Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Er mwyn i'r diwydiant ailgylchu fod yn llwyddiannus, mae'n rhaid cael marchnad ar gyfer deunyddiau sydd wedi eu hailgylchu. Wrth brynu cynnyrch wedi'i ailgylchu, rydych yn helpu i sefydlu'r farchnad ac yn sicrhau nad yw'r deunyddiau gwerthfawr hyn yn cael eu gwastraffu. Gall cynnyrch wedi'i ailgylchu fod lawn cystal â chynnyrch cyffredin.
Mae pobl yn y DU yn taflu cymaint o sbwriel fel y gellid llenwi'r Neuadd Albert bob dwy awr gyda'r holl sbwriel. Wrth brynu cynnyrch wedi'i ailgylchu, bydd llai o sbwriel mewn safleoedd tirlenwi a chaiff llai o adnoddau naturiol gwerthfawr eu gwastraffu.
Yn gyffredinol, mae cynhyrchion sydd wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu yn cymryd llai o ynni i'w cynhyrchu na deunyddiau newydd, gan helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae Logo Ailgylchu NAPM yn tystio fod cynnyrch yn cynnwys o leiaf 50 y cant o ffibrau wedi'u hailgylchu
Gall cynlluniau labelu eich helpu i wybod a yw'r cynnyrch yn cynnwys deunyddiau wedi'u hailgylchu:
Y cynnyrch ailgylchu mwyaf cyffredin yw papur. Mae'n hawdd dod o hyd i bapur toiled, rholiau cegin, hancesi papur, deunydd swyddfa a deunydd pacio sydd wedi'u hailgylchu, yn ogystal â phapur argraffu a llungopïo a phapur ysgrifennu.
Dyma rai o'r deunyddiau wedi'u hailgylchu sydd ar gael mewn archfarchnadoedd ac ar y stryd fawr:
Mae llawer o wneuthurwyr bellach yn defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu wrth becynnu, mewn poteli plastig a chynwysyddion bwyd. Chwiliwch am un o'r labeli uchod i weld a yw'r cynnyrch yr ydych chi'n ei brynu yn cynnwys deunydd wedi'i ailgylchu.
Mae'r Mobius Loop gyda'r ganran y tu fewn iddo yn dangos pa ganran o'r cynnyrch hwnnw sy'n ddeunydd wedi'i ailgylchu
Mae amrywiaeth syfrdanol o gynhyrchion wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, gan gynnwys:
Ceisiwch chwilio ar-lein am 'gynnyrch wedi'i ailgylchu' neu fwrw golwg ar Canllaw'r DU ar gynnyrch wedi'i ailgylchu.
Mae rhai anrhegion gwych ar gael sydd wedi'u gwneud o ddeunydd wedi'i ailgylchu, a hynny ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd. Maent yn amrywio o'r confensiynol (eitemau gwydr, fframiau llun) i'r anarferol (powlenni wedi'u gwneud o wifren ffôn, bagiau cosmetig wedi'u creu o wregysau diogelwch wedi'u hadfer).
Os ydych yn chwilio am eitem benodol, chwiliwch amdani ar-lein drwy roi'r enw ac 'ailgylchu' yn y blwch chwilio. I gael syniadau mwy cyffredinol, gallech chwilio ar-lein am 'anrhegion anarferol sydd wedi'u hailgylchu'.
Yn y gorffennol, nid oedd ambell gynnyrch, megis papur, yn cyfateb i'r cynnyrch newydd o ran safon. Fodd bynnag, golyga datblygiadau technolegol fod safon cynhyrchion wedi'u hailgylchu wedi codi ac yn awr yn cyfateb i safon yr eitemau newydd ran amlaf.
Dim ond os bydd pawb yn ailgylchu'r hyn y byddant yn ei brynu a'i ddefnyddio y bydd y gweithgynhyrchwyr yn gallu defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu. Ceisiwch ailgylchu cymaint ag y gallwch.