Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall neu nam difrifol ar eich golwg, gallwch gael gostyngiad o 50 y cant ar gost trwydded deledu. Efallai y bydd gennych hefyd hawl i gael trwydded deledu am bris gostyngol os ydych chi'n byw mewn gofal preswyl neu dai gwarchod.
Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi wedi'u cofrestru'n ddall neu nam difrifol ar eich golwg, gallwch gael gostyngiad o 50 y cant ar gost trwydded deledu. Golyga hyn mai £71.25 fydd cost trwydded teledu lliw teledu lliw, a £24.00 fydd cost trwydded teledu du a gwyn.
Os nad y person sydd wedi'i gofrestru'n ddall yw deiliad cyfredol y drwydded yn eich cyfeiriad chi, bydd angen i chi drosglwyddo'r drwydded i'w henw nhw.
Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Trwyddedau Teledu.
Ffôn: 0844 800 6737
Minicom: 0844 800 6778
I hawlio'r gostyngiad ar drwydded deledu i bobl ddall, bydd angen i chi ddarparu llungopi o'r dystysgrif gan eich awdurdod lleol neu'ch offthalmolegydd sy'n nodi eich bod wedi eich cofrestru'n ddall.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i’r dystysgrif neu ddogfen gael ei chyhoeddi gan neu ar ran yr Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar Ynys Manaw, mae rhaid iddi gael ei chyhoeddi gan neu ar ran yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Postiwch y dystysgrif hon gyda'r rhybudd i adnewyddu'r drwydded - os oes gennych un - a siec neu archeb bost i:
Trwyddedau Teledu
Grŵp Gostyngiad i Bobl Ddall
Bryste BS98 1TL
Cofiwch gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a rhif eich trwydded deledu, os oes gennych un.
Hawlio gostyngiad ar eich trwydded deledu am gyfnod sydd wedi mynd heibio
Os mai newydd gael gwybod am y gostyngiad yr ydych, gellir cael ad-daliadau am flynyddoedd blaenorol wedi'u hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2000. Rhaid i chi allu profi eich bod wedi cael trwydded deledu ac wedi'ch cofrestru'n ddall yn ystod y cyfnod perthnasol.
Cysylltwch â Thrwyddedau Teledu am fwy o wybodaeth.
Adnewyddu eich trwydded deledu gyda gostyngiad
Unwaith i chi brofi eich bod wedi eich cofrestru'n ddall, ni fydd angen i chi wneud hynny eto am bum mlynedd arall. Fodd bynnag, rhaid i chi barhau i adnewyddu eich trwydded bob blwyddyn.
Gallwch adnewyddu eich trwydded ar-lein ar wefan Trwyddedau Teledu.
Os ydych chi'n byw mewn gofal preswyl, mae'n bosib bod gennych hawl i gael trwydded deledu Llety Gofal Preswyl (ARC) am bris gostyngol. Mae’n costio £7.50 y flwyddyn.
Mae'r drwydded hon am bris gostyngol ar gael i bobl sy'n byw mewn mathau penodol o ofal preswyl ac sydd wedi ymddeol, yn 60 oed neu'n hŷn, neu sy'n anabl.
Bydd y rheolwr tai yn gallu dweud wrthych a ydy'ch llety yn gymwys i gael y drwydded hon am bris gostyngol. Byddant hefyd yn gallu gwneud cais am drwydded ar eich rhan. I weld os ydych chi’n gymwys, gallant ffonio’r Tîm Gostyngiad ar Drwyddedu Teledu i Bobl Anabl ar 0844 800 5808.
Dim ond os ydych yn gwylio'r teledu yn eich lle byw eich hun, sydd ar wahân, y bydd angen trwydded deledu arnoch. Cyfrifoldeb rheolwr y tai yw gwneud yn siŵr bod y setiau teledu yn yr ystafelloedd cyffredin wedi'u trwyddedu'n briodol.
Os oes gennych drwydded deledu am flwyddyn lawn a'ch bod yn symud i ofal preswyl, efallai y bydd modd i chi hawlio arian yn ôl am unrhyw fisoedd sydd ar ôl yn y flwyddyn. Dylai eich rheolwr tai wneud cais i Trwyddedau Teledu am ad-daliad ar eich rhan.