Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Siediau, tai gwydr a dodrefn gardd: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu'r amgylchedd tra'n cael y mwyaf o'ch gardd. Gall dewis siediau a dodrefn gardd wedi'u gwneud o bren cynaliadwy, peidio â gwresogi tai gwydr a dewis paent a farneisiau'n ofalus helpu.

Y mater ehangach

Mae tanwydd a losgir i wresogi tai gwydr yn creu allyriadau carbon deuocsid - y prif nwy tŷ gwydr sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Hefyd, mae rhai siediau a dodrefn gardd wedi'u gwneud o bren sydd wedi'u torri'n anghyfreithlon. Mae torri pren caled yn anghyfreithlon mewn coedwigoedd glaw yn cyfrannu at ddatgoedwigo, sydd ar hyn o bryd yn achosi 20 y cant o ollyngiadau carbon y byd.

Dewis deunydd cynaliadwy ar gyfer siediau a dodrefn

Caiff rhai coed poblogaidd ar gyfer siediau a dodrefn gardd eu cynaeafu mewn modd anghynaladwy - ac weithiau'n anghyfreithlon - o goedwigoedd hynafol.

Mae'n hawdd dod o hyd i bren cynaliadwy mewn siopau stryd fawr. Chwiliwch am label o gynllun ardystio coedwig megis y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC) neu'r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).

Gallech hefyd ofyn i'ch adwerthwr os ydynt yn cadw stoc o nwyddau pren ardystiedig. Mae'r Ganolfan Arbenigedd ar Gaffael Pren (CPET) yn rhestru rhaglenni ardystio dibynadwy, yn ogystal ag enghreifftiau o labeli ar ei gwefan.

Peidio â gwresogi tai gwydr

Os ydych yn defnyddio tŷ gwydr i dyfu'ch ffrwythau a'ch llysiau eich hun, rydych yn helpu'r amgylchedd eisoes drwy leihau'r ynni a fyddai'n cael ei ddefnyddio i gludo a storio bwyd.

Fodd bynnag, gall gwresogi tŷ gwydr dros fisoedd y gaeaf fod yn wastraffus. Nid yw tai gwydr wedi'u hinswleiddio'n dda, ac mae cynhyrchu'r ynni a ddefnyddir i'w gwresogi'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Gallai bod yn ofalus wrth adeiladu a defnyddio eich tŷ gwydr gael gwared â'r angen am wresogi yn y gaeaf yn gyfan gwbl:

  • cadwch wydr eich tŷ gwydr yn lân, yn enwedig lle mae cwareli'n gorgyffwrdd, oherwydd bydd hyd yn oed baw normal yn lleihau lefelau golau'n ddramatig ac yn lleihau'r gwresogi naturiol o'r haul
  • rhowch eich tŷ gwydr mewn man golau sy'n cael haul drwy'r dydd ac nid yng nghysgod coed na waliau
  • bydd angen llai o wresogi mewn tŷ gwydr ar-bwys sy'n rhannu wal gyda'ch tŷ
  • mae tai gwydr sy'n sefyll ar eu pen eu hunain gyda'r rhan isaf wedi'i gwneud o frics neu bren yn cadw gwres yn well na rhai sy'n wydr i gyd
  • seliwch fylchau o gwmpas cwareli neu ddrysau sydd ddim yn ffitio'n dda er mwyn atal gwres rhag dianc
  • ystyriwch symud planhigion llai gwydn i'r tŷ dros y gaeaf yn hytrach na gwresogi'r tŷ gwydr cyfan er eu mwyn

Dewis gorchuddion yn ofalus

Mae farneisiau, paent a thriniaeth pren sy'n cael eu defnyddio ar ffensys a dodrefn awyr agored yn aml yn cynnwys cyfansoddion organig anweddol (VOCs). Maent yn achosi llygredd aer a gallent fod yn niweidiol i iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion.

Wrth ddewis paent, farnais neu driniaeth pren, ceisiwch ddod o hyd i un â'r effaith leiaf posibl ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei wneud:

  • dylai labeli cynnyrch ddangos y cynnwys VOC; dewiswch yr opsiwn gyda'r cynnwys VOC lleiaf
  • mae paent 'naturiol' neu 'naturiol i gyd', paent llaeth a gwyngalch yn cael llai o effaith na phaent arferol
  • edrychwch i weld a oes rhybudd perygl ar label y cynnyrch - os gallwch ddewis, dewiswch gynnyrch heb rybudd perygl
  • gwaredwch baent, farneisiau a thriniaeth pren yn briodol, oherwydd gallant fod yn beryglus - cysylltwch â'ch cyngor lleol am gyfarwyddyd ar waredu

Defnyddio deunydd wedi'i adfer a'i ailgylchu

Bydd defnyddio deunydd wedi'i adfer neu ei ailgylchu'n helpu i arbed y deunydd crai a'r ynni a ddefnyddir i wneud eitemau newydd, a lleihau gwastraff:

  • os ydych chi'n cynllunio decin neu flychau plannu pren, ystyriwch ddefnyddio pren wedi'i adfer o iard goed
  • gwnewch eich cynwysyddion planhigion eich hunain o wrthrychau diddorol neu anarferol sy'n cael eu taflu allan, megis baddonau, sinciau, neu hen sosbenni copr
  • dewiswch addurniadau haearn bwrw a adferwyd, os yw hynny'n bosib
  • chwiliwch am gynhyrchion sydd â labeli'n dweud eu bod yn defnyddio pren, metel neu blastig wedi'i ailgylchu

Annog bywyd gwyllt gyda'ch sied neu'ch garej

Anogwch fwsogl a phlanhigion eraill i dyfu ar do eich sied neu'ch garej – mae toeau fflat yn arbennig o addas. Gall to byw:

  • inswleiddio'r ystafell oddi tano, gan arbed ynni ar wresogi ac oeri
  • darparu cynefin i bryfed a bywyd gwyllt arall
  • gwella ymddangosiad yr adeilad

Gellir defnyddio siediau ac adeiladau eraill yn yr ardd i greu lle i fywyd gwyllt mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, drwy osod blychau nythu neu annog planhigion sy'n dringo.

Os nad ydych yn gallu llwytho'r ffeil PDF drwy ddilyn y ddolen ganlynol, mae'n bosib y gallwch gael taflen gan: Natural England, Enquiry Service, Northminster House, Peterborough, PE1 1UA. Ffoniwch 0845 600 3078 neu anfon e-bost at: enquiries@naturalengland.org.uk

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU