Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Annog bywyd gwyllt yn eich gardd

Mae annog adar, mamaliaid a phryfed i ymweld â'ch gardd ac i fyw ynddi yn helpu i ofalu am fywyd gwyllt yn y DU. Gall hefyd helpu i gadw rheolaeth ar blâu yn eich gardd drwy annog ysglyfaethwyr naturiol. Cael gwybod sut mae gwneud lloches i anifeiliaid, dewis planhigion sy’n garedig tuag at fywyd gwyllt a chadw adar yn ddiogel rhag cathod.

Y mater ehangach

Ceir tua 15 miliwn o erddi ym Mhrydain. Yn Lloegr, maent yn gorchuddio ardal fwy na'r holl warchodfeydd natur i gyd gyda'i gilydd.

Mae annog bywyd gwyllt i ddod i'ch gardd yn cyfrannu at y gwaith o wneud iawn am golli cynefinoedd anifeiliaid (llefydd byw) mewn lleoedd eraill. Mae pyllau mewn gerddi, er enghraifft, wedi helpu i ddiogelu bywyd dyfrol a bywyd amffibiaidd, megis pysgod a brogaod.

Darparu lloches i fywyd gwyllt

Un ffordd o wneud i anifeiliaid deimlo'n gartrefol yn eich gardd yw creu llefydd i fywyd gwyllt fyw a nythu ynddynt. Mae creu amrywiaeth yn helpu i ddarparu cynefinoedd i wahanol anifeiliaid. Mae pryfed yn arbennig yn helpu i gadw'ch gardd yn iach – byddant yn peillio planhigion, yn bwyta pryfed eraill ac maen nhw eu hunain yn fwyd i'r adar. Dyma rai syniadau syml a all helpu:

  • gadewch foncyffion wedi pydru mewn cornel yn eich gardd i wneud cartref i ddraenogod a phryfed
  • dyllwch foncyffion a changhennau wedi'u tocio i roi lloches a lle i nythu i bryfed
  • gadewch lonydd i un ardal o'ch gardd - gall mannau sydd wedi gordyfu roi lle i anifeiliaid fel draenogod neu lwynogod gael seibiant neu fynd i gysgu dros y gaeaf
  • mae blychau ar gyfer adar ac ystlumod yn annog creaduriaid i nythu a gorffwys yn eich gardd

Creu pwll

Mae pyllau fel magnet i fywyd gwyllt. Maent yn denu llyffantod, brogaod, madfallod y dŵr, gweision y neidr a phryfed eraill. Mae pyllau hefyd yn darparu dŵr ar gyfer adar, ac mae'n syndod pa mor hawdd yw eu creu. Os nad oes gennych lawer o le, gallech hyd yn oed ddefnyddio hen sinc neu faddon.

Bwydo'r anifeiliaid

Gallwch helpu bywyd gwyllt yn eich gardd drwy roi bwyd a rhywle i ymolchi iddynt:

  • denwch adar i'ch gardd drwy gynnig bwyd iddynt gan ddefnyddio byrddau a theclynnau bwydo adar
  • rhowch y byrddau adar yn ddigon pell o lefydd y gall cathod eu cyrraedd, neu eu rhoi ger llwyni pigog er mwyn rhwystro ysglyfaethwyr digroeso rhag eu dal
  • glanhewch fyrddau adar yn rheolaidd a pheidiwch â gadael bwyd yno i bydru
  • daliwch ati i fwydo'r adar yn rheolaidd – bydd adar yn dod i ddibynnu ar y bwyd a ddarperir iddynt a gallant ddioddef os byddant yn gwastraffu eu hegni'n hedfan i chwilio'n ofer am fwyd
  • dewiswch blanhigion sy'n blodeuo ac yn cynhyrchu hadau neu ffrwythau ar wahanol adegau o'r flwyddyn, fel y gall pryfed, adar ac anifeiliaid gael bwyd ym mhob tymor
  • mae angen i adar ymolchi'n aml i gadw'u plu yn daclus felly gall baddon bach i'r adar fod yn werthfawr dros ben wrth ddenu adar

Dewis planhigion sy’n garedig tuag at fywyd gwyllt

Meddyliwch am fywyd gwyllt pan fyddwch yn prynu planhigion neu'n penderfynu beth i'w dyfu yn eich gardd. Dewiswch rai sy'n denu ac yn bwydo amrywiaeth o bryfed ac anifeiliaid. Er enghraifft:

  • bydd hadau blodau'r haul yn darparu bwyd i adar ar ôl i'r blodau farw
  • mae lafant yn denu gwenyn
  • mae buddleia yn ardderchog ar gyfer gloÿnnod byw a gwenyn
  • daw gwyfynod at driaglog coch (red valerian), gwyddfid a phlanhigion sy'n blodeuo yn y nos
  • mae'r eiddew brodorol yn un o'r planhigion gorau ar gyfer bywyd gwyllt, ac yn fuddiol i adar, mamaliaid, gloÿnnod byw, gwenyn, pryfed hofran a phryfed defnyddiol eraill

Plaladdwyr yw'r dewis olaf

Mae plaladdwyr wedi'u creu i ladd a rheoli plâu, chwyn a ffyngau. Fodd bynnag, gallant hefyd ladd neu atal y bywyd gwyllt y carech ddenu i'ch gardd, gan gynnwys yr ysglyfaethwyr sy'n bwyta plâu. Ceisiwch:

  • osgoi defnyddio cemegau pan fo'n bosib
  • wneud yn siŵr nad yw plaladdwyr na chemegau peryglus o baent neu orffeniadau yn mynd i byllau, oherwydd gallant wenwyno'r hyn sy'n byw yn y dŵr

Rheoli'ch cath

Rhowch gyfle i'r adar ddianc o afael eich cath drwy roi clychau ar goler y gath. Dylai hyn rybuddio adar bod eich anifail anwes yn nesáu atynt. Mae'n well cael mwy nag un gloch oherwydd gall rhai cathod ddysgu i symud yn dawel pan mai dim ond un gloch sydd ar eu coler.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU