Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai fod gennych hawl i gael disg treth am ddim os ydych chi'n berson anabl sy'n derbyn y gyfradd uwch o elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, Ategiad Symudedd Pensiwn Rhyfel, neu'n defnyddio cerbyd pobl anabl.
I hawlio eithriad rhag treth cerbyd, rhaid i'r cerbyd fod wedi'i gofrestru yn eich enw chi neu yn enw rhywun yr ydych yn ei enwebu i yrru drostoch (enwebai).
Dim ond at eich dibenion chi y ceir defnyddio'r cerbyd, er enghraifft, i siopa neu i nôl presgripsiynau.
Os caiff ei ddefnyddio gan yr enwebai neu rywun arall at eu hanghenion personol eu hunain, bydd yn colli'r hawl i gael ei eithrio a bydd rhaid talu cyfradd arferol treth cerbydau.
Cyn i chi gael disg dreth am ddim, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif eithrio gan yr asiantaeth sy'n rhoi eich budd-dal i chi. Bydd y dystysgrif eithrio'n dangos eich enw ac enw'r enwebai os ydych chi wedi enwebu rhywun i yrru drosoch chi.
Does dim rhaid i rai cerbydau gael tystysgrif eithrio er mwyn trethu - gweler 'cerbydau anabl' a 'cerbydau Motability a logir dan gontract' isod.
Cysylltwch â'r Uned Lwfans Byw i'r Anabl a gofyn am dystysgrif eithrio DLA 404.
Uned Lwfans Byw i'r Anabl, Warbreck House, Warbreck Hill, Blackpool FY2 0YE
Ffôn: 0845 712 3456
Ffôn testun: 0845 722 4433
Cysylltwch â'r Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr a gofyn am dystysgrif eithrio WPA 442.
Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr, Norcross, Thornton-Cleveleys, Lancashire FY5 3GZ
Ffôn: 0800 169 2277
Ffôn testun: 0800 169 3458
Cewch eich disg treth am ddim yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy'n rhoi disgiau treth. Gallwch ei adnewyddu bob blwyddyn ar-lein, dros y ffôn, yn bersonol neu drwy'r post.
Os ydych chi yn yr ysbyty am fwy na 28 diwrnod - neu 84 diwrnod os ydych chi'n hawlio eithriad ar gyfer plentyn - bydd yr eithriad rhag treth cerbyd yn dal i fod yn berthnasol, cyn belled â bod y cerbyd yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer eich anghenion uniongyrchol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch yn colli eich hawl i gael Lwfans Byw i'r Anabl fel canlyniad o’ch cyfnod yn yr ysbyty.
Os ydych chi'n gwerthu'r cerbyd neu os daw eich hawl i ben, dylech ddychwelyd y ddisg dreth anabl i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Abertawe SA99 1AL neu i'ch swyddfa DVLA leol agosaf.
Os nad ydych chi'n gymwys bellach i gael eich eithrio rhag talu treth cerbyd, rhaid i chi drethu eich car yn y dosbarth treth priodol a thalu'r gyfradd dreth cerbyd gywir.
Does dim rhaid chi gael tystysgrif eithrio er mwyn cael disg treth am ddim ar gyfer cerbyd i'r anabl. Rhaid i'r cerbyd fod wedi'i gofrestru yn eich enw chi, yn pwyso llai na 509kg ac wedi'i addasu, yn cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar y ffordd ar gyfer person anabl.
Does dim rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru nac arddangos disg treth os yw'r cerbyd yn pwyso llai na 113.4kg, os yw'r cerbyd i'w ddefnyddio ar lwybrau troed yn unig ac os na all fynd yn gynt na 4 milltir yr awr.
Gallwch lwytho taflen INF210 'Sut i gofrestru cerbyd newydd dosbarth tri i'r anabl', neu daflen INF211 'Sut i gofrestru cerbyd ail-law dosbarth tri i'r anabl', oddi ar y we.
Does dim angen tystysgrif eithrio ar gerbydau Motability a logir dan gontract. Bydd Motability yn trefnu i drethu eich cerbyd bob blwyddyn ac yn anfon disg treth atoch yn uniongyrchol.
Gan mai Motability sy'n cofrestru'r cerbyd ac yn cadw'r Dystysgrif Cofrestru am gyfnod eich contract, mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth Motability am unrhyw newid i'ch cyfeiriad neu'ch amgylchiadau er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich disg treth mewn pryd.