'r swm mwyaf gewch chi o ran Budd-dal Treth Cyngor.

Os oes gennych hawl i gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu'r 'credyd gwarantedig' o Gredyd Pensiwn, mae'n bosibl y cewch chi'r swm mwyaf posibl i helpu gyda'ch Treth Cyngor.

Ad-daliad Ail Oedolyn

Rheswm dros ostwng y Dreth Cyngor Canran y gostyngiad
Ad-daliad ail oedolyn sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn 25%

Os yw incwm wythnosol gros yr ail oedolyn yn llai na £180.00

15%

Os yw incwm wythnosol gros yr ail oedolyn rhwng £180.00 a £234.99

7.5%

Os oes gennych hawl i Fudd-dal Treth Cyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn, fe gewch chi ba un bynnag sy'n rhoi'r swm mwyaf i chi.

Sut mae'n cael ei dalu

Tynnir swm y Budd-dal Treth Cyngor a'r Ad-daliad Ail Oedolyn oddi ar eich bil Treth Cyngor.

Fe gewch fil newydd yn dangos faint o Dreth Cyngor mae'n rhaid i chi ei dalu ar ôl tynnu'r gostyngiad hwn.

Yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Ni fydd y Budd-dal Treth Cyngor a'r Ad-daliad Ail Oedolyn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch chi.

Sut i hawlio

Os ydych yn chwilio am waith Gallwch hawlio Budd-dal Treth Cyngor, (gan gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn) a'r Budd-dal Tai gyda'ch cais am unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0800 012 1888.

Os ydych yn siarad Saesneg, ffoniwch 00800 055 6688, neu os na allwch siarad neu glywed yn glir ffoniwch y ffôn testun 0800 023 4888.

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am a 6.00pm (mae’r llinellau fel arfer yn llai prysur cyn 9.00am).

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn anfon manylion eich cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor i'ch cyngor lleol.

Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor (gan gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn) gyda'ch cais am Gredyd Pensiwn.

Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 012 1888, neu os na allwch siarad neu glywed yn glir ffoniwch y ffôn testun 0800 023 4888.

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm.

Os ydych yn siarad Saesneg, ffoniwch 0800 991 234 (ffôn testun 0800 169 0133). Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am a 6.00pm, a dydd Sadwrn rhwng 9.00am a 1.00pm.

Bydd ymgynghorydd yn eich helpu i wneud cais am y budd-daliadau a rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd nesaf.

Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon manylion am eich cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor i'ch cyngor lleol.

Os nad ydych chi'n hawlio budd-daliadau eraill

Os nad ydych chi'n hawlio Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch gael ffurflen gan eich cyngor lleol i hawlio Budd-dal Treth Cyngor, Ad-daliad Ail Oedolyn a Budd-dal Tai.

Lawrlwytho ffurflen gais

Gallwch lawrwlytho’r ffurflen gais ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Hawlio ymlaen llaw

Cewch hawlio hyd at 13 wythnos (17 wythnos os ydych chi'n 60 neu'n hŷn) cyn i chi fod â'r hawl i gael Budd-dal Treth Cyngor. Felly os ydych yn gwybod eich bod am symud i gyfeiriad newydd cyn bo hir, gallwch hawlio Budd-dal Treth Cyngor cyn i chi symud. Fel arfer, ni chewch arian cyn i chi symud i mewn.

Hawlio am gyfnod sydd wedi mynd heibio

Mae'n bosibl y bydd modd i chi hawlio Treth Cyngor sydd wedi mynd heibio os oes rheswm dilys pam nad oeddech yn gallu ei hawlio'n gynt.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Rhaid i chi roi gwybod i'ch cyngor lleol, er enghraifft:

  • os bydd unrhyw rai o'ch plant yn gadael yr ysgol neu'n gadael cartref
  • os bydd unrhyw un yn symud i'ch cartref neu allan ohono
  • os bydd eich incwm, neu incwm unrhyw un sy'n byw gyda chi, yn newid
  • os bydd eich cyfalaf neu'ch cynilion yn newid
  • os bydd eich rhent yn newid
  • os byddwch yn symud
  • os ydych chi neu'ch partner neu bartner sifil yn bwriadu bod oddi cartref am fwy na mis
  • os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn mynd i’r ysbyty
  • os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn dechrau gweithio, hyd yn oed os mai gwaith gwirfoddol ydyw
  • os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn mynd i gartref gofal

Nid yw'r rhestr hon yn un gyflawn. Mae gennych gyfrifoldeb i roi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau. Gall methu â gwneud hyn arwain at erlyniad twyll neu golli eich budd-dal.

Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod rhagor.

Cael Budd-dal Treth Cyngor mewn gwaith

Gallwch gael Budd-dal Treth Cyngor pan fyddwch yn cael swydd ac yn ennill cyflog. Efallai y byddwch hefyd yn cael budd-daliadau eraill a chefnogaeth i'ch helpu i aros mewn gwaith.

Gweler 'Budd-daliadau a chymorth wrth ddychwelyd i waith' i gael gwybod mwy.

Sut i apelio

Os gwrthodir rhoi Budd-dal Treth Cyngor i chi neu os nad ydych chi'n hapus gyda phenderfyniad eich cyngor, gallwch ofyn iddyn nhw ailystyried. Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael mwy o wybodaeth.

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.

Gostyngiad ar Dreth Cyngor i bobl anabl

Efallai y cewch ostyngiad ar Dreth Cyngor os ydych yn anabl neu os oes person anabl yn byw gyda chi.

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau ar-lein drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Peidiwch â chael eich cnoi...

Ydych chi wedi cael eich cysylltu gan siarc benthyg? Gallwch riportio benthycwyr didrwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU