Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Offer trydanol: dewisiadau mwy gwyrdd

Defnyddir llawer o ynni i wneud ac i redeg offer trydanol megis cyfrifiaduron, setiau teledu a chonsolau gemau. Pan gânt eu taflu, gall cemegau niweidiol ollwng i’r amgylchedd a gall metelau gwerthfawr gael eu gwastraffu. Gallwch chi helpu drwy brynu cynhyrchion ynni-effeithlon, drwy gadw offer am fwy o amser a thrwy ailgylchu.

Y mater ehangach

Mae rhedeg offer trydanol yn un o'r prif bethau sy'n gyfrifol am ddefnyddio trydan yn y rhan fwyaf o gartrefi, felly mae’n ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd ac at eich biliau. Erbyn 2010, mae eitemau trydanol yn debygol o fod yn defnyddio mwy o ynni na dim arall yng nghartrefi pobl, heblaw am y system wresogi.

Mae’r unigolyn cyffredin yn y DU yn taflu 3.3 tunnell o wastraff trydanol yn ei fywyd. Os na chaiff y gwastraff hwn ei waredu mewn modd gofalus na'i ailgylchu, gall cemegau ollwng i'r amgylchedd a niweidio bywyd gwyllt neu halogi dŵr. Bydd metelau gwerthfawr megis copr, plwm a haearn hefyd yn cael eu gwastraffu.

Lleihau’r ynni a ddefnyddir gan offer trydanol

Gallwch arbed arian a lleihau gollyngiadau CO2 drwy brynu offer trydanol sy’n arbed ynni a gofalu nad ydych yn gwastraffu ynni pan fyddwch yn ei ddefnyddio.

Prynu cynhyrchion ynni-effeithlon

Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu i ddewis offer trydanol sy’n arbed ynni:

  • dewiswch y teclyn lleiaf a fedrwch chi, gan fod teclynnau llai fel arfer yn defnyddio llai o drydan na rhai mawr
  • dewiswch offer cyfrifiadurol sy’n arbed ynni, megis gliniaduron sy'n rhedeg ar tua un chweched o'r ynni a ddefnyddir gan gyfrifiaduron desg
  • holwch eich adwerthwr ynghylch cyfrifiaduron, peiriannau ffacs neu sganwyr a raddiwyd gan Energy Star, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon
  • chwiliwch am y label TCO, sy’n dangos fod cyfarpar Technoleg Gwybodaeth yn defnyddio ynni’n effeithlon ac wedi’i wneud gyda llai o gemegau niweidiol
  • chwiliwch am y label Energy Saving Recommended, neu’r Ecolabel Ewropeaidd, er mwyn dod o hyd i’r teledu digidol integredig (IDTV) sy’n fwyaf ynni-effeithlon

Arbed ynni pan fyddwch yn defnyddio offer

Mae eitemau trydanol a adawyd yn y modd segur (standby) a gan wefrwyr a adawyd ymlaen yn y plwg heb eu cysylltu â theclyn yn defnyddio ynni. Gallwch chi arbed ynni drwy wneud y canlynol:

  • tynnu eich gwefrwyr allan o’r plwg neu eu diffodd yn y soced pan na fyddwch yn eu defnyddio
  • diffodd teledu ar y set neu yn y plwg, yn hytrach na drwy ddefnyddio'r teclyn newid sianelau
  • diffodd eich monitor pan fyddwch yn gadael eich cyfrifiadur
  • defnyddio gosodiadau sy’n arbed ynni ar eich cyfrifiadur

Cadw offer am fwy o amser, ailddefnyddio ac ailgylchu

Pan fyddwch yn prynu eitem drydanol newydd, gofynnwch i’r adwerthwr os gwnaiff ailgylchu eich hen eitem.

Os ydych chi’n meddwl taflu eitem drydanol:

  • ystyriwch gadw offer megis eich ffôn symudol neu eich cyfrifiadur am fwy o amser - gallai arbed arian i chi, arbed ynni a lleihau gwastraff
  • pasiwch eitemau nad oes arnoch eu heisiau ymlaen ar gyfer eu hailddefnyddio - mae dros hanner yr eitemau trydanol a deflir dal yn gweithio, neu fe allent gael eu trwsio’n rhwydd

Os oes arnoch angen cael gwared ar eitemau trydanol, sicrhewch eu bod yn cael eu hailgylchu mewn modd diogel a pheidiwch â’u taflu gydag ysbwriel y cartref.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth ymarferol am sut i wneud i offer bara am fwy o amser, pasio offer ymlaen ar gyfer ei ailddefnyddio, a chael gwared ar bethau mewn modd diogel.

Defnyddio llai o fatris

Bob blwyddyn, mae 600 miliwn o fatris yn cael eu taflu. Mae’r rhain yn cynnwys metelau gwerthfawr megis nicel ac weithiau maent yn cynnwys cemegau niweidiol megis cadmiwm. Gallwch chi helpu i arbed deunyddiau crai ac ynni drwy ddefnyddio llai o fatris, a’u hailgylchu. Bydd hyn hefyd yn atal cemegau niweidiol, megis plwm a mercwri, rhag gollwng i’r amgylchedd. Ceisiwch wneud y canlynol:

  • plygio dyfeisiau i’r prif gyflenwad trydan pan fyddwch yn eu defnyddio
  • defnyddio batris y gellir eu hailwefru pan fo modd, fel y teflir llai o fatris
  • ailgylchu batris a ddefnyddiwyd pan fo modd, drwy ddefnyddio'r ddolen isod i weld a oes man ailgylchu yn eich ardal
  • prynu dyfeisiau solar neu rai sy’n weindio megis setiau radio a thortshis, i chi allu hepgor batris yn gyfan gwbl

Osgoi argraffu pan fo modd

Peidiwch ag argraffu os nad oes gwir angen i chi wneud hynny oherwydd bydd hyn yn arbed ynni, papur ac inc. Dyma rai o'r pethau eraill y gallwch eu gwneud:

  • argraffu ar ddwy ochr y dudalen
  • ailgylchu eich papur gwastraff, a defnyddio papur wedi'i ailgylchu
  • clicio ar y dewisiadau 'drafft' neu 'economi' wrth argraffu, er mwyn arbed inc
  • ail-lenwi neu ailgylchu cetris inc gwag

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU