Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall ailgylchu helpu i arbed deunyddiau ac arbed ynni, ond mae lleihau gwastraff yn y lle cyntaf yn well fyth. Gallai mynd â’ch bag eich hun gyda chi wrth siopa helpu. Gallwch hefyd atgyweirio eitemau sydd wedi eu torri a dod o hyd i gartref dda ar gyfer unrhywbeth nad ydych eisiau rhagor.
Mae bron pumed o wastraff y cartref yn ddeunydd pacio o’r nwyddau a brynwn. Mae siopa’n ofalus yn gallu helpu i dorri i lawr ar y gwastraff hwn. Gallwch feddwl am:
Gellir atgyweirio eitemau cartref fel cyfrifiaduron, offer trydanol a dodrefn neu gall pobl eraill eu hailddefnyddio. Chwiliwch ar-lein neu yn eich llyfr ffôn lleol am wasanaethau atgyweirio yn eich ardal.
Gellir ailddefnyddio nifer o eitemau, gan gynnwys ffonau symudol, cyfrifiaduron, cetris argraffu, paent sydd dros ben a dillad. Hyd yn oed ar ôl i chi orffen gyda rhywbeth, yn aml iawn, bydd rhywun arall yn gallu ei ddefnyddio. Efallai y gallai mudiadau elusen cenedlaethol, siopau elusennol lleol, safleoedd arwerthu ar y we a chynlluniau cyfnewid am ddim ailddefnyddio'r nwyddau nad oes mo'u hangen arnoch.
I gael rhai syniadau am sut i leihau gwastraff eich cartref ymwelwch â gwefan My Zero Waste. Gallwch hefyd gyfrannu eich awgrymiadau ar gyfer ailddefnyddio eitemau a lleihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.
Cyfrifiaduron
Mae nifer fawr o sefydliadau ym mhob cwr o'r DU a fydd yn fodlon derbyn cyfarpar cyfrifiadurol nad oes mo'u hangen arnoch, a'u hatgyweirio neu eu hailgylchu. Mae nifer ohonynt yn elusennau sy'n rhoi budd i'r gymuned leol.
Dodrefn
Gellir ailddefnyddio, atgyweirio neu ailgylchu dodrefn nad oes mo'u hangen arnoch neu ddodrefn sydd wedi torri. Gall y Rhwydwaith Ailgylchu Dodrefn roi gwybod i chi am gynlluniau lleol sy'n trosglwyddo dodrefn ac offer eraill i deuluoedd sydd ar incwm isel. Mae hen ddodrefn a dodrefn ail-law yn aml yn ddewis poblogaidd os ydych yn chwilio am ddodrefn newydd neu'n dymuno cael gwared ar hen ddodrefn sydd mewn cyflwr da.
Dim ond os yw'r label diogelwch tân parhaol gwreiddiol yn dal ynghlwm iddo y cewch roi, prynu neu werthu dodrefn ail-law wedi’i glustogi, megis soffa. Fel arall, efallai na fyddai’n bodloni safonau diogelwch tân. I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS).
Paent
Ceisiwch beidio â phrynu mwy o baent nag sydd ei angen arnoch - prynir mwy na 300m litr o baent bob blwyddyn, ac ni fydd cryn dipyn ohono'n cael ei ddefnyddio. Gellir rhoi paent dros ben i rwydwaith cenedlaethol o sefydliadau ailddefnyddio paent, neu gael gwared ohono'n ddiogel trwy eich cyngor lleol
Llyfrau, DVDs a CDs
Gellir prynu a gwerthu llyfrau, CDs a DVDs ail-law ar-lein, neu gallech fynd â nhw i'ch siop elusen leol.
Mae gwneud cynhyrchion yn defnyddio ynni a deunyddiau crai. Dyma reol gyffredinol - mae ailddefnyddio neu atgyweirio pethau, yn hytrach na phrynu rhai newydd:
Ceir rhai eithriadau. Bydd hen declynnau megis boeleri a rhewgelloedd yn defnyddio llawer mwy o ynni na rhai newydd. Os ydych yn dymuno cael mwy o gyngor, cysylltwch â'ch Canolfan Cynghori ar Effeithlonrwydd Ynni lleol ar 0800 512012.