Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Dreth Cyngor yn helpu i dalu am wasanaethau lleol megis yr heddlu a'r gwasanaeth casglu sbwriel. Efallai y cewch ostyngiad ar y Dreth Cyngor os ydych yn anabl neu os oes person anabl yn byw gyda chi.
Nod y cynllun gostwng band ar anabledd yw sicrhau nad yw pobl anabl sy'n gorfod byw mewn tŷ mawr oherwydd eu hanabledd, yn gorfod talu mwy o Dreth Cyngor.
Os oes gennych anabledd, nid yw hyn yn golygu bod gennych yr hawl i ostyngiad fel mater o drefn.
Yn gryno, yr amodau ar gyfer gostyngiad yw bod yn rhaid i'r adeilad fod yn brif gartref i o leiaf un person anabl gydag o leiaf un:
Mae'n rhaid hefyd i'r ystafell neu'r gadair olwyn fod yn hanfodol neu yn bwysig iawn i les y person anabl, o ganlyniad i natur a lefel eu hanabledd.
Yn y cyd-destun hwn, 'person anabl' yw rhywun sy'n anabl yn barhaol a chydag anabledd sylweddol. Gall y person anabl fod yn oedolyn neu'n blentyn ac nid oes rhaid iddo fod y person sy'n gyfrifol am dalu'r Dreth Cyngor.
Nid oes rhaid i'r ystafell ychwanegol fod wedi'i hadeiladu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys am ostyngiad os nad yw'n cwrdd â gofynion y prawf 'hanfodol neu pwysig iawn' uchod. Nid yw ad-drefnu ystafelloedd (er enghraifft, gosod ystafell wely ar y llawr gwaelod yn hytrach nag ar y llawr cyntaf) yn debygol o wneud eich cartref yn gymwys am ostyngiad.
Os yw eich cartref yn gymwys, bydd eich bil Treth Cyngor yn cael ei leihau i'r band nesaf. Er enghraifft, bydd eiddo Band D yn talu cyfradd Band C. Byddwch yn dal i dderbyn gostyngiad hyd yn oed os yw eich eiddo ym Mand A (y band isaf). Mewn termau arian, bydd yr un fath â'r gostyngiadau ar gartrefi ym Mand B, C neu D.
At ddibenion y Dreth Cyngor, mae gan berson nam meddyliol difrifol os oes ganddynt nam difrifol ar eu deallusrwydd neu ar eu galluoedd cymdeithasol sy'n debygol o fod yn barhaol. Er mwyn bod yn gymwys am ostyngiad yn y Dreth Cyngor, bydd y person angen tystysgrif meddyg yn nodi bod ganddynt nam meddyliol difrifol a'u bod yn gymwys am un o'r budd-daliadau isod:
Os yw person dros yr oed Pensiwn Gwladol, a phe byddai wedi bod yn gymwys am un o'r budd-daliadau uchod petai o dan yr oed Pensiwn Gwladol, efallai y byddai'n gymwys am ostyngiad.
Ni chyfrifir pobl sydd â nam meddyliol difrifol wrth gyfri'r nifer o bobl sy'n byw yn yr eiddo. Er enghraifft, pe bai gwr a gwraig yn byw gyda'i gilydd a bod un â nam meddyliol difrifol, caent ddisgownt o 25%, yr un disgownt ag y byddai oedolyn yn byw ar ei ben ei hun yn ei gael. Ni thelir treth ar eiddo os mai dim ond pobl sydd â nam meddyliol difrifol sy'n byw yno.
Mewn rhai amgylchiadau, os ydych yn derbyn gofal gan eich cymar neu eich partner, ni chyfrifir gofalwr preswyl wrth gyfri'r nifer o bobl sy'n byw yn y tŷ. Ond, os mai dim ond chi a'ch gofalwr sy'n byw yn eich cartref, efallai y byddwch yn gymwys am ddisgownt person sengl o 25%.
Pobl sydd mewn ysbyty neu mewn cartref gofal
Ni thelir y Dreth Cyngor ar eiddo sydd wedi'u gadael yn wag gan bobl sydd wedi symud i gael gofal personol, naill ai mewn ysbyty, mewn cartref gofal neu yn rhywle arall, os mai dyma eu hunig gartref bellach. Yn gyffredinol, nid oes rhaid i breswylwyr cartref gofal na rhai sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser mewn ysbyty, dalu Treth Gyngor.
Mae rhagor o fanylion am y trefniadau hyn i'w gweld yn y daflen 'Treth Cyngor - arweiniad i'ch bil ' sydd ar gael ar wefan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.