Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn ystyried cyflogi plymwr i wneud gwaith yn eich cartref, mae'n bwysig sicrhau eu bod yn gymwys, yn ddibynadwy ac yn broffesiynol.
Wrth chwilio am blymwr, mae'r Sefydliad Peirianneg Plymio a Gwresogi (IPHE), sef corff proffesiynol y diwydiant plymio, yn argymell y dylech wneud y canlynol:
Gofyn i ffrindiau/perthnasau/cymdogion pwy y maen nhw'n eu defnyddio.
Defnyddio un o aelodau'r Sefydliad Peirianneg Plymio a Gwresogi - rhaid i'r aelodau gael cymwysterau cydnabyddedig mewn plymio a/neu brofiad eang.
Dylech gael o leiaf tri amcanbris ac wrth ofyn am amcanbris holwch a oes ffi galw allan, faint o bobl fydd yn gwneud y gwaith ac a ydy'r pris yr awr yn cynnwys yr holl weithwyr neu a godir mwy am bob plymwr.
Gofynnwch am amcanbris ysgrifenedig - onid oes costau nad oedd modd eu rhagweld, ni ddylai'r bil terfynol fod yn rhy wahanol i'r amcanbris ysgrifenedig dechreuol hwn.
Esboniwch yn glir yr holl waith sydd angen ei wneud - dylech ei ysgrifennu i gyd ar bapur os oes modd.
Gofynnwch faint o amser y bydd y gwaith yn ei gymryd.
Ar ôl ichi gael plymwr a'r gwaith wedi'i gwblhau, gofynnwch am fil manwl llawn er mwyn ichi wybod lle mae'ch arian wedi mynd.