Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Coelcerthi a’r gyfraith

Gall cynghorau lleol weithredu os ydych chi, neu eraill, yn llosgi deunyddiau peryglus neu’n cael coelcerthi’n rheolaidd. Os ydych chi am gael coelcerth, rhybuddiwch eich cymdogion ymlaen llaw a dilynwch y canllawiau hyn fel nad ydych yn achosi niwsans i bobl eraill.

Deddfau am niwsans a achosir gan goelcerthi

Nid oes deddfau penodol yn erbyn cael coelcerthi, na phan fyddwch yn cael un – ond ceir Deddfau sy’n delio â’r niwsans y gallant ei achosi.

Llosgi gwastraff domestig

Mae’n drosedd cael gwared ar wastraff domestig mewn ffordd sy’n debygol o achosi llygredd neu niwed i iechyd dynol, gan gynnwys ei losgi.

Mae llosgi plastig, rwber neu ddeunyddiau wedi'u paentio yn cynhyrchu mygdarthau gwenwynig. Gall y rhain gael effaith niweidiol ar iechyd – yn enwedig i bobl â phroblemau iechyd, fel y rheini sydd ag asthma a chyflyrau ar y galon.

Mae hyn yn dod dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Perygl i draffig wedi’i achosi gan fwg

Dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae unrhyw un sy'n cynnau tân ac yn gadael i fwg ledu ar draws ffordd yn wynebu dirwy os yw'n peryglu traffig. Os bydd hyn yn digwydd, ffoniwch yr heddlu.

Meddwl pa effaith a gaiff eich coelcerth ar y cymdogion

Mae yna ffyrdd o gael gwared ar wastraff o’ch gardd heb gael coelcerth

Os byddwch yn cael coelcerth, mae’n bosib y bydd y mwg a’r arogl y bydd yn ei greu yn cythruddo eich cymdogion. Gall mwg rwystro pobl rhag mwynhau yn eu gerddi, agor ffenestri a rhoi dillad ar y lein.

Os bydd eich cymydog yn cael coelcerth a’i bod yn effeithio arnoch chi, siaradwch â nhw ac egluro beth yw'r broblem. Mae’n bosib nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn peri gofid i chi – ac efallai nad ydynt wedi meddwl am ffyrdd eraill o gael gwared ar wastraff, megis compostio.

Cwyno wrth eich cyngor am goelcerthi

Os na fydd siarad â'ch cymdogion yn datrys y broblem, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd swyddogion y cyngor yn ceisio delio â’r broblem mewn modd anffurfiol.

Mae'n rhaid bod y coelcerthi'n digwydd yn rheolaidd ac yn tarfu’n ddifrifol ar eich lles i gael eu hystyried yn niwsans. Os mai dim ond yn achlysurol y ceir coelcerth, ee unwaith neu ddwy y flwyddyn, mae'n annhebygol y bydd y gyfraith yn ystyried hyn yn niwsans.

Os yw coelcerth yn niwsans yn nhyb y cyngor, gall roi ‘hysbysiad atal’. Mae’n bosib y bydd yr hysbysiad hwn yn gorfodi eich cymydog i roi’r gorau i gael coelcerthi’n gyfan gwbl. Os na fyddan nhw’n cydymffurfio fe allan nhw wynebu dirwy o hyd at £5000 a £500 arall am bob diwrnod nad ydynt yn cydymffurfio.

Os byddwch chi’n cael coelcerth

Os byddwch chi’n cael coelcerth, rhybuddiwch eich cymdogion – byddant yn llai tebygol o lawer o gwyno

Mae'n bosib mai’r unig ffordd o gael gwared ar wastraff gardd na ddylid ei gompostio, fel pren heintiedig, yw cael coelcerth. Os byddwch yn cael coelcerth, dilynwch y canllawiau syml hyn:

  • rhybuddiwch eich cymdogion ymlaen llaw – byddant yn llai tebygol o lawer o gwyno
  • dylech gynnau’r goelcerth ar adeg na fydd yn effeithio llawer ar eich cymdogion, ee ddim ar ddiwrnod braf pan fydd pobl yn eu gerddi
  • dim ond deunydd sych y dylech ei losgi, nid pethau tamp gan fod y rheini’n achosi mwy o fwg
  • dylech osgoi cynnau coelcerth pan fydd lefel y llygredd aer yn eich ardal yn uchel – gwrandewch ar ragolygon y tywydd neu ewch ar wefan Air Quality

Ffyrdd eraill o gael gwared ar wastraff o’r ardd

Gallwch gael gwared ar wastraff o’ch gardd heb gael coelcerth. Gall y rhan fwyaf o wastraff o’r ardd, megis toriadau gwair a dail, gael eu hailgylchu drwy wneud compost.

Yn hytrach nag anfon gwastraff gwyrdd i safleoedd tirlenwi, beth am gompostio? Byddai hyn yn helpu i leihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr. Efallai y gall eich cyngor lleol eich cynorthwyo i gael bin compost neu gynnig gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd i chi.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU