Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dysgu gyrru

Fel arfer, yr oedran ieuengaf ar gyfer gyrru ceir yw 17, ond os ydych yn derbyn cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, gallwch yrru yn 16 oed.

Gwersi gyrru a hyfforddwyr gyrru arbenigol

Dylai pob gyrrwr newydd gael gwersi gyrru proffesiynol ac efallai y bydd gyrwyr anabl yn dymuno chwilio am hyfforddwyr gyda gwybodaeth arbenigol am eu hanghenion.

Chwiliwch am hyfforddwyr sydd wedi gwneud cwrs arbennig - yn aml yng Nghanolfan Symudedd Banstead neu'r Labordy Ymchwil i Drafnidiaeth.

Gall hyfforddwyr profiadol ddysgu mwy na dim ond gyrru i chi, yn cynnwys:

  • sut i fynd i mewn ac allan o'r car yn haws
  • sut i gael eich cadair olwyn i mewn ac allan o'r car (os yw hynny'n berthnasol)
  • sut i ddefnyddio unrhyw offer rheoli sydd wedi'u haddasu

Mae mwy a mwy o ysgolion gyrru a hyfforddwyr yn gosod offer rheoli â llaw syml ar un neu fwy o'u ceir ac yn cynnig hyfforddiant arbenigol.

Os ydych chi rhwng 16 a 24 oed, mae'n bosib y gall Motability gynnig cymorth ariannol ichi tuag at gostau eich gwersi gyrru.

Sefyll eich profion gyrru

Dylech drefnu eich prawf theori pan fydd gennych wybodaeth drylwyr am Reolau'r Ffordd Fawr a phan fyddwch yn gallu adnabod peryglon yn ymarferol. Peidiwch â threfnu eich prawf ymarferol nes byddwch yn gallu gyrru'n ddigymell.

Rhaid i chi basio'r prawf theori cyn y gallwch archebu'r prawf ymarferol. Os na fyddwch yn pasio prawf ymarferol o fewn dwy flynedd i gymryd y prawf theori, bydd angen i chi wneud y prawf theori eto.

Y prawf theori

Mae dwy ran i'r prawf theori, adran amlddewis o 50 cwestiwn ac adran sgiliau rhagweld peryglon. Mae’n rhaid i chi basio dwy ran y prawf theori ar yr un adeg er mwyn cael eich tystysgrif pasio ar gyfer y prawf theori.

Fel arfer, cynhelir profion theori mewn canolfannau prawf y gall defnyddwyr cadair olwyn eu defnyddio ac maent yn cynnig cyfleusterau arbenigol ar gyfer pobl anabl. Ond, gellir gwneud trefniadau i chi sefyll y prawf gartref neu mewn canolfan wahanol os nad yw eich canolfan leol yn hwylus i chi.

Mae system y prawf theori wedi'i chynllunio i fod yn hwylus i bawb ac mae ar gael ar lafar ac yn ysgrifenedig. Gall ymgeiswyr sy'n drwm eu clyw wylio fideo o'r prawf yn Iaith Arwyddion Prydain. Gellir addasu amodau'r prawf hefyd os oes gennych epilepsi sensitif-i-olau. Gallwch ofyn am amser ychwanegol ar gyfer elfen amlddewis y prawf theori, ond bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth atodol cyn y gellir cytuno ar hyn.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw ofynion arbennig sydd gennych pan fyddwch yn trefnu'ch prawf gyda'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA).

Rhowch wybod i'r Asiantaeth Safonau Gyrru:

  • os oes angen mynediad i gadair olwyn
  • os ydych chi'n fyddar neu os oes gennych broblemau eraill gyda'ch clyw
  • os ydych yn ddyslecsig neu ag anawsterau darllen
  • os nad ydych yn darllen nac yn deall Saesneg

Y prawf ymarferol

Bydd rhaid i chi sefyll yr un prawf gyrru â phob ymgeisydd arall, waeth beth yw eich nam neu'ch cyflwr.

Pan fyddwch yn trefnu'ch prawf, rhowch wybod i'r Asiantaeth Safonau Gyrru:

  • os ydych chi'n fyddar neu os oes gennych nam difrifol ar eich clyw
  • os nad ydych chi'n gallu symud o gwmpas yn rhwydd
  • os oes gennych chi unrhyw anabledd corfforol

Efallai y bydd gyrwyr anabl yn cael amser ychwanegol i wneud eu prawf. Gwneir hyn er mwyn i chi allu esbonio natur a phwrpas unrhyw addasiadau yr ydych yn eu defnyddio, a rhoi amser ychwanegol i chi fynd i mewn ac allan o'r car.

Mae'r arholwyr wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddeall unrhyw anghenion arbennig a allai godi yn sgil anableddau.

Sut i drefnu eich prawf theori neu eich prawf ymarferol

Gallwch drefnu eich prawf theori neu'ch prawf gyrru ymarferol ar-lein neu dros y ffôn. Mae'r llinellau ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 8.00 am a 6.00 pm ar wahân i Wyliau Banc.

Llinell drefnu prawf theori a phrawf ymarferol - 0300 200 1122
Llinell drefnu prawf theori minicom - 0300 200 1166
Llinell drefnu prawf ymarferol minicom - 0300 200 1144

Allweddumynediad llywodraeth y DU