Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall prynu ac addasu car fod yn ddrud. Mae'r Cynllun Motability - a redir gan y mudiad annibynnol di-elw Motability - yn rhoi cyfle i bobl anabl brynu neu brydlesu car am bris fforddiadwy.
Gall y Cynllun Motability eich helpu gyda phrydlesu neu brynu car os ydych yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel neu gyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl. Hyd yn oed os nad ydych yn gyrru eich hun, gallwch wneud cais am gar fel ymdeithiwr a chynnig dau berson arall fel eich gyrrwr.
Gallwch hefyd gwneud cais am gar ar ran plentyn sydd yn dair oed neu drosodd, sydd â hawl i'r elfen symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl.
Trwy'r cynllun llogi dan gytundeb, gallwch brydlesu car newydd a gyflenwir gan un o werthwyr Achrededig Motability am o leiaf dair blynedd. Mae yswiriant, gwasanaethu arferol a chymorth os bydd y cerbyd yn torri i lawr yn cael eu cynnwys. Mae’n bosib bydd angen i chi dalu am osod neu dynnu unrhyw addasiadau.
Gallwch wneud cais os oes gennych 12 mis neu fwy o'ch 'dyfarniad' Lwfans Byw i'r Anabl yn weddill. Os na fydd eich dyfarniad yn cael ei adnewyddu yn ystod cyfnod llawn y cynllun yr ydych wedi'i ddewis, bydd rhaid i chi ddychwelyd y car. Ar ddiwedd y cyfnod, dychwelir y car i Motability Operations sy'n rhedeg y cynlluniau car dan gytundeb i Motability.
Gyda hur bwrcas gallwch brynu'r car o'ch dewis. Gall fod yn gar newydd neu'n hen gar. Chi sy'n gyfrifol am drafod pris y car gyda'r gwerthwr a threfnu yswiriant. Ar ddiwedd y cytundeb hur bwrcas - a all fod rhwng tair a phum mlynedd - chi fydd biau'r car.
Mae Motability hefyd yn cynnig cynlluniau hur bwrcas ar gyfer sgwteri neu gadeiriau olwyn gyda motor.
Os yw arian yn broblem wrth ariannu'r car neu'r addasiadau, efallai y bydd Motability yn gallu rhoi grant trwy ei gronfa elusennol ei hun neu'r Cronfeydd Cerbydau Arbenigol, a weinyddir ganddo ar ran y llywodraeth.
Does dim rhaid i bobl anabl dalu TAW ar gost llogi car drwy'r Cynllun Motability. Does dim rhaid talu TAW ychwaith ar gost unrhyw waith i addasu cerbyd ar gyfer person anabl.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Motability, cysylltwch â Motability ar y rhifau isod, neu ewch ar eu gwefan.
Ffôn: 0845 4564 566
Minicom: 0845 675 0009