Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae rhybuddion llifogydd yn eich hysbysu pan fydd llifogydd ar fin digwydd. Yma, cewch wybod beth yw rhybuddion llifogydd a beth i'w wneud pan gewch chi un.
Os hoffech gael gwybodaeth am rybuddion llifogydd ar gyfer eich ardal chi dros y ffôn neu drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, dilynwch y ddolen isod. Darperir yr wybodaeth hon gan Asiantaeth yr Amgylchedd, sef corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am eich helpu i baratoi ar gyfer llifogydd.
Os oes rhagolwg o lifogydd yn eich ardal chi, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn defnyddio cyfres o bedwar cod i ddangos pa mor beryglus yw'r sefyllfa. Mae'r codau hyn fel a ganlyn 'llifolwg', 'rhybudd llifogydd', 'rhybudd llifogydd difrifol' a 'rhybudd ar ben' a gellir eu defnyddio mewn unrhyw drefn.
Caiff y pedwar cod llifogydd eu disgrifio'n fwy manwl isod gan gynnwys beth ddylech chi ei wneud ym mhob sefyllfa.
Mae'r cod hwn yn golygu y gallwch ddisgwyl llifogydd ar diroedd isel a ffyrdd. Dylech:
Mae'r cod hwn yn golygu y gallwch ddisgwyl llifogydd mewn cartrefi a busnesau.
Dylech:
Ceisiwch atal unrhyw ddŵr rhag dod i mewn i'ch cartref drwy:
Os nad ydych wedi gosod falfiau sy'n golygu mai dim ond i un cyfeiriad mae dŵr yn gallu mynd (falfiau di-droi-nôl) dylech:
Golyga'r cod hwn y gallwch ddisgwyl llifogydd difrifol a bod bywydau ac eiddo mewn perygl difrifol. Dylech:
Os bydd yn rhaid i chi adael eich cartref
Os bydd y gwasanaethau brys yn dweud wrthych am adael eich cartref dylech wneud hynny. Bydd gwrthod gadael ar ôl cael eich cynghori ganddynt yn eich rhoi chi, eich teulu a'r rheini sy'n ceisio eich helpu mewn perygl.
Byddwch yn mynd i ganolfan ar gyfer pobl sydd wedi gadael eu cartrefi dan ofal eich cyngor lleol. Darperir bwyd a dillad gwely am ddim i chi ond dylech ddod â dillad sbâr, meddyginiaeth hanfodol ac eitemau gofal babi gyda chi os oes eu hangen arnoch.
Bydd y rhan fwyaf o ganolfannau fel hyn yn gadael i chi ddod â'ch anifeiliaid gyda chi. Dylech roi cathod ac anifeiliaid bach mewn basgedi cludo anifeiliaid neu focs diogel a dewch â digon o fwyd ar eu cyfer.
Mae'r bobl sy'n rhedeg y canolfannau hyn wedi'u hyfforddi i roi cefnogaeth a chyngor i chi. Byddant yn eich helpu drwy'r straen o ganlyniad i lifogydd ac yn eich paratoi ar gyfer beth i'w wneud wedyn.
Golyga'r cod hwn nad oes llifolwg na rhybuddion mewn grym yn eich ardal bellach. Dylech wneud y canlynol: