Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Delio â phroblemau gyda draeniau a charthffosydd

Os oes gennych chi broblem gyda draen sydd wedi blocio, weithiau gallwch gael help gan adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol.

Draeniau a charthffosydd cyhoeddus

Bydd draeniau'n mynd â charthion (gwastraff o doiledau, ystafelloedd ymolchi a cheginau) a dŵr wyneb (dŵr glaw budr) o'ch eiddo. Y pibelli sy'n mynd â'r carthion a'r dŵr wyneb o un eiddo neu ragor yw'r carthffosydd.

Bydd carthffosydd yn cael eu cynnal a'u cadw naill ai'n gyhoeddus neu'n breifat. Os ydynt yn cael eu cynnal a'u cadw'n gyhoeddus, y cwmni dŵr a charthffosiaeth lleol sy'n gyfrifol am eu trwsio a'u cynnal a'u cadw. Gallwch weld pa gwmni sy'n gyfrifol am garthffosydd cyhoeddus yn eich ardal chi drwy ddilyn y ddolen isod.

Draeniau a charthffosydd preifat

Mae pob eiddo sydd â draen yn arwain at garthffos breifat yn rhannu'r cyfrifoldeb amdani. Mae'r cyfrifoldeb hwnnw'n parhau hyd at y pwynt lle mae'r garthffos breifat (gan gynnwys y cysylltiadau) yn ymuno â charthffos gyhoeddus. Golyga hyn yn aml fod pobl yn gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw peipiau draen sydd o dan dir rhywun arall, megis cymydog.

Perchnogion/deiliaid eiddo sy'n defnyddio'r garthffos uwch i fyny o unrhyw rwystr neu ddiffyg sy'n gyfrifol am y rhwystrau a'r diffygion mewn carthffos breifat. Efallai y gall eich cyngor lleol eich helpu i gael gwybod pa garthffosydd sy'n breifat.

Os ydych chi'n rhannol neu'n gwbl gyfrifol am gynnal a chadw draeniau a charthffosydd mae'n bosib y bydd eich yswiriant tŷ yn eich gwarchod os ceir unrhyw ddifrod.

Rhoi gwybod am ddraen sydd wedi blocio

Fel arfer, byddwch yn gwybod bod eich draen wedi blocio gan na fydd eich gwastraff yn diflannu wrth i chi dynnu tsiaen y toiled; efallai y bydd y tyllau archwilio a'r draeniau'n dechrau gorlifo hefyd. Os oes arogl neu rwystr sy'n niwsans cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol sydd â'r grym i ymchwilio i'r mater, i atgyweirio ac i gasglu costau gan berchennog y cartref.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Rhwystro draen rhag blocio

Gall draeniau a charthffosydd flocio neu gael eu difrodi am nifer o resymau gan gynnwys fflysio eitemau anaddas a'r difrod a achosir gan goed a phlanhigion eraill.

Gwaredu gwastraff anaddas

Pan fydd sylweddau heblaw dŵr gwastraff yn cael eu fflysio i lawr y draen gall hyn achosi problemau. Er enghraifft, gall olewau, saim a brasterau galedu ac arwain at arogleuon. Dylid ailgylchu'r eitemau canlynol os yw hynny'n bosib, neu'u rhoi mewn bag ac yn y bin:

  • bwyd gwastraff
  • paent
  • brasterau, olewau a saim
  • cadachau ymolchi babanod a chlytiau untro
  • condomau
  • cynnyrch glanweithiol
  • rhwymynnau a gorchuddion
  • gwastraff anifeiliaid
  • gwlân cotwm a bydiau cotwm
  • llafnau rasal

Difrod yn sgil gwaith adeiladu

Pan fydd unrhyw waith adeiladu yn mynd rhagddo gwnewch yn siŵr bod y pibelli dŵr wyneb a'r pibelli dŵr gwastraff yn cael eu cadw ar wahân. Os bydd angen cyngor arnoch pan fyddwch yn gwneud gwaith adeiladu ar ddraeniau a charthffosydd cysylltwch â swyddog rheoli adeiladu eich cyngor lleol. Mae'n ofyniad cyfreithiol eich bod yn rhoi gwybod i adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol am unrhyw weithgarwch a allai effeithio ar garthffos breifat neu ddraen neu arwain at ei haddasu neu ei hatgyweirio.
Gallwch hefyd:

  • ganiatáu man gweithio ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio bob amser
  • gwneud yn siŵr nad yw gwaith adeiladu yn difrodi'r ddraen neu'r garthffos drwy gysylltiad uniongyrchol â'r pibelli
  • peidio â disodli deunydd sy'n cynnal, yn diogelu ac yn amgylchynu'r pibelli

Creu cysylltiadau newydd at ddraeniau

Mae carthffosydd a draeniau dŵr wyneb a dŵr budr yn systemau ar wahân fel arfer, ac mae fwy na thebyg yn wir mewn tai sydd wedi cael eu hadeiladu mewn ardaloedd trefol ar ôl 1950. Os byddwch yn creu cysylltiad newydd gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r ddraen neu'r garthffos gywir. Os bydd carthion yn mynd i ddraen dŵr wyneb byddwch yn achosi llygredd ac fe allech gael eich erlyn. Os byddwch yn cysylltu draeniau dŵr wyneb â charthffos carthion, fe allai'r garthffos orlifo.

Difrod yn sgil llystyfiant

Cadwch ddraeniau a charthffosydd yn rhydd rhag llystyfiant os oes modd. Yn gyffredinol, os yw pibell yn llai nag 1m o ddyfnder:

  • dylai draeniau a charthffosydd newydd gael eu gosod o leiaf 3m oddi wrth y coed sydd yno'n barod; neu
  • dylid plannu coed newydd o leiaf 3m oddi wrth garthffos bresennol

Os yw pibell yn fwy nag 1m o ddyfnder, gellir lleihau'r pellter i 2m.

Os hoffech gael rhagor o gyngor ar leoli coed cysylltwch â Swyddog Coed eich awdurdod lleol.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU