Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dŵr: defnyddio llai yn y cartref

Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr y dylid ei ddefnyddio'n ofalus. Mae tynnu dŵr o afonydd a llynnoedd at ddefnydd pobl yn effeithio ar fywyd gwyllt hefyd. Yma, cewch wybod sut i gwtogi ar eich defnydd o ddŵr, arbed arian ar eich biliau dŵr a helpu’r amgylchedd.

Pam mae arbed dŵr yn y cartref yn bwysig

Er bod y DU yn ynys, mae llai o ddŵr ar gael i bob person yn y DU na sydd yn Ffrainc, yn yr Eidal neu yng Ngroeg. Mae’r dŵr a ddefnyddir mewn cartrefi yn dod o afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd. Gall lefelau dŵr naturiol is fygwth y bywyd gwyllt sy’n dibynnu ar y lleoedd hyn ar gyfer goroesi.

Mae trin, trawsgludo a gwresogi dŵr domestig hefyd yn defnyddio llawer o ynni, sy’n ychwanegu at eich biliau tanwydd, ac sy’n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd.

Trowch y tapiau i ffwrdd

Gall gadael tap i redeg tra byddwch yn glanhau eich dannedd, neu’n golchi ffrwythau a llysiau, wastraffu tua naw litr o ddŵr y funud. Yn hytrach na gadael i ddŵr ac arian fynd i lawr y draen, dyma rai ffyrdd o leihau gwastraff:

  • casglu'r dŵr oer a ddaw cyn i dap boethi a'i ddefnyddio i roi dŵr i blanhigion
  • cadw jwg o ddŵr yn yr oergell yn hytrach na rhedeg y tap i gael dŵr oer
  • troi’r tapiau i ffwrdd pan fyddwch yn glanhau eich dannedd neu’n eillio
  • golchi ffrwythau a llysiau mewn bowlen golchi llestri sy'n llawn dŵr yn hytrach nag o dan dap sy’n rhedeg

Ffordd arall o gwtogi ar eich defnydd o ddŵr yw gosod awyrydd neu ben chwistrell ar dapiau basn ymolchi. Mae awyrydd yn cymysgu aer a dŵr a gall hyn leihau 50 y cant ar faint o ddŵr a ddefnyddir.

I gael mwy o wybodaeth am sut i arbed dŵr, ewch i wefan Act on CO2.

Fflysio llai o ddŵr i lawr y toiled

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau dŵr yn darparu 'hipos' am ddim i'w cwsmeriaid

Defnyddir tua thraean o ddŵr y cartref drwy fflysio toiledau. Mae'n debyg eich bod yn fflysio cymaint o ddŵr mewn diwrnod ag y byddwch yn ei yfed mewn mis cyfan. Ceir ffyrdd hawdd o leihau hyn:

  • gosodwch ddyfais dadleoli dŵr (a elwir weithiau'n 'hipo') yn nhanc dŵr toiled fflysh uchel - bydd y ddyfais hon yn lleihau un neu ddau litr fel arfer ar faint o ddŵr a ddefnyddir ym mhob fflysh
  • pan fyddwch yn prynu toiled newydd, prynwch doiled sy'n arbed dŵr, neu sydd â fflysh isel neu fflysh ddeuol
  • gosodwch ddyfais fflysh amrywiol ar doiledau fflysh uchel sydd gennych yn barod – bydd hyn yn rhoi dewis i chi o ran faint o fflysh i'w ddefnyddio er mwyn helpu i arbed dŵr

taflwch wlân cotwm, cynnyrch glanweithiol a gwastraff arall i'r bin, ac nid i'r toiled

Treulio llai o amser yn y gawod

Gall cawod sydyn ddefnyddio llai o lawer o ddŵr na bath. Fodd bynnag, nid yw pob cawod yn defnyddio dŵr yn effeithlon. Gall cawodydd pwerus iawn ddefnyddio mwy o ddŵr na bath mewn llai na phum munud.

I arbed dŵr, gallech ddefnyddio amserydd cawod i leihau'ch amser yn y gawod. Byddai treulio munud yn llai o amser yn y gawod, i deulu o bedwar, yn arbed 12,000 litr o ddŵr y flwyddyn.

Gallwch hefyd osod rheolydd llif dŵr ar eich cawod. Gall hyn leihau faint o ddŵr y byddwch yn ei ddefnyddio hyd at 30 y cant heb orfod lleihau pŵer y gawod.

Defnyddio offer sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon

Mae cylchau hanner llwyth yn defnyddio mwy o lawer na hanner yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar gyfer llwyth llawn

Mae faint o ddŵr a ddefnyddir gan beiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad yn amrywio'n sylweddol.

Mae gan bob peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad label ynni Ewropeaidd sy'n nodi pa mor effeithlon ydyw wrth ddefnyddio dŵr ac ynni. Gradd 'A' yw'r fwyaf effeithlon a gradd 'G' yw'r lleiaf effeithlon, felly gall dewis yn ofalus arbed arian, dŵr ac ynni i chi. Gallech wneud y canlynol hefyd:

  • chwilio am beiriant golchi dillad sy'n defnyddio llai na 50 litr o ddŵr ym mhob golch
  • chwilio am beiriant golchi llestri sy'n defnyddio llai na 15 litr o ddŵr ym mhob golch
  • ceisio defnyddio peiriannau dim ond pan fyddant yn llawn – mae cylchau hanner llwyth yn defnyddio mwy o lawer na hanner yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar gyfer llwyth llawn

Trwsio tapiau sy’n diferu a gollyngiadau

Gall tap sy’n diferu wastraffu hyd at 15 litr o ddŵr y dydd. Mae gollyngiadau dŵr yn golygu eich bod yn talu am ddŵr nad ydych wedi’i ddefnyddio, a gallant hefyd achosi llawer o ddifrod i’ch eiddo, ac i eiddo cyfagos o bosib.

Gall y gwaith plymio syml canlynol arbed llawer o ddŵr heb fod yn gostus:

  • trwsio tapiau sy'n diferu neu'n gorlifo; dim ond ychydig geiniogau mae golchwr newydd yn ei gostio, a gellir ei osod mewn mater o funudau
  • gosod canfodydd gollyngiadau a fydd yn eich rhybuddio os bydd gollyngiad unrhyw le yn eich tŷ
  • rhoi lagin ar eich pibellau allanol i helpu i atal pibellau rhag byrstio a gollwng dŵr yn y gaeaf

Bydd eich cwmni dŵr yn gallu eich cynghori ynghylch cost canfodydd gollyngiadau a sut i osod un ohonynt.

Defnyddio dŵr llwyd a dŵr glaw

Gelwir unrhyw ddŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio yn y cartref, heblaw dŵr o doiledau, yn ddŵr llwyd. Gellir ailddefnyddio dŵr y gawod, dŵr y bath a dŵr y basn ymolchi yn yr ardd. Mae’r canllawiau ar gyfer gwneud hyn yn cynnwys:

  • dim ond rhoi dŵr llwyd i blanhigion nad ydynt yn fwytadwy
  • sicrhau ei fod wedi oeri cyn i chi ei ddefnyddio
  • osgoi ei dywallt yn uniongyrchol ar ddeiliant

Gallwch hefyd gasglu dŵr glaw ar gyfer ei ddefnyddio yn eich tŷ i fflysio toiledau, i olchi'r car, i roi dŵr i blanhigion neu hyd yn oed ar gyfer y peiriant golchi dillad.

Ar gyfer hyn, bydd arnoch angen system gasglu dŵr glaw fawr. Mae’n rhaid iddi gael ei chysylltu â’ch system blymio ddomestig. Gellir dod o hyd i ragor o gyngor ynghylch casglu dŵr glaw ar wefan y Ganolfan Ynni Adnewyddadwy.

Arbed dŵr yn yr ardd

Gall peipen gardd ddefnyddio fwy o ddŵr mewn awr na'r hyn y bydd teulu o bedwar yn ei ddefnyddio mewn diwrnod. Dyma rai ffyrdd syml o arbed dŵr yn yr ardd:

  • defnyddio can dŵr yn hytrach na phibell – bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o ddŵr a ddefnyddiwch yn eich gardd
  • prynu casgen ddŵr i gasglu dŵr glaw – byddwch yn arbed dŵr o'r prif gyflenwad a'r ynni a ddefnyddir i'w drin

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU