Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod am orlifiad ar ffordd ac am bibelli dŵr wedi byrstio

Cewch yma ddysgu sut mae rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â dŵr yn gorlifo ar ffyrdd, pibelli dŵr wedi byrstio a draeniau wedi blocio, a phwy sy'n gyfrifol am y gwaith atgyweirio.

Rhoi gwybod am orlifiad o ffyrdd a draeniau

I roi gwybod am orlifiad ar ffyrdd cyhoeddus, o farrau gratin, draeniau neu gylïau wedi blocio, dilynwch y ddolen isod. Bydd yn mynd â chi i wefan yr awdurdod lleol perthnasol.

Gorlifiad o garthffosydd a draeniau preifat

I roi gwybod am garthffos gyhoeddus sy'n gorlifo, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol. Bydd gan y cyngor fapiau o'r carthffosydd - gellir eu gweld yn swyddfeydd y cyngor.

Os bydd carthffosydd neu ddraeniau preifat yn gorlifo, bydd angen trefnu i gontractwr draenio ddelio â'r sefyllfa. Efallai y gall eich cwmni dŵr wneud y gwaith atgyweirio a chodi tâl arnoch am unrhyw waith a wneir.

Gorlifiad o bibell ddŵr wedi byrstio

I roi gwybod am brif bibell ddŵr sydd wedi byrstio ac sy'n gorlifo dylech gysylltu â'ch cwmni darparu dŵr lleol. Y cwmni cyflenwi dŵr lleol sy'n gyfrifol am y cyflenwad dŵr ac am y pibelli sy'n arwain at y tap cau ar ffin eich eiddo, yn ogystal â'r tap cau ei hun. Falf sy'n cael ei ddefnyddio i ddiffodd llif y dŵr i'ch eiddo yw'r tap cau.

Llifogydd yn eich cartref

Os oes llifogydd yn eich cartref y peth cyntaf y dylech ei wneud yw cysylltu â phlymwr. Cyfrifoldeb perchennog y tŷ neu'r landlord yw'r pibelli mewnol a'r bibell gwasanaeth dŵr. Y bibell gwasanaeth dŵr sy'n mynd â dŵr o'r tap cau ar ffin yr eiddo i'r tŷ.

Gorlifiad o brif afon

I roi gwybod am brif afon sy'n gorlifo dylech gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'r Asiantaeth hefyd yn darparu 'Llinell Llifogydd' - gwasanaeth 24 awr sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth am lifogydd a rhybuddion llifogydd.

Gorlifiad o gyrsiau dŵr

Os ydych chi'n berchen ar dir neu eiddo sy'n ffinio ag afon neu gwrs dŵr arall (megis nant neu ffrwd melin) fe'ch ystyrir yn 'berchennog glan afon'. Mae hyn yn golygu y dylech sicrhau nad oes rhwystrau'n amharu ar lif y dŵr - gall y cyngor roi rhybuddion cyfreithiol i chi ddelio ag unrhyw rwystrau.

Cysylltwch ag adran gynllunio eich cyngor lleol i gael gwybod a ydych yn berchennog glan afon ai peidio. Ceir mwy o gyngor ar hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glan afon gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU