Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Paratoi ar gyfer llifogydd

Gall llifogydd achosi llawer o ddifrod i’ch cartref a’ch eiddo. Gallwch leihau difrod yn sgil llifogydd os byddwch yn cynllunio o flaen llaw. Yma, cewch wybod sut i gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd a defnyddio’r canllaw hwn er mwyn paratoi ar gyfer llifogydd a diogelu’ch cartref rhag difrod yn eu sgil.

Cynllunio ymlaen llaw rhag llifogydd

Dilynwch y saith cam hyn os ydych yn credu eich bod mewn perygl o gael llifogydd.

1: Gofynnwch a yw’ch ardal chi mewn perygl o gael llifogydd

Gallwch ofyn i wasanaeth rhybuddion llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd.

Defnyddio’r map rhybuddion llifogydd

Gallwch roi eich cod post ar y map rhybuddion llifogydd canlynol i gael gwybodaeth ynghylch unrhyw beryglon llifogydd yn eich ardal.

Cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd

Os ydych yn byw mewn ardal sydd â pherygl uchel o lifogydd, gallwch gofrestru ar gyfer y ‘Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol’ drwy:

  • ffonio 0845 988 1188 (gwasanaeth 24-awr)
  • defnyddio Typetalk 0845 602 6340

Gallwch hefyd gofrestru ar lein ar gyfer y gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol drwy ddilyn y ddolen isod. Mae’r gwasanaeth yn darparu rhybuddion llifogydd buan drwy ffôn, neges destun, e-bost, ffacs neu alwr.

Ffyrdd eraill o gael rhybudd llifogydd

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd ar:

  • Dudalen Teletext 159, Tudalen BBC Ceefax 419 a Thudalen Ceefax Digidol 405
  • tywydd, newyddion a bwletinau i deithwyr yn lleol

Weithiau, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn rhoi rhybuddion tywydd drwy:

  • ganu seiren, sy’n rhybuddio fod llifogydd ar fin digwydd yn yr ardal
  • ailadrodd y rhybudd llifogydd dros uchelseinydd o gerbydau, sy’n cael eu gyrru o gwmpas yr ardal leol

2: Edrychwch ar eich yswiriant cartref

Edrychwch ar eich polisi yswiriant adeiladau a chynnwys er mwyn:

  • cadarnhau eich bod wedi’ch yswirio rhag llifogydd
  • cael gwybod a fyddwch chi’n cael eiddo newydd yn lle’r rheini sydd wedi’u difrodi (polisi ‘newydd yn lle hen’)

Os ydych yn byw mewn tŷ ar rent, cysylltwch â'ch landlord i gael gwybod am y polisi yswiriant ar gyfer eich fflat neu'ch tŷ.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd am sut y gall byw mewn ardal risg llifogydd effeithio ar eich yswiriant.

3: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae diffodd cyflenwadau nwy, trydan a dŵr

Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch sut mae diffodd eich cyflenwadau nwy, dŵr neu drydan, dylech ofyn i’ch darparwr am gyngor. Mae defnyddio sticeri i ddangos pa dapiau a switshis i'w diffodd yn ystod llifogydd yn ei gwneud hi'n haws i gofio ac yn golygu y gallwch wneud hyn yn gynt.

4: Paratoi pecyn o eitemau hanfodol

Bydd yr eitemau canlynol, wedi'u cadw gyda'i gilydd mewn lle y gellir eu cyrraedd yn hawdd, yn eich helpu i ymdopi mewn llifogydd:

  • copïau o'ch dogfennau yswiriant cartref
  • tortsh a batris sbâr
  • radio sy’n gweithio gyda batri neu radio sy'n cael ei droi â llaw
  • dillad cynnes sy’n dal dŵr a blancedi
  • pecyn cymorth cyntaf a chyflenwadau o unrhyw bresgripsiynau o feddyginiaethau sydd ei angen arnoch chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi
  • dŵr potel a bwyd na fydd yn llwydo, fel bwyd tin neu fwyd wedi’i sychu
  • pethau i ofalu am eich babi (os oes gennych un)

5: Cynlluniwch sut y byddwch yn cadw mewn cysylltiad yn ystod llifogydd

Dylech chi, ac unrhyw un sy'n byw gyda chi gytuno sut y byddwch yn cysylltu â'ch gilydd ac i le y byddwch yn mynd, rhag ofn y cewch eich gwahanu yn ystod llifogydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw rhestr o fanylion cyswllt pwysig gyda chi bob amser.

6: Symudwch eich eiddo gwerthfawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn symud eiddo gwerthfawr i le diogel cyn llifogydd. Gallech wneud hyn drwy symud eitemau megis dodrefn i lawr uwch yn eich cartref neu roi cyfarpar trydanol yn yr atig. Gallech hefyd adael eiddo fel anifeiliaid anwes, neu eich car gyda rhywun nad ydynt mewn perygl o lifogydd.

7: Bod yn ddiogel rhag llifogydd

Gallwch brynu cynnyrch 'diogelwch rhag llifogydd' arbennig a all helpu i atal llifogydd rhag difrodi eich cartref a’ch eiddo. Mae’r cynhyrchion hyn (fel bagiau tywod neu fyrddau llifogydd) yn eich helpu:

  • drwy atal dŵr rhag mynd i mewn i'ch cartref
  • drwy arafu’r gyfradd y bydd dŵr yn mynd i mewn i’ch cartref
  • drwy leihau’r difrod i waliau, gosodiadau llawr a ffitiadau
  • drwy wneud y broses lanhau yn haws ac yn gynt

Dylech ddilyn cyfarwyddiadau gwneuthurwyr i roi'r cynhyrchion hyn yn eu lle pan fyddwch yn cael rhybudd llifogydd.

Dilynwch y ddolen isod i weld gwybodaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch lle y gellir gwneud newidiadau i’ch cartref i leihau difrod yn sgil llifogydd.

Gall y nwyddau amddiffyn rhag llifogydd canlynol eich helpu i ddiogelu’ch cartref rhag difrod y llifogydd gwaethaf.

Bagiau tywod

Efallai y bydd eich cyngor yn darparu bagiau tywod yn ystod llifogydd i'ch helpu i amddiffyn eich cartref. Fodd bynnag, gall y cyflenwadau fod yn brin felly mae'n syniad da gwneud y canlynol:

  • prynu eich tywod a'ch bagiau eich hun
  • llenwi casys gobenyddion a bagiau plastig gyda phridd

Gweler ‘Bagiau tywod a sut i’w defnyddio’n gywir er mwyn cael amddiffynfa rhag llifogydd' isod am ganllawiau manwl gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar sut i ddefnyddio bagiau tywod.

Byrddau llifogydd

Mae byrddau llifogydd yn cael eu gosod ar fframiau o amgylch ffenestri a drysau. Gallwch olchi, storio a defnyddio'r rhain eto.

Gorchuddion plastig i selio brics aer

Fel arfer, gellir dod o hyd i frics aer mewn cartrefi wedi’u hadeiladu â brics ar waliau allanol ger lefel y llawr. Maent wedi’u cynllunio mewn modd sy’n gadael i aer gylchredeg drwy’r adeilad. Gall gorchuddion plastig rwystro dŵr rhag dod i mewn drwy’ch briciau aer mewn llifogydd.

Cynllun y Nod Barcud

Chwiliwch am y Nod Barcud gan Sefydliad Safonau Prydain (BSI) ar nwyddau amddiffyn rhag llifogydd. Golyga hyn fod y nwyddau wedi’u profi at safon gydnabyddedig. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am gynllun y Nod Barcud.

Allweddumynediad llywodraeth y DU