Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis adeiladwr da

Gall gwneud gwaith adeiladu beri straen, gall fod yn anghyfleus, yn gostus a gall aflonyddu llawer arnoch hefyd. Er mwyn lleihau effaith gwaith adeiladu arnoch, mae'n bwysig dewis yr adeiladwr iawn.

Rhai camau syml i'w cymryd

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr (NFB) yn darparu canllaw naw cam ar gyfer dewis adeiladwr addas.

Dechreuwch trwy ofyn i bobl am enwau

Os oes modd, dechreuwch drwy gael enw adeiladwr gan deulu neu ffrindiau sydd wedi cael gwaith wedi'i wneud yn ddiweddar.

Gofyn am gymorth gan gyrff masnach ag enw da

Cysylltwch â'ch cymdeithas adeiladwyr lleol a gofyn am restr o aelodau cofrestredig. Mae gan Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr 14 swyddfa ar draws y wlad sy'n gallu darparu rhestr o adeiladwyr cofrestredig yn eich ardal.

Gofynnwch am amcanbrisiau

Gofynnwch i ddau neu dri adeiladwr am amcanbris ar bapur. Gofynnwch iddynt gadarnhau a oes angen unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer y gwaith.

Gofynnwch am eirdaon a gwiriwch nhw

Gofynnwch i bob adeiladwr am ddau neu dri geirda gan gwsmeriaid blaenorol. Cysylltwch â'r bobl hyn a chanfod pa mor fodlon yr oeddent gyda'r gwaith a wnaed, ac ymddygiad yr adeiladwyr. Os oes modd, ewch i weld rhywfaint o'r gwaith.

Holwch a ydy'r adeiladwr yn perthyn i gorff masnach cymeradwy

Sicrhewch fod yr adeiladwr yn perthyn i gorff masnach cymeradwy gan y bydd ganddo ofynion a safonau ar gyfer ei aelodau. Cofiwch ffonio i sicrhau bod yr adeiladwr yn aelod cyfredol.

Cytunwch ar y gwaith a'i roi ar bapur

Dylech wneud cytundeb neu gontract ysgrifenedig gyda'ch adeiladwr. Dylai amlinellu'r gwaith i'w wneud, dyddiad cwblhau, gwarchodaeth a diogelwch, trefniadau arlwyo a thoiled, cael gwared ar ddeunydd gwastraff, oriau gwaith ac ati.

Yswiriant

Gofynnwch am gael gweld tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yr adeiladwr. Hefyd, gall y gwaith adeiladu effeithio ar eich yswiriant chi ar eich cartref a'r cynnwys - cysylltwch â'ch cwmni yswiriant.

Blaendaliadau a Thalu

Fel arfer, dim ond pan fydd angen deunyddiau penodol neu ddeunyddiau a wneir yn arbennig y bydd angen blaendaliadau neu pan fydd y prosiect yn cymryd amser maith i'w gwblhau. Fel arall, dylech osgoi talu blaendaliadau a chytunwch ar unrhyw amserlen dalu ar bapur.

Byddwch yn ofalus o'r 'fargen' dim TAW

Mae 'bargen' dim TAW yn golygu un o ddau beth. Naill ai nid yw'r adeiladwr yn gwneud mwy na £47,000 o fusnes y flwyddyn, neu mae'n ceisio osgoi ei rwymedigaethau treth cyfreithiol. Rhaid i chi ofyn y cwestiynau -"Ydy'r adeiladwr hwn yn ddigon mawr i allu cwblhau'r gwaith","Fydd yr adeiladwr o gwmpas os bydd angen trwsio unrhyw ran o'r gwaith?","Sut alla i gael contract dilys os nad oes prawf o dalu?"

Am ragor o wybodaeth am ddewis yr adeiladwr iawn ac i gael manylion swyddfeydd Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr yn lleol, ewch ar eu gwefan.

Allweddumynediad llywodraeth y DU