Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnydd adnoddau a gwastraff

Pe bai pawb yn y byd yn byw fel pobl yn y DU, amcangyfrifir y byddai angen gwerth tair planed o adnoddau i'n cynnal. Mae'r ynni a'r deunydd a wastreffir yn y DU yn rhoi pwysau ar yr amgylchedd yma ac o gwmpas y byd.

Y mater ehangach

Mae gofynion pobl ar adnoddau'r byd wedi dyblu dros y 40 mlynedd diwethaf.

Fel y rhan fwyaf o wledydd datblygedig, mae'r DU ar hyn o bryd yn defnyddio mwy na'n cyfran deg o adnoddau fel tanwydd, deunydd crai a dŵr. Gan fod y pethau a brynir gan bobl yn aml yn cael eu gwneud yn rhywle arall, nid arnom ni'n unig y mae ein ffordd o fyw'n cael effaith; mae'n niweidio'r amgylchedd mewn rhannau eraill o'r byd hefyd. Mae angen i wledydd datblygedig symud tuag at beidio defnyddio mwy na'u cyfran deg o adnoddau'r byd – mae'r syniad hwn wedi'i ddisgrifio fel byw un blaned.

Sut y mae adnoddau’n cael eu orddefnyddio

Mae gweithgaredd pobl wedi arwain at ddarwagio nifer o adnoddau naturiol, ac wedi creu problemau amgylcheddol difrifol:

Tanwyddau ffosil
Llosgir mwy a mwy o danwyddau ffosil i gynhyrchu trydan ac ar gyfer trafnidiaeth – mae hyn yn cynhyrchu carbon deuocsid sy'n achosi newid yn yr hinsawdd:

  • mae defnydd glo wedi codi mwy na hanner dros yr 20 mlynedd diwethaf, a bydd yn parhau i godi
  • rhagwelir y bydd defnydd olew'n codi'r un faint erbyn 2030

Mae'n cymryd tua 4000 litr o ddŵr i wneud crys-t cotwm

Dŵr
Mae bwyd a chynhyrchion eraill yn achosi galw enfawr am gyflenwadau dŵr yn y wlad hon a thramor. Er enghraifft:

  • mae'n cymryd tua 4000 litr o ddŵr i wneud crys-t cotwm – mae rhai llynnoedd mewn ardaloedd sy'n cynhyrchu cotwm yn sychu, gan achosi i stoc pysgod ddisgyn
  • mae poblogaeth pysgod dŵr croyw'r byd bron â haneru er 1970 oherwydd mwy o alw am ddŵr wrth gynhyrchu bwyd, ffibrau ac ynni

Tir pori
Mae'r galw am gynnyrch anifeiliaid yn cynyddu'n gyflym, ac amcangyfrifir bod effaith pori wedi dyblu'n fyd-eang dros y 30 mlynedd diwethaf – mae mwy o dir yn cael ei drosi'n laswelltir sy'n lleihau cynefinoedd bywyd gwyllt eraill, ac mae gor-bori'n lleihau nifer y rhywogaethau y gellir eu cynnal.

Coedwigoedd
Gall pren fod yn ffynhonnell adnewyddadwy ardderchog. Ond mae'r ffordd y mae pobl yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn achosi i goedwigoedd hynafol y byd dyfu'n llai. Mae coed yn cael eu colli ar gyfartaledd o tua 36 cae pêl-droed y funud oherwydd lledaeniad datblygiad trefol, torri coed anghyfreithlon, amaethyddiaeth a diwydiant.

Pysgod Mae gor-bysgota yn bygwth bywyd y cefnfor a’r bwyd a bywoliaethau dros filiwn o bobl. Mae cymaint â 90 y cant o holl bysgod mawr y cefnfor wedi'u pysgota'n llwyr. Mwy nac erioed, bydd angen rheoli pysgodfeydd yn gyfrifol er mwyn amddiffyn bywyd morol a gwarchod cynefinoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Lleihau gwastraff

Mae faint o wastraff y cartref sy’n cael ei ailgylchu neu gompostio wedi cynyddu i 31 y cant

Mae'r DU yn cynhyrchu sbwriel yn ddigon cyflym i lenwi Neuadd Albert yn Llundain bob dwy awr, ac mae ein safleoedd tirlenwi'n llenwi'n gyflym. Yn fwy na hyn, wrth i sbwriel bydru, mae'n cynhyrchu methan, sef nwy tŷ gwydr niweidiol sydd ag effeithiau newid yn yr hinsawdd yr ystyrir eu bod dros 20 gwaith yn fwy pwerus na charbon deuocsid.

Y newyddion da yw bod ailgylchu wedi dyblu dros y pedair blynedd diwethaf.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gellid lleihau gwastraff ymhellach:

  • mae cynhyrchu a chludo bwyd a diod yn achosi traean o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr; ond mae llawer ohono'n mynd i'r bin – mae cartref cyffredin yn y DU yn gwario £424 y flwyddyn ar gyfartaledd ar fwyd a deflir i ffwrdd
  • mae cartref cyffredin yn gwastraffu degfed rhan o'u biliau trydan, drwy adael offer yn y modd segur – ledled y DU mae hyn yn gyfystyr ag allbwn blynyddol dwy orsaf bŵer, yn gwastraffu tanwydd ffosil ac yn achosi newid yn yr hinsawdd
  • gwerthir 5bn o ganiau alwminiwm yn y DU bob blwyddyn, ac mae llawer ohonynt yn dal i fynd i safleoedd tirlenwi; er bod digonedd o'r metel hwn ar ôl, mae'n cymryd llawer iawn o drydan i'w gynhyrchu – mae angen yr un faint o ynni i gynhyrchu can newydd ag i gynhyrchu 20 can o ddeunydd wedi'i ailgylchu
  • mae'r DU yn cynhyrchu tair miliwn tunnell o wastraff plastig bob blwyddyn, ac mae'r rhan fwyaf ohono'n mynd i safleoedd tirlenwi – mae ailgylchu un botel blastig yn arbed digon o ynni i oleuo bwlb golau 60W am chwe awr

Fe welwch gyngor ymarferol ar Cross & Stitch am sut i arbed adnoddau, gwastraffu llai a'n helpu i symud tuag at fyw o fewn ein modd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU