Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel perchennog cartref, tenant, landlord neu osodwr nwy, mae gennych hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â diogelwch nwy.
O 1 Ebrill 2009, mae'r Gofrestr Diogelwch Nwy yn disodli cofrestriad CORGI fel corff nwy diogel swyddogol y DU.
I ddod o hyd i beiriannydd sydd wedi’i gofrestru gyda Diogelwch Nwy, gallwch ymweld â’r wefan Diogelwch Nwy neu ffonio 0800 408 5500.
Fel landlord, rydych yn gyfrifol am ddiogelwch eich tenantiaid. Mae Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 yn delio'n benodol gyda dyletswyddau landlordiaid i sicrhau bod cyfarpar, gosodion a ffliwiau nwy a ddarperir ar gyfer defnydd tenantiaid yn ddiogel. Dylai landlordiaid:
Dylech roi mynediad i'ch landlord i'r eiddo er mwyn gallu gwneud archwiliadau diogelwch neu waith cynnal a chadw ar gyfarpar a/neu ffliwiau a ddarparant ar eich cyfer.
Dylai cyfarpar nwy a/neu ffliwiau sy'n eiddo i chi gael eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd a dylid cynnal archwiliad diogelwch o leiaf unwaith bob 12 mis gan osodwr sydd wedi cofrestru gyda Diogelwch Nwy.
Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch diogelwch cyfarpar nwy, dylid ei ddiffodd ac ni ddylid cyffwrdd ag ef tan iddo gael ei archwilio gan osodwr sydd wedi cofrestru gyda Diogelwch Nwy.
Fel perchennog eiddo, mae gennych gyfrifoldeb i chi eich hun ac i'r rhai sy'n byw yn eich cartref i sicrhau bod y gosodion a'r cyfarpar nwy yn ddiogel. Sicrhewch fod yr holl gyfarpar nwy a/neu ffliwiau'n cael eu cynnal a'u chadw'n rheolaidd a bod archwiliad diogelwch yn cael ei gynnal yn flynyddol neu unrhyw adeg arall os oes amheuaeth am ddiogelwch, a hynny gan osodwr sydd wedi cofrestru gyda Diogelwch Nwy.
Bob blwyddyn, mae ryw 30 o bobl yn marw o wenwyn carbon monocsid (CO) a achoswyd gan gyfarpar a ffliwiau nwy nad oeddynt wedi'u gosod yn iawn neu heb eu cynnal a'u cadw'n iawn. Bydd llawer mwy yn dioddef iechyd gwael. Pan nad yw nwy yn llosgi'n iawn, fel gyda thanwyddau eraill megis glo, coed neu olew, mae gormod o CO yn cael ei gynhyrchu sy'n wenwynig. Allwch ddim mo'i weld, ei flasu na'i ogleuo, ond gall CO ladd yn ddirybudd mewn mater o oriau.
Mae gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer defnyddwyr nwy er mwyn iddynt reoli offer/cyfarpar nwy yn ddiogel ac yn dweud wrthych beth i'w wneud mewn argyfwng. Mae hefyd yn darparu cyngor ar gyfer landlordiaid, ac asiantau gosod ynghylch sut i gydymffurfio â'r gyfraith.