Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cofnodir bod tarddiad trydanol i ryw 6700 o danau y flwyddyn, sy'n cynnwys gwifro diffygiol neu annigonol. Mae'r tanau hyn, ynghyd â damweiniau gyda sioc drydanol yn achosi oddeutu 43 o farwolaethau a 2900 o anafiadau difrifol bob blwyddyn. Mae ceblau, switshis, socedi ac offer arall yn treulio dros amser, ac felly mae'n bwysig eu harchwilio a'u newid gan drydanwr cymwys.
Mae'n bwysig fod gwaith trydanol yn cael ei wneud gan bobl gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad gofynnol o'r math o waith trydanol sydd i'w wneud.
Mae'r gan y cyrff canlynol gynlluniau cofrestru i drydanwyr cymwys (weithiau fe elwir y rhain yn gynlluniau 'person cymwys'):
Mae'r cynllun hwn yn sicrhau bod masnachwyr sy'n ymuno ag ef yn gwbl gymwys i wneud gwaith trydanol ac mae'n darparu trefn gwyno. Mae'n bosib y bydd angen i chi hefyd ddefnyddio person cymwys i gydymffurfio â Rheolau Adeiladu