Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid yw'r ffaith fod gennych gyflwr meddygol penodol neu anabledd o anghenraid yn golygu na allwch chi neu na chewch chi yrru. Does dim ots os mai gyrrwr newydd ynteu yrrwr profiadol ydych chi, rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr meddygol neu anabledd pe gallai hynny effeithio ar eich gyrru.
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA os ydych chi wedi dioddef neu'n dioddef ar hyn o bryd o gyflwr meddygol neu nam a allai amharu ar eich gyrru.
Os oes gennych chi drwydded yrru gyfredol a bod gennych chi gyflwr meddygol neu anabledd sydd ar y rhestr isod, rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA ar unwaith. Ni ddylech chi ddisgwyl tan ei bod yn bryd adnewyddu eich trwydded.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod i'r DVLA am gyflwr meddygol neu anabledd sydd wedi gwaethygu ers i chi gael eich trwydded, neu os bydd cyflwr meddygol neu anabledd newydd yn datblygu.
Weithiau, y peth gorau i'w wneud yw ildio eich trwydded, a gwneud cais am ei chael yn ôl yn nes ymlaen.
Mae cyflyrau meddygol ac anableddau y dylid rhoi gwybod amdanynt yn cynnwys epilepsi, strôc a chyflyrau niwrolegol eraill, problemau iechyd meddwl, anableddau corfforol a nam ar y golwg. Ceir gwybodaeth ynghylch sut mae hysbysu'r DVLA yn adran moduro cyffredinol Cross & Stitch.
Bydd yr elusen ymchwil Ricability yn cyhoeddi llyfrynnau sydd wedi'u hanelu at fodurwyr ag anghenion neilltuol, gan gynnwys moduro ar ôl colli aelod o'r corff, er enghraifft braich neu goes, ar ôl cael anaf ar yr ymennydd neu gael strôc, a moduro ag arthritis, parlys yr ymennydd, sglerosis ymledol neu dwf cyfyngedig.
Cyn y cewch ddysgu gyrru car, moped neu feic modur, rhaid i chi wneud cais am drwydded yrru dros dro. Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd y mae'n rhaid hysbysu'r DVLA amdanynt, rhaid i chi ddatgan hynny ar y ffurflen gais.
Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru dros dro o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Gallai gymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd a'ch manylion personol.
Ceir llawer o wybodaeth gyffredinol am foduro ar Cross & Stitch, gan gynnwys bod yn berchen ar gerbyd, diogelwch ar y ffordd a throseddau yn ogystal â rhifau personol ac MOT.