Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ailgylchu batris

Yn y DU, dim ond rhwng tri a phump y cant o holl fatris y cartref sy’n cael eu hailgylchu. Mae’r rhan fwyaf o hen fatris yn cyrraedd safleoedd tirlenwi, lle y gallant ollwng cemegau niweidiol i'r pridd. O 1 Chwefror ymlaen, bydd modd i chi ailgylchu batris yn unrhyw le lle gwelwch chi’r arwydd ‘Be Positive’.

Ble i ailgylchu batris y cartref

Bydd y mwyafrif o archfarchnadoedd sy’n gwerthu batris yn darparu biniau casglu ar gyfer hen fatris. Bydd rhai neuaddau tref, llyfrgelloedd neu ysgolion hefyd yn darparu mannau casglu.

Chwiliwch am yr arwyddion ‘Be Positive’ mewn siopau ac yn eu ffenestri er mwyn dod o hyd i'r mannau casglu hyn.

Mae nifer o gynghorau lleol eisoes yn casglu batris gyda’r gwasanaeth casglu nwyddau i’w hailgylchu o garreg y drws, neu maent yn darparu biniau yn y ganolfan gwastraff ac ailgylchu leol. Holwch eich cyngor lleol i weld pa ddewisiadau ailgylchu batris sydd ar gael yn eich ardal chi.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu batris ac am y cyfreithiau newydd, ewch i wefannau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS).

Y mathau o fatris y cartref y gallwch eu hailgylchu

Mae nifer o’r eitemau rydych yn eu defnyddio’n rheolaidd yn y cartref yn rhedeg ar fatris. Gallwch ailgylchu batris yr holl eitemau canlynol, a nifer o eitemau eraill hefyd:

  • ffonau symudol
  • gliniaduron
  • cymhorthion clyw
  • oriorau
  • camerâu cludadwy
  • offer pŵer diwifr
  • tortshis
  • brwshys dannedd trydanol
  • raseli
  • sugnwyr llwch llaw

Pam ailgylchu batris y cartref?

Mae rhai batris y cartref yn cynnwys cemegau fel plwm, mercwri neu gadmiwm. Os caiff batris eu taflu i fin sbwriel arferol, maent yn debygol o gyrraedd safle tirlenwi. Ar ôl iddynt gael eu claddu, bydd y batris yn dechrau datgymalu, a gallant ollwng rhai o’r cemegau hyn i’r ddaear. Gall hyn achosi llygredd pridd a dŵr, sy’n gallu bod yn beryglus i iechyd pobl.

Mae ailgylchu yn osgoi hyn, a gall hefyd helpu i adennill rhai o’r deunyddiau crai sy’n cael eu defnyddio i wneud batris. Gellir defnyddio’r rhain i wneud cynhyrchion eraill. Felly, gall ailgylchu arbed rhai o adnoddau’r blaned, drwy leihau’r angen i gloddio am ddeunyddiau newydd.

Beth sy’n digwydd i’r batris sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes?

Yn gyntaf, caiff y batris sydd wedi’u hailgylchu eu dosbarthu yn ôl math, er enghraifft, lithiwm, alcalinaidd, cell blwm, botwm mercwri, gan fod pob math yn cael ei ailgylchu’n wahanol.

Mae batris asid plwm (sy’n cael eu defnyddio ar gyfer batris ceir) a batris cell botwm mercwri (y batris fflat, crwn, arian sydd mewn oriorau) yn cael eu hailgylchu’n llawn yn y DU.

Mae batris lithiwm ac alcalinaidd (batris AA, AAA a 9v) yn cael eu hailgylchu’n rhannol yn y DU, ac yna’n cael eu hanfon i weithfeydd tramor ar gyfer gorffen y broses ailgylchu.

Caiff mathau eraill o fatris eu hanfon dramor, gan nad oes gan y DU weithfeydd sy’n gallu eu hailgylchu ar hyn o bryd.

Sut mae ailgylchu batris ceir

Caiff batris ceir eu trin fel gwastraff peryglus. Ni ddylent gael eu taflu gyda’r gwastraff arferol o’ch cartref. Gallant gael eu hailgylchu mewn modurdai, mewn cyfleusterau metel sgrap ac mewn nifer o ganolfannau ailgylchu a gwastraff lleol.

Mae yna ganfodydd cod post defnyddiol ar gael ar wefan ‘Recycle Now’, a gallwch chi ei ddefnyddio i chwilio am rywle i ailgylchu batris ceir, a pob math arall o wastraff.

Cael gwared ar offer trydanol ac electronig

Gall nifer o’r eitemau sy’n defnyddio batris cludadwy gael eu hailgylchu hefyd. Gallwch ailgylchu'r rhain, a hen offer electronig a thrydanol eraill, fel setiau teledu, oergelloedd a chyfrifiaduron yn eich canolfan ailgylchu a gwastraff lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU