Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gostyngiad TAW ar gynhyrchion a gwasanaethau i bobl anabl

Treth yw TAW a dalwch fel defnyddiwr pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Yn y DU, 17.5 y cant yw'r gyfradd safonol ar gyfer TAW.

Am ostyngiad TAW i bobl anabl

Does dim rhaid i bobl anabl dalu TAW pan fyddant yn prynu cyfarpar sydd wedi'i ddylunio'n arbennig i bobl anabl, nac i addasu cyfarpar fel y gallant ei ddefnyddio.

Hefyd, ni chodir TAW ar rai gwasanaethau penodol a ddarperir i bobl anabl, gan gynnwys peth gwaith adeiladu i addasu cartref person anabl a llogi cyfarpar anabledd megis cadeiriau olwyn.

Yn aml, os nad oes rhaid i chi dalu TAW ar nwyddau a gwasanaethau, cânt eu galw'n 'gyfradd sero' neu'n 'gymwys ar gyfer gostyngiad TAW'.

Mae'r rheolau ynghylch gostyngiadau TAW i bobl anabl yn gymhleth. Nid yw cyfradd sero TAW yn berthnasol i bopeth a gyflenwir i bobl anabl.

Pwy sy'n gymwys i gael gostyngiadau TAW

Mae cyfraith TAW yn datgan bod rhaid i chi fod yn 'dioddef salwch cronig neu'n anabl' i fod yn gymwys i gael gostyngiadau TAW.

Mae person yn 'dioddef salwch cronig neu'n anabl' naill ai:

  • os oes ganddo/i nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith ddifrifol a thymor hir ar ei (g)allu i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol
  • os oes ganddo/i gyflwr y bydd meddygon yn ei drin fel salwch cronig (megis clefyd siwgr, er enghraifft)
  • os yw'n angheuol wael

Ni fyddai person ag anaf dros dro megis torri coes yn gymwys, na pherson hŷn bregus sydd fel arall yn iach a ddim yn anabl.

Cynhyrchion sy'n gymwys i gael gostyngiad TAW

Rhaid cyflenwi cynnyrch neu wasanaeth at 'ddefnydd personol neu ddomestig' rhywun sy'n dioddef salwch cronig neu'n anabl i fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd sero.

Dyma rai enghreifftiau o gynhyrchion sy'n gymwys i gyfradd sero TAW:

  • cadeiriau olwyn
  • rhai teclynnau meddygol a llawfeddygol - megis aelodau artiffisial, er enghraifft
  • gwelyau y gellir eu haddasu'n drydanol neu'n fecanyddol
  • lifftiau grisiau neu lifftiau cadair
  • meddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol sydd wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer pobl anabl
  • teclynnau a chymhorthion sydd wedi'u cynllunio'n benodol i wneud bywyd beunyddiol yn haws i bobl anabl, megis teclyn tywallt dŵr o degell
  • cerbydau sydd wedi eu haddasu i'w defnyddio gan ddefnyddiwr cadair olwyn neu stretsier anabl

Dyma rai o'r pethau na chânt eu cynnwys:

  • cynhyrchion a gwasanaethau a ddefnyddir at ddibenion busnes
  • cynhyrchion a roddir ar gael i grŵp o bobl eu defnyddio
  • cynhyrchion a gyflenwir i bobl sy'n aros neu'n byw mewn ysbyty neu gartref nyrsio, fel rhan o'u triniaeth feddygol neu lawfeddygol neu gydag unrhyw fath o ofal

Gwasanaethau sy'n gymwys i gael gostyngiad TAW

Mae'r gwasanaethau sy'n gymwys ar gyfer y gyfradd sero yn cynnwys:

  • gwasanaethu, cynnal a chadw a gosod cyfarpar anabledd
  • gwaith addasu cyfarpar neu declynnau fel y gall person anabl eu defnyddio
  • rhai addasiadau adeiladu i gartref person anabl
  • llogi cyfarpar anabledd cymwys

Cerbydau modur

Os ydych chi'n ddefnyddiwr cadair olwyn neu stretsier, ni ddylech chi orfod talu TAW wrth brynu cerbyd modur sydd wedi'i addasu'n sylweddol ac yn barhaol at eich defnydd personol chi. Diffinnir defnyddiwr cadair olwyn fel unrhyw un sy'n gorfod defnyddio cadair olwyn - rhai cyffredin neu rai â batri - er mwyn symud o gwmpas.

Bydd unrhyw waith addasu a wneir ar gerbyd heb ei addasu i'w wneud yn addas ar gyfer cyflwr person anabl, boed y person hwnnw'n ddefnyddiwr cadair olwyn ai peidio, hefyd yn gymwys ar gyfer y gyfradd sero. Fodd bynnag, ni cheir gostyngiad TAW wrth brynu cerbyd heb ei addasu.

Prydlesu cerbyd neu gadair olwyn dan y cynllun Motability

Elusen yw Motability sy'n darparu cerbydau a sgwteri neu gadeiriau olwyn gyda motor i bobl anabl. Does dim rhaid i chi dalu TAW wrth brydlesu cerbyd, cadair olwyn na sgwter dan y cynllun Motability.

Addasiadau i'ch cartref

Mae'r gwaith o gyflawni rhai addasiadau i gartrefi pobl anabl yn gymwys ar gyfer gostyngiad TAW.

Mae'r rheolau ynghylch addasiadau i adeiladau a TAW yn gymhleth. Dylech ofyn bob amser a fydd y gwaith addasu i'ch cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad TAW wrth gyflogi adeiladwr neu fasnachwr arall.

Llogi cyfarpar anabledd

Does dim rhaid i chi dalu TAW wrth logi cyfarpar anabledd cymwys. Mae hyn yn berthnasol i gyfarpar mawr, megis cadeiriau olwyn â batris a hoistiau, a chyfarpar arbenigol i bobl ag anableddau penodol.

Sut mae gostyngiadau TAW yn gweithio

Cyn i chi dalu am unrhyw gynnyrch neu wasanaeth, gwiriwch ei fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd sero a bod y cyflenwr wedi'i gofrestru ar gyfer TAW.

Pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaeth cyfradd sero, efallai y bydd rhaid i chi lofnodi ffurflen i ddatgan bod gennych salwch cronig neu anabledd, a beth ydyw. Rhaid i chi hefyd ddatgan bod y cynnyrch neu'r gwasanaeth at eich 'defnydd personol neu ddomestig' chi. Dylai fod gan y cyflenwr gopïau o'r ffurflen hon.

Yna, gallwch brynu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth am bris nad yw'n cynnwys TAW. Does dim rhaid i chi dalu TAW a'i hawlio'n ôl gan y llywodraeth yn ddiweddarach - caiff ei dynnu o'r pris prynu cyn i chi dalu.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddysgu mwy am ostyngiadau TAW ar gyfer pobl anabl ar wefan Cyllid a Thollau EM. Os na allwch ganfod yr ateb i'ch cwestiynau yno, gallwch ffonio eu Llinell Gymorth Elusennau, sy'n ymdrin â gostyngiadau TAW i bobl anabl.

Ffôn: 0845 302 02 03

Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Additional links

Gweler hefyd...

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU