Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bosib cael addasu'ch cerbyd er mwyn i chi allu gyrru'n ddiogel ac yn gyfforddus ac er mwyn ei gwneud yn haws i chi fynd i mewn ac allan o'r car. Mae ategolion moduro ar gael i bobl sydd ag anableddau ar ran uchaf neu ran isaf eu corff, neu ar y rhan uchaf ac isaf
Mae'r ategolion hyn yn cynnwys:
Mae'r elusen ymchwil, Ricability, wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau sy'n edrych yn fanwl ar y gwahanol fathau o addasiadau sydd ar gael i'ch helpu i yrru os oes gennych anabledd, gan gynnwys offer rheoli car, teclynnau codi pobl ac addasiadau er mwyn cael cadair olwyn i mewn i gar.
Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys manylion cyflenwyr sy'n gwneud addasiadau.
I gael asesiad annibynnol o'r addasiadau y byddai eu hangen i ddiwallu'ch anghenion chi, cysylltwch â Fforwm y Canolfannau Symudedd.
I gael gwybodaeth am gymorth ar gyfer ariannu eich addasiadau, cysylltwch â Motability.
Os ydych wedi colli'r defnydd o un fraich neu os yw eich braich wedi gwanio, gallwch ystyried yr addasiadau canlynol:
Os oes gennych aelod artiffisial wedi'i osod o dan y benelin, gallwch yrru car gan ddefnyddio cysylltiad ceugrwm arbennig ar gyfer yr aelod a osodir dros y llyw neu'r ffon newid gêr.
Hyd yn oed os ydych wedi colli'r defnydd o'r ddwy fraich, gallwch barhau i yrru drwy addasu offer rheoli'r car. Gallech hefyd roi cynnig ar system lywio gyda'r droed.
Os ydych wedi colli'r defnydd o un o'ch coesau neu os nad ydych yn gallu defnyddio un goes gystal, gallwch ystyried gwneud yr addasiadau canlynol:
Os ydych wedi colli'r defnydd o'r ddwy goes, gallwch ystyried addasiadau megis:
Os byddwch yn addasu'ch cerbyd, neu os byddwch yn llogi neu'n prynu cerbyd wedi'i addasu, mae'n bwysig cael cyngor a hyfforddiant da ar ddefnyddio'r cerbyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer addasiadau megis gosod sbardun ar gyfer y droed chwith.
Mae ategolion ac addasiadau ar gael a all ei gwneud yn haws i chi fynd i mewn ac allan o'ch cerbyd. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig os ydych yn defnyddio cadair olwyn.
Efallai y bydd modd i chi fynd i mewn i'ch car o ochr y gyrrwr, ochr y teithiwr neu o'r cefn . Bydd yr addasiadau y bydd eu hangen ar gyfer eich cerbyd yn dibynnu ar y ffordd y dewiswch fynd i mewn iddo.
Ar gyfer ochr y gyrrwr neu ochr y teithiwr, bydd angen drysau llydan a byddai cymorth llithro a swiflo yn fanteisiol hefyd.
Mae arbenigwyr ar addasu cerbydau'n cynhyrchu cerbydau sy'n hwylus i gadeiriau olwyn.
Gall fod yn anodd trosglwyddo o gadair olwyn i gar. Gallwch ddefnyddio bwrdd, beltiau codi neu godwyr coesau. Hefyd, mae 'na hoistiau, lifftiau i'ch codi chi a'ch cadair i mewn i'r car a cheir neu faniau wedi'u haddasu'n arbennig fel y gallwch lywio'ch cadair olwyn i mewn iddynt.
Gall palmant isel ei gwneud yn haws i chi fynd o'ch car i'ch tŷ, os ydych yn gorfod parcio ar y ffordd. Bydd y gwasanaeth canlynol yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael gwybod sut i wneud cais am gael gosod palmant isel y tu allan i'ch cartref.
Nodir os gwelwch yn dda bod y gwasanaeth hwn ond ar gael i gynghorau yn Lloegr.