Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall nifer o bethau a deflir gyda’r ysbwriel, megis rhai batris o’r cartref, olew o'r car, neu hen baent, gynnwys cemegau niweidiol sy'n peri difrod i'r amgylchedd. Yma, cewch wybod sut i gael gwared ar wastraff domestig peryglus mewn modd diogel.
Mae gwastraff yn beryglus pan mae ganddo briodweddau a allai beri niwed i iechyd dynol neu'r amgylchedd. Nid yw 'peryglus' bob amser yn golygu y bydd gwastraff fel hwn yn niweidiol ar unwaith, er y gallai hyn fod yn wir am rai mathau o wastraff.
Mae gwastraff domestig sy'n gallu bod yn beryglus yn cynnwys:
Ni ddylid taflu gwastraff peryglus, gan gynnwys eitemau trydanol megis setiau teledu a chyfrifiaduron, gyda gwastraff trefol cymysg. Gellir mynd â’r rhan fwyaf ohono i’ch canolfan gwastraff ac ailgylchu leol.
Mewn rhai achosion, mae'n bosib i'ch cyngor lleol allu casglu'r gwastraff gennych. Mae’n bosib y codir tâl am hyn. Byddant hefyd yn gallu eich cynghori ynghylch lle i fynd â phob math o wastraff peryglus yn eich ardal.
Batris
Gan ddechrau ym mis Chwefror 2010, bydd yn rhaid i bob siop sy’n gwerthu llawer o fatris i’r cartref ddarparu biniau casglu ar gyfer batris sydd wedi cael eu defnyddio. Mae’n bosib i chi hefyd roi hen fatris yn eich biniau ailgylchu cyffredin yn eich cartref, neu fynd â nhw i ganolfan gwastraff ac ailgylchu.
Dylid mynd â batris car i ganolfan gwastraff ac ailgylchu hefyd. Mae rhai siopau sy’n gwerthu batris car hefyd yn derbyn hen fatris ar gyfer eu hailgylchu. Holwch pan fyddwch yn prynu batri newydd ar gyfer eich car i weld a wna'r siop ailgylchu eich hen fatri i chi.
Asbestos
Gall asbestos fod yn beryglus os caiff ei dorri. Dylech gysylltu â’ch cyngor lleol i gael cyngor arbenigol ar sut i ddelio ag asbestos. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddelio ag asbestos yn yr erthygl 'cael gwared ar asbestos' yn yr adran Cartref a Chymuned.