Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gweithgarwch dynol yn niweidio'r amgylchedd naturiol, gan danseilio ei allu i ddarparu buddion hanfodol i bobl. Gellir gwneud pethau o ddydd i ddydd i helpu, fel prynu cynnyrch sy'n amgylcheddol garedig ac annog bywyd gwyllt yn eich gardd.
gall cynlluniau labelu eich helpu i wneud dewisiadau mwy gwyrdd
Wrth brynu cynhyrchion, o fwyd i ddodrefn, yn aml iawn ceir dewis mwy gwyrdd. Cadwch lygad am labeli sy'n dangos bod y byd naturiol wedi cael ei ystyried wrth greu'r cynnyrch - er enghraifft, pysgod wedi'u hardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol a chynnyrch pren wedi'i ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth. Gallwch ddefnyddio'r dolenni isod i gael gwybod am ddewisiadau gwyrdd eraill wrth siopa.
Mae popeth a brynwch yn effeithio ar yr amgylchedd mewn rhyw ffordd, felly gall sicrhau nad ydych yn gwastraffu pethau helpu. Er enghraifft, gallwch wastraffu llai o fwyd, peidio â newid eich ffôn symudol mor aml, osgoi gormod o becynnau a phlastig a defnyddio eich bag siopa eich hun.
gallwch lanhau eich cartref heb ddefnyddio cemegau a allai fod yn niweidiol
Mae llawer o gynhyrchion yn y cartref yn cynnwys cemegau a all fod yn niweidiol i'r amgylchedd naturiol. Yn aml iawn, mae'n bosib dewis cynhyrchion eraill sydd wedi'u cynhyrchu â llai o gemegau niweidiol ond sydd yr un mor effeithiol. Neu, fe allech wneud eich cynhyrchion glanhau eich hun o gynhwysion y byddwch yn eu defnyddio o ddydd i ddydd, fel sudd lemwn a finegr.
Pan mae'n bryd cael gwared ar rywbeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny'n ofalus ac yn ddiogel. Er enghraifft, mae llawer o eitemau electronig yn cynnwys cemegau a all niweidio systemau naturiol os na chânt eu gwaredu'n iawn.
gwnewch le yn eich gardd i fywyd gwyllt Prydain
Mae gerddi'n darparu cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt. Mae'r oddeutu 15 miliwn o erddi ym Mhrydain yn helpu i ddarparu noddfa i anifeiliaid sy'n prysur golli eu cartrefi naturiol yng nghefn gwlad. Mae sicrhau lle i fywyd gwyllt yn eich gardd, osgoi compost sy'n cynnwys mawn a defnyddio plaladdwyr dim ond pan fydd gwirioneddol raid i gyd yn gallu helpu. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er enghraifft, bolisi i beidio â defnyddio mawn.
Ceir llawer o gyfleoedd i fynd allan i'r awyr agored a threulio amser mewn man gwyrdd, hyd yn oed os ydych yn byw yng nghanol dinas. Drwy ddefnyddio'r dolenni isod gallwch ddod o hyd i warchodfa natur neu fan gwyrdd lleol. Gallwch hefyd gyfrannu mwy drwy wirfoddoli i helpu'r amgylchedd, drwy greu man gwyrdd newydd yn eich cymuned, neu hyd yn oed drwy helpu i gofnodi anifeiliaid a phlanhigion yn eich ardal.
dod o hyd i fudiad bywyd gwyllt i'w gefnogi
Mae llawer o fudiadau sy'n gweithio i ddiogelu bywyd gwyllt yn cynnig cyfleoedd i bobl gyfrannu neu ddangos eu cefnogaeth. Mae'r Cyswllt Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt (Wildlife and Countryside Link) yn grŵp ymbarél sy'n dwyn ynghyd fudiadau o'r fath sydd, gyda'i gilydd, yn cael cefnogaeth 8.5 miliwn o bobl yn y DU - mae'r ddolen isod yn mynd â chi at restr o fudiadau y gallech eu cefnogi neu ymuno â hwy.
Gallwch hefyd ddefnyddio eich grym dinesig i wneud yn siŵr bod y bobl sy'n eich cynrychioli, fel eich Aelod Seneddol, yn ystyried eich pryderon am yr amgylchedd.
Mae rhai anrhegion a bwydydd sydd ar gael mewn gwledydd penodol yn cael eu gwneud o blanhigion neu anifeiliaid sydd dan fygythiad, er enghraifft, croen anifeiliaid, ifori, tegeirian, cwrel neu ramin (math o bren caled trofannol). Pan fyddwch yn prynu rhywbeth, gall fod yn anodd gwybod a yw wedi dod o ffynhonnell sydd dan fygythiad ai peidio. Holwch cyn i chi fynd i ffwrdd, ond os oes gennych amheuaeth, peidiwch â phrynu anrhegion sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid na phlanhigion.