Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Barbiciws a gwresogyddion awyr agored: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae bwyta ac yfed yn yr awyr agored yn boblogaidd dros ben yn y DU – bu tua 100 miliwn o bobl ym Mhrydain yn mwynhau barbiciws yn 2005 yn unig. Ceir ffyrdd o amddiffyn yr amgylchedd tra byddwch yn mwynhau diddanu yn yr awyr agored. Ceisiwch ddewis golosg wedi'i wneud o bren a gynhyrchwyd yn gynaliadwy ac osgoi gwresogyddion awyr agored.

Gwisgwch siwmper

Mae gwisgo mwy o ddillad neu fynd i mewn pan fyddwch yn oer yn fwy gwyrdd na defnyddio gwresogydd awyr agored. Y rheswm am hyn yw bod y gwresogyddion, sy'n cael eu pweru gan nwy neu drydan, yn defnyddio llawer o ynni, sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae'r gwresogydd patio cyffredin yn gollwng yr un faint o garbon deuocsid mewn pedair awr â char cyffredin mewn diwrnod.

Dewiswch eich golosg yn ofalus

Dim ond cyfran fechan o'r golosg a ddefnyddir ar ein barbiciws a wneir yn y DU. Gellir mewnforio golosg o gymaint â 12,000 milltir i ffwrdd, ac mae ei gludo'n arwain at ollyngiadau carbon sylweddol.

Mae prynu golosg a gynhyrchwyd mewn coedwigoedd a reolir mewn modd cynaliadwy'n helpu i atal datgoedwigo a thorri coed anghyfreithlon. Chwiliwch am olosg gyda label sy'n profi ei fod wedi'i wneud o bren cynaliadwy.

Gellir canfod labeli'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC) a chynlluniau'r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) ar olosg cynaliadwy yn siopau'r stryd fawr.

Gwneud eich barbiciw eich hun

Mae creu eich barbiciw eich hun yn dasg sy'n gyflym ac yn rhad. Y cyfan y bydd ei angen arnoch fydd ychydig o friciau a rac gril metel. Gallech ddefnyddio slabiau concrid neu friciau wedi'u hailgylchu, a'r rac gril o'r ffwrn. Gwnewch bentwr o'r briciau neu'r slabiau ar arwyneb sy'n gwrthsefyll tân (ar y ddaear neu ar goncrid), nes i'r ochrau fod yn ddigon tal i gynnau tân oddi tanynt. Gosodwch y gril metel ar ben y briciau, a bydd yn barod i'w ddefnyddio.

Gallwch hefyd geisio gwneud popty clai ar gyfer coginio bwyd yn yr awyr agored. Ewch i ymweld â gwefan y BBC i wylio fideo ar adeiladu popty clai o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

Gwneud eich cychwynwyr tân eich hun

Mae cychwynwyr tân masnachol yn cynnwys cemegau a all effeithio ar flas eich bwyd, a niweidio'r amgylchedd. Ceisiwch ddefnyddio papur newydd wedi'i sgrwnsio, neu unrhyw bapur gwastraff i ddechrau eich barbiciw. Bydd hyn yn arbed arian ac yn fwy caredig i'r amgylchedd.

Osgowch wastraff

Dyma beth allwch chi ei wneud:

  • ystyriwch ddefnyddio platiau a chyllyll a ffyrc arferol yn eich barbiciws yn hytrach na rhai un-tro
  • ystyriwch fenthyg neu brynu barbiciw y gallwch ei ddefnyddio eto, yn hytrach nag un un-tro
  • ailgylchwch bob potel, tun, napcyn papur a chynhwysydd
  • mae lludw o lympiau golosg yn dda am niwtralu asid mewn pridd, felly ceisiwch ei ddefnyddio yn yr ardd yn hytrach na'i daflu i ffwrdd

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU